Ai dyma eich cyfle i rannu gwersi a phrofiadau bywyd gwerthfawr gydag eraill a rhoi cyfraniad yn ôl i ddiwydiant amaeth Cymru?

Mae Cyswllt Ffermio wedi dechrau chwilio am ffermwyr, coedwigwyr a/neu gynhyrchwyr bwyd gydag o leiaf 15 mlynedd o brofiad o redeg busnes fferm neu goedwigaeth yng Nghymru, sy'n meddu ar y sgiliau a'r arbenigedd angenrheidiol i fod yn fentoriaid un-i-un i gefnogi'r math o newid trawsnewidiol fydd yn gyrru'r diwydiant yn ei flaen.

Unwaith byddant wedi eu recriwtio, bydd y tîm newydd yn gyfrifol am fentora ystod eang o unigolion, yn amrywio o newydd ddyfodiaid a busnesau amaeth sy’n ystyried newid cyfeiriad sylweddol megis arallgyfeirio, ychwanegu gwerth, ehangu a mentrau newydd, i'r rhai hynny sy'n ystyried trefniadau ffermio cyfran neu ffermio cytundeb.  Bydd y gwasanaeth hefyd ar gael i’r rhai sy’n wynebu anawsterau neu galedi eithafol.

Mae Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sy'n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, yn dweud mai pwrpas y fenter mentora newydd hon yw cynnig gwasanaeth cyfrinachol sy’n rhoi dimensiwn ychwanegol i ymgynghori, trwy roi cefnogaeth ac arweiniad wedi’i deilwra i anghenion unigol, ac sy’n eu cynorthwyo i gyflawni eu potensial fel pobl fusnes llwyddiannus a chadarn.  Bydd angen i’r rhai sy’n derbyn y gwasanaeth mentora newydd hwn fod wedi cofrestru gyda'r rhaglen Cyswllt Ffermio newydd.

“Bydd pob ymgeisydd yn mynd drwy broses recriwtio manwl er mwyn sicrhau fod y bobl iawn yn llenwi'r rôl a bod gennym gronfa digon amrywiol o brofiad a sgiliau i baru mentoriaid a mentai yn y modd mwyaf effeithiol.

“Bydd angen i chi fod yn wrandäwr da, yn meddu ar sgiliau cyfathrebu gwych, a bod yn  barod i gynnig cyngor ac adborth onest ac adeiladol.

“Mae mentora yn gofyn am arddull gwahanol iawn i ymgynghori, ac mae angen i fentor effeithiol feddu ar nifer o sgiliau arbenigol er mwyn meithrin perthynas lwyddiannus.  Bydd angen i’r rhai sy’n derbyn y gwasanaeth allu lleisio eu pryderon o'u gwirfodd a deall yn yr un modd y gallant ddisgwyl derbyn safbwynt diduedd, annibynnol a deallus.

“Bydd nifer o fentoriaid yn gallu rhannu eu profiadau personol, gan fod clywed am lwyddiannau neu anawsterau a wynebir gan eraill yn aml yn cynorthwyo pobl i weld safbwynt newydd ynglŷn â’u dewisiadau eu hunain,” ychwanegodd Mrs. Williams.

Yn ogystal â chynnig clust i wrando ar syniadau, bydd mentoriaid yn hwyluso'r broses o wneud penderfyniadau trwy awgrymu dewisiadau eraill a allai fod yn seiliedig ar eu profiadau personol neu ddealltwriaeth ehangach o'r diwydiant.

Gallant hefyd gyfeirio mentai at gysylltiadau a rhwydweithiau eraill ar gyfer cyfleoedd datblygiad busnes a phersonol a trwy’r rhaglen Cyswllt Ffermio ehangach a thu hwnt.

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio ar gyfer rôl fel mentor Cyswllt Ffermio, mae manyleb swydd a ffurflen gais ar y dudalen Mentora.
Fel arall, cysylltwch ag Einir Davies,  rheolwr y rhaglen fentora, ar 01970 636297 neu e-bostiwch:  einir.davies@menterabusnes.co.uk 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y