23 Mawrth 2020

 

Mae’r 8fed ffenestr Mynegiant o Diddordeb (MOD) Adfer Coetir Glastir (ACG) wedi agor ar 16eg Mawrth 2020 a bydd yn cau am hanner nos ar 24ain Ebrill 2020. 

Mae ACG yn darparu gwaith cyfalaf ar gyfer ailstocio, ffensio a gweithrediadau cysylltiedig ar safleoedd lle mae llarwydd yn bodoli a hyd at 50% o rywogaethau eraill heblaw llarwydd. Mae'r Mynegiant o Ddiddordeb hwn ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus a fydd yn gallu cwblhau'r holl waith cyfalaf a phlannu erbyn naill ai 31ain Mawrth 2022 neu 31ain Mawrth 2023. 

Rydych chi'n gymwys i gyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb Adfer Coetir Glastir (ACG) os ydych chi wedi derbyn trwydded cwympo coed sy'n cynnwys llarwydd, rhif cais perthnasol am drwydded cwympo neu Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol. Bydd yn rhaid i chi gyflwyno'ch trwydded cwympo coed, eich cais am drwydded cwympo coed gyda rhif neu Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol (HIPS) gyda'ch MOD ar neu cyn 24ain Ebrill 2020 i'w gael ei asesu gan Lywodraeth Cymru. I fod yn gymwys i gael cymorth i ailblannu eich coetiroedd, bydd angen i chi gyflwyno cynllun rheoli coedwigoedd er mwyn ailstocio'r ardal gymwys.

Gallwch wneud cais am Adfer Coetir Glastir trwy gyrchu Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein.

Am arweiniad pellach cliciwch yma.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Pam y dylai pob fferm yng Nghymru osod nod i gynyddu carbon organig pridd
30 Mai 2024 Bydd lleihau amharu ar y pridd, tyfu cnydau gorchudd
Merched mewn Amaeth Cyswllt Ffermio yn dychwelyd – ac eleni mae ar daith!
29 Mai 2024 Mae merched sy’n gweithio ym myd amaeth ledled Cymru
Mentora yn helpu fferm i newid o gynhyrchu da byw i dyfu grawnwin
28 Mai 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites