paul williams. cae haidd ucha

17 Ebrill 2018

 

Mae ffermwyr ar draws Cymru’n cael eu hannog i ganfod beth ddylen nhw ei wneud i baratoi eu busnesau ar gyfer y newidiadau gwleidyddol ac economaidd a fydd yn effeithio ar y diwydiant wrth i ni adael yr UE, trwy fynychu’r gyfres nesaf o ddigwyddiadau sioeau teithiol rhanbarthol ‘Ffermio ar gyfer y Dyfodol’ a gynhelir gan Cyswllt Ffermio. 

Mae Cyswllt Ffermio wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Bydd pob un o’r digwyddiadau gyda’r nos yn cynnwys cyflwyniadau ac awgrymiadau gan siaradwyr sy’n cynnwys rhai o’r ffermwyr sy’n perfformio orau yng Nghymru ac arbenigwyr busnes, gan gynnwys ffermwyr rhwydwaith arddangos Cyswllt Ffermio, mentoriaid ac ymgynghorwyr busnes amaethyddol cymeradwy a fydd yn egluro sut i sicrhau gwell effeithlonrwydd ar fferm a chynyddu lefelau elw trwy fanteisio ar wasanaethau cefnogaeth busnes a thechnegol Cyswllt Ffermio. Bydd y digwyddiadau’n cael eu cynnal mewn lleoliadau yn ne, canolbarth a gogledd Cymru o 30 Ebrill hyd 3 Mai 2018. 

Bydd y pedwerydd cyfnod ymgeisio ar gyfer cynllun buddsoddi Grant Busnes i Ffermwyr (FBG) Llywodraeth Cymru, a fydd ar agor rhwng 30 Ebrill hyd 29 Mehefin 2018, hefyd ar frig yr agenda. 

Mae’r cynllun, sydd eisoes wedi derbyn dros 1337 o geisiadau, yn darparu cyfraniad o rhwng £3,000 a £12,000 i ffermwyr cymwys. Gellir defnyddio’r cyllid tuag at wariant cyfalaf ar gyfer oddeutu 86 eitem benodol sy’n gysylltiedig ag iechyd anifeiliaid; geneteg a pherfformiad; rheoli cnydau; effeithlonrwydd egni; effeithlonrwydd adnoddau a TGCh. 

Mae’n rhaid i bob ffermwr cymwys ymgeisio ar gyfer FBG trwy wasanaeth Taliadau Gwledig Cymru, RPW Ar lein, porth ar lein Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau fferm. Mae manylion pellach ynglŷn â’r cynllun, meini prawf cymhwysedd a’r prosesau ymgeisio newydd ar gael yma. 

Mae mynychu un o’r sioeau teithiol yn ofynnol ar gyfer unrhyw unigolyn sy’n ystyried cyflwyno cais am y grant. Nid oes angen i ffermwyr sydd eisoes wedi mynychu digwyddiad ‘Ffermio ar gyfer y Dyfodol’ fynychu eto, ond maen nhw’n cael eu hannog i wneud hynny. 

Mae Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig Menter a Busnes sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, yn annog ffermwyr i ddarganfod yr hyn y dylent anelu ato’n ymarferol er mwyn parhau i fod yn gynaliadwy, effeithlon a phroffidiol dros y blynyddoedd sydd i ddod. 

“Mae hwn yn gyfnod tyngedfennol i’n diwydiant. Mae’r digwyddiadau sioeau teithiol yn cynnig cyfle i bob busnes fferm ystyried eu cyfeiriad ar gyfer y dyfodol. Os byddant yn dechrau cymryd camau i atgyfnerthu eu perfformiad a gwella effeithlonrwydd ar y fferm nawr, byddant mewn gwell sefyllfa i fanteisio ar bob cyfle newydd yn ogystal ag wynebu’r heriau sydd i ddod. 

“Mae Cyswllt Ffermio yn darparu ystod o wasanaethau cefnogi cynhwysfawr ac mae’r mwyafrif naill ai wedi’u hariannu’n llawn neu gyda chymhorthdal o 80%.

“Archebwch eich lle yn un o’r digwyddiadau hyn, a dewch i weld sut allwn ni eich cynorthwyo i baratoi ar gyfer y dyfodol,” meddai Mrs Williams.  

Bydd y drysau’n agor ar gyfer y broses arwyddo i mewn gorfodol am 7pm. Bydd pob digwyddiad yn dechrau am 7.30 a disgwylir y byddant yn dod i ben oddeutu 9.30pm.

Ariennir Cyswllt Ffermio gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o