5 Mai 2020

 

Mae Cyswllt Ffermio yn darparu cyfres o weminarau ar-lein – cyfarfodydd neu seminarau grŵp ar-lein - byr a defnyddiol ddwywaith yr wythnos ar ystod eang o faterion amaethyddol amserol fel rhan o'i 'darpariaeth ddigidol', a drefnwyd er mwyn ymateb i'r pandemig coronafeirws.

Law yn llaw â phodlediad hynod o boblogaidd 'Clust i'r Ddaear', sydd dros 1,000 o wrandawyr y mis, a chymorthfeydd un-i-un cyfrinachol digidol neu dros y ffôn, mae amserlen newydd Cyswllt Ffermio o'i gweminarau ar-lein bellach yn rhan bwysig o'r pecyn cymorth a fydd yn hysbysu'r diwydiant ac yn sicrhau ei fod yn ymwybodol o'r datblygiadau diweddaraf yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Bydd yr adnodd diweddaraf hwn yn sicrhau y gall ffermwyr a choedwigwyr cymwys, sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, gael y canllawiau a'r wybodaeth ddiweddaraf wrth iddynt aros yn ddiogel yn eu cartrefi, gan gydymffurfio â chanllawiau'r llywodraeth sydd mewn grym ar hyn o bryd. Bydd pob seminar yn canolbwyntio ar fater amserol penodol y bydd y rhan fwyaf o ffermwyr yn delio â nhw o ddydd i ddydd.  Arweinir pob un ohonynt gan rai o'r arbenigwyr technegol mwyaf blaenllaw yn y diwydiant, nad ydynt yn gallu cynnal cyfarfodydd trosglwyddo gwybodaeth wyneb yn wyneb ar hyn o bryd, a bydd pob un ohonynt yn rhoi anerchiad a chyflwyniad a baratowyd yn benodol am eu maes arbenigol.

Cynhelir y rhain bob nos Fawrth am 8pm, a phob nos Iau am 8.15pm, a byddant yn para hyd at oddeutu awr, ac yn cynnwys amser i'r arbenigwyr ateb ychydig gwestiynau wedi'u teipio ar y diwedd.

Arweiniwyd y weminar beilot gyntaf gan Eurion Thomas, rheolwr gweithrediadau y DU ar gyfer Techion, cwmni o Seland Newydd sy'n amlwg ar y llwyfan rhyngwladol, ac sy'n arbenigo mewn hyfforddiant a diagnosteg parasitiaid.  Treialwyd hon gyda nifer fach o ffermwyr defaid, wrth iddynt ddysgu am y ffordd orau o dargedu parasitiaid yn yr anifeiliaid cywir ar yr adeg gywir, gan ddefnyddio'r cynnyrch mwyaf priodol.  Mae'r fersiwn a recordiwyd bellach ar gael i'w wylio ar wefan Cyswllt Ffermio.

“Mae parasitiaid mewn ŵyn yn fater hollbwysig i'r holl ffermwyr defaid ar yr adeg hon o'r flwyddyn, ac roedd yr holl gyfranogwyr wedi dysgu, os na fyddant yn cymryd y camau cywir, y gall hyn gael effaith enfawr ar berfformiad y ddiadell a phroffidioldeb.

“Cafwyd adborth cadarnhaol iawn am y ffurf ddigidol, gan bod modd i bob arbenigwr gyflwyno'r wybodaeth fwyaf berthnasol mewn ffordd gryno, yn hytrach na cheisio rhoi sylw i'r pwnc cyfan mewn un cyflwyniad wyneb yn wyneb sy'n fwy dwys, a fyddai'n para llawer yn hirach fel arfer,” dywedodd Mr. Thomas.

Roedd Gregg Bookham, ffermwr defaid o Sir Gaerfyrddin, o'r farn y bu hi'n hawdd troi at ei weminar cyntaf o'i gyfrifiadur yn ei gartref, a nododd y bu'n llawn gwybodaeth ac yn ffordd wych o glywed am y datblygiadau diweddaraf o ran arfer gorau, er gwaethaf y cyfyngiadau presennol.

“Er nad yw hon yn ffurf yr wyf yn gyfarwydd â hi, mae'n ffordd angenrheidiol a defnyddiol o gyfleu cynnwys i gynulleidfa eang a byddaf yn siŵr o ymuno â mwy o sesiynau.”

Mae'r gweminarau a gynhelir cyn bo hir yn ymwneud ag ystod amrywiol o faterion, yn amrywio o reoli gweithgarwch pori, cynhyrchu silwair o ansawdd a rheoli chwyn, i faterion penodol sy'n ymwneud ag iechyd anifeiliaid ar gyfer defaid, gwartheg, moch a mwy.

Ewch i dudalen Gweminarau Cyswllt Ffermio i weld rhestr lawn y gweminarau, y dyddiadau a'r materion.  Gallwch archebu'ch lle ar-lein neu trwy ffonio'r Ganolfan Wasanaeth ar 08456 000 813 cyn 3yp ar ddiwrnod y weminar o'ch dewis. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg. Yna, byddwch yn cael neges e-bost a neges destun a fydd yn cynnwys y linc angenrheidiol er mwyn i chi allu cymryd rhan.

Caiff pob gweminar ei recordio a'i uwchlwytho i wefan Cyswllt Ffermio, felly os byddwch yn methu un y mae gennych chi ddiddordeb ynddi, gallwch ddal i fyny ar-lein yn eich amser eich hun.

Gall unrhyw un nad ydynt yn gyfarwydd â throi at ystod eang y platfformau ar-lein y gellir eu defnyddio er mwyn cynnal cyfarfodydd ar-lein gael cyngor defnyddiol trwy wylio fideo Cyswllt Ffermio hefyd ynghylch ‘Sut i gyfarfod ar-lein’, neu wneud cais am ymgynghoriad am ddwy awr dros y ffôn gydag arbenigwr TGCh trwy gyfrwng rhaglen hyfforddiant TGCh Cyswllt Ffermio, a ariennir yn llawn.  Ewch i’r wefan am wybodaeth bellach.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o
Newidiadau i’r Isafswm Cyflog Amaethyddol yng Nghymru o 1 Ebrill 2024
10 Mawrth 2024 Mae gan bob gweithiwr amaethyddol, garddwriaethol
17 o gyrsiau newydd wedi’u hychwanegu at raglen hyfforddiant Cyswllt Ffermio
03 Ebrill 2024 Mae 17 cynnig newydd bellach ar gael drwy raglen