14 Gorffennaf 2025

Mae'r unigolion a ddewiswyd ar gyfer Academi Amaeth 2025 wedi cael eu datgelu.
Bydd cyfarfod cyntaf y 24 ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei gynnal mewn digwyddiad yn Sioe Frenhinol Cymru ddydd Mawrth 22 Gorffennaf.

Mae gan yr Academi Amaeth bellach dros 300 o gyn-aelodau ers iddi gael ei lansio gyntaf yn 2012.

Mae'n darparu rhaglen sy’n llawn gweithgareddau o hyfforddiant, mentora, cymorth ac arweiniad trwy dair sesiwn breswyl ddwys ac ymweliad astudio dramor, gyda dwy elfen benodol:

Academi Amaeth – ar gyfer unigolion dros 21 oed, sydd wedi’i hanelu at gefnogi ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ac arloeswyr blaengar y byd amaeth yng Nghymru.

Rhaglen yr Ifanc – wedi’i hanelu at gefnogi pobl ifanc rhwng 16 a 21 oed sy’n gobeithio datblygu gyrfa neu sefydlu busnes yn y diwydiannau bwyd neu amaeth.
Yn ddiweddarach eleni, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yr Academi Amaeth yn teithio i Japan ar gyfer eu hastudiaeth dramor a bydd ymgeiswyr Rhaglen yr Ifanc yn ymweld â Norwy.

Ymhlith yr ymgeiswyr llwyddiannus eleni mae Siwan Roberts a fagwyd ar fferm bîff a defaid 350 erw ei theulu yng Nghanolbarth Cymru.

Mae Siwan yn helpu i reoli menter dwristiaeth sy'n tyfu ar y fferm sydd ar hyn o bryd yn cynnwys tri phod glampio gyda chynlluniau pellach i drosi tair ysgubor yn llety gwyliau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cyflwynodd y teulu wartheg Wagyu, i ddechrau ar gyfer eu defnydd eu hunain ond mae'r fenter bellach ar fin ehangu, gan gyflenwi cig eidion a fagwyd gartref i ymwelwyr hefyd.

“Bydd ymweld â busnesau fferm eraill yn y DU ac yn enwedig cwrdd â chynhyrchwyr cig eidion Wagyu yn Japan, yn fy nghyflwyno i rwydweithiau newydd, yn fy ysbrydoli ac yn fy annog i ddatblygu ein menter Wagyu ein hunain.”

Ymgeisydd arall a ddewiswyd eleni yw Ioan Humphreys, sy'n cael ei adnabod fel 'That Welsh Farmer’ar Instagram, sydd â dros 50,000 o ddilynwyr! Yn 32 oed, mae Ioan yn rhannu llawer o'r hyn y mae'n ei wneud yn ei fenter gymysg lewyrchus yng Ngharno, Powys, sy’n cynnwys rheoli 800 o famogiaid, 25 o wartheg bîff, ac yn fwy diweddar, dofednod.

Ar hyn o bryd mae Ioan yn buddsoddi mewn gosod panel solar 150kW i leihau costau a gwella cynaliadwyedd. Mae hefyd yn paratoi cais cynllunio ar gyfer siop fferm a chaffi ar y safle i arallgyfeirio'r busnes ymhellach.

Credai y bydd yr Academi Amaeth yn ei alluogi i gyflwyno syniadau newydd a golwg newydd ar y ffordd maen nhw'n rhedeg y busnes.

Mae Gwenllian Davies o Ben Llŷn, sydd wedi’i dewis ar gyfer Rhaglen yr Ifanc yn astudio Amaethyddiaeth Lefel 3 yn ei blwyddyn gyntaf yng Ngholeg Glynllifon ar hyn o bryd.
Wedi'i magu ar fferm laeth ei theulu, lle mae tua 340 o wartheg sy'n lloia yn yr hydref yn cael eu godro bob dydd, a thrwy leoliadau gwaith ar ffermydd llaeth eraill, mae hi wedi datblygu sgiliau ymarferol cryf a dealltwriaeth ddofn o ofal anifeiliaid a gweithrediadau fferm.

Mae Gwenllian, sy’n gyffrous am fod yn rhan o ddyfodol y diwydiant, yn awyddus i ddatblygu sgiliau newydd ac edrych ar gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol.

Hefyd wedi'i ddewis ar gyfer Rhaglen yr Ifanc mae Dafydd Davies sy'n byw ar fferm bîff a defaid yr ucheldir ger Llanwrtyd. Ar hyn o bryd mae'n astudio Peirianneg yn ymwneud â’r Tir Lefel 3 ar gampws Coleg Sir Gâr Gelli Aur, ei nod hirdymor yw cyfuno ffermio â gweithgareddau dylunio a pheirianneg.

“Mae gen i ddiddordeb mewn arloesedd amaethyddol a byddwn wrth fy modd yn cael y cyfle i deithio dramor felly bydd ymweld â Norwy, sy'n enwog am ei systemau ffermio effeithlon, yn uchafbwynt i mi yn yr Academi Amaeth.”

“Dyma gyfle oes a ni allaf aros i gwrdd â ffrindiau newydd, cyfnewid syniadau a dysgu gan yr arbenigwyr rwy’n cwrdd â nhw!

Mae bywgraffiadau a lluniau o'r 24 ymgeisydd ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr arobryn, Ynyr Pugh o Ganolbarth Cymru, yn trafod ei lwyddiant o ganlyniad i Ffermio Cyfran
16 Chwefror 2026 Mae Ynyr Pugh yn ffermwr ymroddedig, llawn
Sut mae cofnodi perfformiad yn llunio gwelliannau gwerthfawr mewn diadell fynydd yng Nghymru
10 Chwefror 2026 Mae enillion mamol a gyflawnwyd trwy gofnodi
Bwydo glaswellt trwy'r dail yn rhoi hwb i borthiant india-corn mewn cyfnod o sychder, yn ôl arbrawf fferm
Bu i ddefnyddio’r dull bwydo drwy’r dail ar india-corn a oedd yn