22 Chwefror 2018
Fel rhan o’n gweithgareddau Cyswllt Ffermio, mae tri bloc ychwanegol o driniaethau newydd yn cael eu creu ar laswelltir ger lleiniau hirdymor Brignant. Dangosodd ymchwil blaenorol IGER ym Mronydd Mawr fod dileu mewnbwn gwrtaith yn gallu cael effaith negyddol iawn ar gynhyrchiant porfeydd wedi’u pori ar ôl ychydig flynyddoedd yn unig, gyda rhywogaethau glaswellt wedi’u hau a heb ei hau yn cael eu disodli gan fwsogl a deunydd marw. Mae biomas a gwerth maethol yn lleihau o ganlyniad, a dros amser, gall y capasiti ddisgyn i lai na thraean o’r hyn sy’n bosibl ar dir glas lle bod mewnbynnau’n parhau. Nid yw’r glaswellt o amgylch lleiniau gwreiddiol Brignant wedi derbyn gwrtaith ers 8 mlynedd o leiaf, ac mae newidiadau tebyg i’w gweld.
Yn y prosiect hwn, byddwn yn profi effeithiolrwydd technegau adfer gwahanol fel opsiynau ar gyfer dwysau cynaliadwy ar borfeydd parhaol. Roedd y dull cyntaf yn cynnwys triniaeth gydag og adfywio er mwyn gwaredu deunydd marw a mwsogl; ychwanegu calch i godi’r pH i dros 6; ychwanegu potasiwm a ffosfforws yn ôl y galw er mwyn adfer y mynegai pridd gorau posibl, ac ail gyflwyno ychwanegiadau nitrogen anorganig yn y gwanwyn.
Roedd yr ail ddull yn defnyddio’r un arferion o ddefnyddio og, ychwanegu calch ac adfywio mynegai ffosfforws a photasiwm, ond wedyn yn hau cymysgedd o wahanol feillion gwyn, meillion coch a lotws yn eang (cyfraddau hau o 3.3kg/ha, 3.5kg/ha a 2.2kg/ha yn eu trefn). Mae’r amrywiaethau a mathau o bob un a ddefnyddiwyd wedi cael eu dewis yn benodol yn seiliedig ar waith ymchwil parhaus gan fridwyr planhigion IBERS. Maent yn cynnwys mathau a ddewiswyd yn benodol oherwydd eu gallu i sefydlu mewn priddoedd ymylol, a’u dyfalbarhad ar gyfer pori. Rhoddwyd triniaeth i atal gwlithod yn uniongyrchol ar ôl hau. Defnyddiwyd offer wedi’i osod ar feic pedair olwyn ar gyfer llyfnu a hau er mwyn gallu cyrraedd tir serth a lleihau cywasgiad pridd. Mae cyfansoddiad botanegol a chemegol y glaswellt yn cael eu mesur yn rheolaidd i asesu sefydliad a dyfalbarhad y codlysiau a gyflwynwyd, ac effaith y ddwy strategaeth adfywio ar gynnyrch biomas a gwerth maethol.