Estynnir gwahoddiad i ffermwyr a choedwigwyr o bob cwr o Gymru fynychu Fforwm Ffermwyr Cymru Cyswllt Ffermio a gynhelir rhwng 10yb – 4yp ddydd Iau, 2 Chwefror 2017 yn Hafod a Hendre, Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd.
Dywedodd Eirwen Williams, Cyfarwyddwr Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig, mai thema’r fforwm fydd canolbwyntio ar yr hyn y gallwch ei reoli, er gwaethaf dylanwadau allanol megis Brexit a phrisiau cyfnewidiol y farchnad, er mwyn ysbrydoli mynychwyr i ddiogelu dyfodol eu busnesau eu hunain.
“Gyda chymaint o ansicrwydd yn wynebu’r diwydiant ar hyn o bryd, ein nod ar gyfer y digwyddiad hwn, a fydd yn cael ei gadeirio gan yr Athro Wynne Jones OBE FRAgS, cadeirydd bwrdd strategol Cyswllt Ffermio, fydd i ysbrydoli mynychwyr i ganolbwyntio ar yr elfennau hynny yn eu busnesau sydd dan eu rheolaeth.
“Byddant yn clywed cyflwyniadau gan nifer o bobl fusnes llwyddiannus sydd un ai’n gwneud hynny eu hunain, neu’n cynghori eraill ynglŷn â’r hyn y gallan nhw ei wneud i achub y blaen ar y gystadleuaeth.”
Mae’r siaradwyr ar gyfer y fforwm, a fydd hefyd yn cynnwys nifer o sesiynau holi ac ateb rhyngweithiol, yn cynnwys Sion Williams, Rheolwr Fferm ar ran Buccleuch ar Ystâd 3,786 erw Bowhill ar Ffiniau’r Alban, a fydd yn trafod gwelliannau effeithlonrwydd a newidiadau’n seiliedig ar y farchnad i’r mentrau defaid, gwartheg a thir âr.
“Sut allwn ni ddod trwy’r storm” fydd cwestiwn yr arbenigwr bancio, Euryn Jones, Cyfarwyddwr Amaethyddol Rhanbarthol HSBC, a fydd yn canolbwyntio ar ddiogelu busnesau fferm a choedwigaeth a rheoli cyfnodau cyfnewidiol. Bydd Andrew Slade, Cyfarwyddwr Amaethyddiaeth, Bwyd a’r Môr yn rhoi ei safbwynt ynglŷn â’r hyn allai Brexit a datganoli ei olygu i’r diwydiant amaeth yng Nghymru, a bydd yr academydd blaengar Jamie Newbold, Athro Gwyddor Anifeiliaid yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth yn edrych ar y cyfleoedd sy’n debygol o godi o ganlyniad i newid hinsawdd.
Yn ogystal, bydd tri ffermwr Cymreig sydd wedi ennill gwobrau yn eu maes ac sydd hefyd wedi elwa o’r ystod eang o wasanaethau cefnogi sydd ar gael trwy raglen Cyswllt Ffermio, yn rhoi cyflwyniadau yn trafod sut maent wedi datblygu eu busnesau eu hunain, sut maent yn adnabod anghenion y busnes, gwneud penderfyniadau ac yn rhoi newidiadau ar waith.
Enillodd Richard Tudor, ffermwr bîff a defaid o Llysun, ger y Trallwng, sydd hefyd yn ffermwr arddangos Cyswllt Ffermio, deitl Ffermwr Bîff y Flwyddyn y Farmers Weekly ar gyfer 2016; enillodd Ben Anthony o Frowen, Hendy Gwyn ar Daf, un o fentoriaid Cyswllt Ffermio, deitl Arloeswr Defaid y Flwyddyn ar gyfer 2016 yng Ngwobrau Ffermio Prydain; ac enillodd Eurig Jenkins, Pentrefelin, ger Llanbedr Pont Steffan, sydd hefyd yn fentor Cyswllt Ffermio, deitl Ffermwr Tir Glas y Flwyddyn Cymdeithas Tir Glas Prydain yn 2016.
I gloi’r fforwm, bydd tîm technegol Cyswllt Ffermio’n rhoi diweddariad ynglŷn â phrosiectau a threialon sy’n cymryd lle ar hyn o bryd ar draws rhwydwaith arddangos y rhaglen.
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael yn y fforwm, felly mae’n rhaid archebu lle cyn y dyddiad cau, sef 26ain Ionawr 2017.
Gallwch archebu ar lein ar y wefan www.llyw.cymru/cyswlltffermio neu e-bostio
sian.tandy@menterabusnes.co.uk neu ffoniwch 01970 631404.
Diwedd