Agrisgôp yw rhaglen datblygu rheolaeth Cyswllt Ffermio sydd yn newid meddylfryd, agwedd a gallu'r unigolion sy'n ymuno.

Mae Cyswllt Ffermio'n recriwtio rhwydwaith newydd o arweinwyr ar hyn o bryd i sefydlu a hwyluso grwpiau Agrisgôp ledled Cymru.  

Rydym yn chwilio am unigolion hunanysgogol sy’n cyfathrebu’n dda.   Bydd gennych un ai radd mewn amaeth neu bwnc perthnasol neu o leiaf dair blynedd o brofiad o weithio yn y diwydiant yng Nghymru.  

Mae’r Rhaglen Agrisgôp newydd, a fydd yn cael ei gyflwyno o’r 1af o Hydref 2015 yn cynnwys:

  • Grwpiau traddodiadol ar lawr gwlad

Bydd y rhain yn dod ag unigolion o’r un anian ynghyd i ddarganfod dulliau newydd neu well o weithio neu ffrydiau incwm newydd.

  • Grwpiau themâu

Bydd y rhain yn dod  â grŵp o ffermwyr ynghyd sydd eisiau canolbwyntio ar yr un pwnc. Gall hwn amrywio o ddarparu gwerth ychwanegol neu ddarganfod marchnadoedd newydd ar gyfer bridwyr a chynhyrchwyr i wella ansawdd dŵr neu fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy. 

  • Grwpiau dysgu gweithredol wedi eu harwain gan fusnes

Bydd y rhain yn dod â grŵp o aelodau sy’n dymuno canolbwyntio ar nod neu amcan penodol sy’n ymwneud â’r busnes.

Eich rôl chi fydd recriwtio unigolion o fusnesau fferm a choedwigaeth i ymuno â’ch grŵp, i drefnu cyfarfodydd ac i hwyluso trafodaeth rhwng aelodau a mentoriaid perthnasol eraill er mwyn iddynt allu dysgu trwy broses ‘Dysgu Gweithredol’.

Eich cyfrifoldeb allweddol fydd annog aelodau eich grŵp i groesawu mentergarwch i'w gweithgareddau busnes o ddydd i ddydd ac i  ymchwilio neu ddatblygu syniadau busnes newydd.  

cysylltiadau ychwanegol


Related Newyddion a Digwyddiadau

Mentora yn rhoi dewrder i cyn newyddiadurwraig y BBC i gychwyn ar brosiectau amgylcheddol ar gyfer fferm ei theulu
24 Mehefin 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Pam y dylai pob fferm yng Nghymru osod nod i gynyddu carbon organig pridd
30 Mai 2024 Bydd lleihau amharu ar y pridd, tyfu cnydau gorchudd
Merched mewn Amaeth Cyswllt Ffermio yn dychwelyd – ac eleni mae ar daith!
29 Mai 2024 Mae merched sy’n gweithio ym myd amaeth ledled Cymru