Mae gweledigaeth un ffermwr defaid ar gyfer dyfodol fferm deuluol draddodiadol wedi ennill gwobr Academi Amaeth Cyswllt Ffermio yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru 2017.

agri academy business and innovation group 2017

Her Huw Jones a’i gyd aelodau yn y Rhaglen Busnes ac Arloesedd Academi Amaeth Cyswllt Ffermio 2017 oedd creu cynllun pum mlynedd ar gyfer fferm go iawn yn Somerset.

Roedd y cynlluniau gweithredu yn seiliedig ar waith ymchwil gwreiddiol ac awgrymiadau i sicrhau bod Fferm Fernhill yn gynaliadwy a phroffidiol.

Treuliodd y grŵp dri diwrnod ar y fferm cyn cyflwyno’u cynlluniau i banel o feirniaid dan arweiniad yr Athro Wynne Jones OBE FRAgS, sydd hefyd yn gadeirydd ar fwrdd cynghori strategol Cyswllt Ffermio. Roedd y panel hefyd yn cynnwys y ffermwyr, Andrew Ware a Jennifer Hunter a Gareth Wilson, pennaeth Polisi Ffermio yn y Dyfodol Llywodraeth Cymru a Wyn Owen, ymgynghorydd newid sefydliadol.

Mewn seremoni arbennig yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn Llanelwedd, dywedodd Geraint Hughes, cydlynydd Rhaglen Busnes ac Arloesedd yr Academi Amaeth gyda Menter a Busnes, fod y panel yn hapus iawn gyda safon gwaith ymchwil yr aelodau yn ogystal â safon y cynlluniau gweithredu.

Er bod gan bob un ohonynt yr un busnes fferm i weithio arni, roedd gan bob un awgrymiadau gwahanol.

professor wyn jones huw jones and gareth wilson head of future farming policy at the welsh government
Ond, cynnig Huw Jones ddenodd sylw’r beirniaid, felly, derbyniodd wobr am gynllun a gafodd ei ddisgrifio fel ‘rhagorol’ gan yr Athro Jones.

Dywedodd Huw, sy’n ffermio yn Aberhonddu, fod y cwrs wedi ehangu ei orwelion, yn mynd yn ôl i’r pethau sylfaenol ac yn gwneud i’r aelodau gwestiynu eu hunain.

“Mae wedi galluogi ni i edrych ar beth sydd gennym ni yn barod er mwyn dadansoddi hynny a gofyn i’n hunain beth rydym ni’n bersonol eisiau oddi wrth y busnes,” dywedodd.

 

Derbyniodd pob aelod dystysgrif er mwyn nodi eu haelodaeth i’r Academi Amaeth.

Yn ystod eu hamser ar y cwrs, cafodd yr aelodau eu profi mewn rhaglen heriol a chyffrous o ymweliadau, gweithdai a chyflwyniadau mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys ymweliad tramor i’r Swistir.

Mae’r cyfnod ymgeisio ar gyfer Academi Amaeth 2018 yn agor ar ddiwedd mis Ionawr.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites