17 Rhagfyr 2018

 

george dunn tfa 0
Mae gwybod eich hawliau fel ffermwr tenant, yn ogystal â’ch rhwymedigaethau i’ch landlord, yn hanfodol i sicrhau bod eich bywoliaeth yn cael ei diogelu gymaint â phosibl.

Dyma fydd un o’r prif negeseuon gan Cyswllt Ffermio, fydd yn gwahodd ffermwyr tenant drwy Gymru yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd, i neilltuo lle mewn cyfres o Fforymau rhanbarthol i Ffermwyr Tenant. Y rhain fydd y digwyddiadau cyntaf o’r math yma i gael eu darparu’n benodol ar gyfer ffermwyr tenant. Os bydd digon o alw, mae Cyswllt Ffermio’n awyddus i ddarparu cymorth pellach i'r sector hwn. 

Cynhelir y digwyddiadau rhwng 7pm a 9.30pm, ac mae’r dyddiadau a’r lleoliadau ar gyfer y rownd yma yn cynnwys Gwesty’r Ivy Bush yng Nghaerfyrddin ar 4 Ionawr; Neuadd y Pentref Llanddewi yn Llandrindod ar 10 Ionawr a Glasdir yn Llanrwst ar 28 Ionawr. 

Eglurodd Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, fod y digwyddiadau yma’n cael eu cynnig er mwyn diwallu anghenion nifer fawr o ffermwyr tenant sy’n ceisio rhedeg busnesau hyfyw, llwyddiannus o dan amodau cyfyngedig gwahanol ac anodd yn aml, heb sicrwydd cyfochrog mewn asedau tir sy’n gallu rhwystro twf ac amrywiaeth busnesau.

“Yn aml mae ffermwyr tenant yn wynebu cymalau cudd yn eu cytundebau tenantiaeth sy’n gallu cyfyngu ar ddatblygiad eu busnesau. Dyna pam mae'n hanfodol eu bod yn deall holl gymhlethdod eu cytundebau tenantiaeth a gwybod sut y gallan nhw gryfhau eu gallu i fenthyca,” meddai Mrs. Williams.

Pwrpas ‘Fforymau ffermwyr tenant’ Cyswllt Ffermio yw creu llwyfan sy’n dod â ffermwyr tenant at ei gilydd i’w helpu i ddeall eu cytundebau, cael disgwyliadau realistig a dysgu sut i oresgyn rhai o’r problemau y maen nhw’n eu hwynebu. Hefyd byddant yn rhoi gwell darlun i Cyswllt Ffermio o’r prif rwystrau sy’n wynebu’r sector, fydd yn eu galluogi i ddatblygu gwasanaethau cefnogi pellach i helpu ffermwyr i reoli neu oresgyn y rhain.

Bydd y rhaglen ar gyfer pob fforwm yn cynnwys cyflwyniad gan George Dunn, prif weithredwr Cymdeithas Ffermwyr Tenant a gan Mrs Manon Williams, cyfreithwraig sy’n arbenigo mewn materion gwledig gydag Agri Advisor, cwmni yng Nghymru sy’n delio â chyfraith wledig. Bydd  Mrs Elaine Rees Jones, sy’n ymgynghorydd gwledig arbenigol gyda Menter a Busnes, ac sy’n briod â ffermwr tenant, yn hwyluso sesiwn ryngweithiol gan annog y rhai sy’n bresennol i leisio eu pryderon a thrafod problemau nodweddiadol. Bydd y digwyddiad yn gorffen gyda sesiwn Holi ac Ateb.

Dywed Mr Dunn bod cyfran fawr o ffermwyr tenant, sy’n amrywio o rai sy’n ffermio daliadau bach y cyngor i eraill sy’n rhedeg unedau’n cynnwys cannoedd o erwau, heb ddigon o wybodaeth am eu hawliau wrth gyd-drafod trefniadau gyda landlordiaid.

“Mae nifer o faterion yn debygol o godi yn ystod cyfnod o denantiaeth amaethyddol, ond mae'n bosibl datrys y rhan fwyaf drwy gyfathrebu da rhwng y landlord a’r tenant, caniatâd hyddysg ac ystyriaeth ofalus gan y ddau barti.”

Cytundebau tenantiaeth; cynllunio olyniaeth; trwsio a chynnal a chaniatâd ar gyfer adeiladau newydd fydd rhai o’r materion a drafodir, ynghyd â thorri telerau tenantiaeth a allai arwain at hysbysiadau cyfreithiol i gywiro a rhybudd i ymadael. 

“Efallai bod rhai ffermwyr tenant yn ystyried ildio eu tenantiaethau, tra bod eraill yn chwilio am fwy o dir.

“Mae'n hanfodol bod pob ffermwr tenant yn ymwybodol o beth yn union a ddisgwylir ohonynt a’r goblygiadau tymor hir.

“Os ydyn nhw’n rhoi’r gorau i denantiaeth, boed cymhelliant fel taliad neu dŷ ar gael ac yn yr un modd, os cynigir mwy o dir, mae angen iddynt ddeall eu hawliau a’u cyfrifoldebau,” meddai Mr. Dunn.

Dylid neilltuo lle drwy ffonio Meinir Parry ar 01248 660376 neu e-bostio meinir.parry@menterabusnes.co.uk

Ariennir Cyswllt Ffermio gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried
Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut
Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn