22 Ionawr 2018

 

Mae Hugh and Katharine Brookes, o Fferm Penlan ger Cenarth, yn pesgi’r moch Mangalitza hyd oddeutu 18 mis - mae’r brîd yn aeddfedu’n hwyr ac yn cymryd mwy o amser i besgi o’i gymharu â bridiau masnachol eraill. Erbyn hyn, diolch i weledigaeth a sgiliau mentergarwch y pâr, a gyda chefnogaeth Cyswllt Ffermio, mae’r cynnyrch arbenigol ar y fwydlen yn rhai o brif fwytai Llundain.

cabinet secretary for energy planning and rural affairs lesley griffiths with hugh and katharine brookes and mangalitza piglet
Bu Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, yn ymweld â fferm Penlan Heritage Breeds, sydd hefyd yn un o Safleoedd Ffocws Cyswllt Ffermio, i ddysgu mwy am y busnes a sut mae cefnogaeth Cyswllt Ffermio wedi bod yn allweddol i’w lwyddiant.

“Mae Penlan Heritage Breeds yn enghraifft wych o’r hyn y gall cynhyrchwyr ar raddfa fechan ei gyflawni drwy weld bwlch yn y farchnad, anelu at haen uchaf y farchnad a chynhyrchu cynnyrch arbenigol sy’n gwerthu am bris premiwm.

“Er bod ffermio moch yn gymharol newydd i Hugh a Katharine, roedd ganddynt weledigaeth glir o’r hyn yr oeddent yn dymuno ei gyflawni, ac mae’n braf gweld sut maent wedi dod â’r profiad, sgiliau a syniadau newydd a ddatblygwyd ganddynt yn eu gyrfaoedd blaenorol ym meysydd TG a Chysylltiadau Cyhoeddus i’w busnes newydd.

“Mae cymaint mwy y gallai cynhyrchwyr ar raddfa fechan yng Nghymru ei ddysgu o’r model llwyddiannus hwn, ac rwy’n falch iawn y bydd Cyswllt Ffermio yn rhannu hyn gyda’r diwydiant ehangach,” meddai’r Ysgrifennydd Cabinet.

Fel rhan o’u rôl gyda rhwydwaith arddangos Cyswllt Ffermio, cafodd y pâr fynediad at gyngor gan faethegydd moch adnabyddus. Lluniodd ddiet a oedd yn cynnwys sgil-gynnyrch a oedd ar gael o ffynonellau lleol gan gyflenwyr adnabyddus, gan gynnwys Caws Cenarth; grawn bragu gan gwmni Mantle Brewery, a thatws lleol nad oedd yn cyrraedd y safon ofynnol ar gyfer y farchnad.

“Mae wedi profi i fod yn ddiet llwyddiannus iawn a oedd yn gweddu i’n system, gan ein galluogi i gynyddu proffidioldeb, perfformiad a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar yr un pryd,” meddai Hugh.  

Yn ddiweddar, mae Mr Brookes wedi mynd a’i ymchwil i faeth moch gam ymhellach o ganlyniad i Gyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio, sef rhaglen sy’n rhoi cyfle i unigolion ymweld â busnesau ledled y byd a rhoi’r hyn a ddysgon nhw ar waith yn eu mentrau eu hunain. Fel un o’r 11 ymgeisydd llwyddiannus yn 2017, bu Hugh yn ymweld â bridiwr moch Mangalitza blaenllaw yn Awstria, Arche De Wiskentale, er mwyn dysgu am fridio detholus, magu a bwtsiera.

“Roedd fy nhaith astudio yn fuddiol iawn, ac rydym eisoes yn gweithredu ar yr hyn a ddysgais, gan lunio system padog newydd ac adeiladu twlc moch newydd.” 

Mae’r pâr yn awyddus i bwysleisio er mai ffermio ar raddfa fechan maen nhw ar hyn o bryd, maent yn benderfynol o redeg menter fferm broffesiynol, ac ni ddylid eu categoreiddio fel ffermwyr pleser yn unig. Mae ganddynt genfaint o 140 o foch, ac mae eu porc yn cael ei werthu mewn bwytai mawr yn Llundain gan gynnwys The Quality Chop House. Maent hefyd wedi derbyn archebion gan y cogydd arobryn o Gymru, Tomos Parry, ar gyfer ei fwyty newydd yn Shoreditch, ‘Brat’, a fydd yn agor yn y gwanwyn, ac mae’n ffyddiog na fydd y busnes yn wynebu prinder o gwsmeriaid ar gyfer y porc a gynhyrchir.

“Mae’n rhaid i’r busnes wneud elw ac mae eisoes wedi dangos potensial i ddatblygu. Mae’r gefnogaeth a roddwyd gan Cyswllt Ffermio wedi bod o fudd mawr, a thrwy fanteisio ar y gefnogaeth, rydym wedi elwa mewn sawl ffordd.

“Mae bod yn safle Ffocws Cyswllt Ffermio, ymweld â bridiwr yn Awstria, ynghyd â chael cymaint o arweiniad arbenigol wedi bod yn elfen hanfodol i’n llwyddiant, ac rydym hefyd yn dysgu cymaint drwy fynychu digwyddiadau trosglwyddo gwybodaeth, sy’n addysgiadol iawn, a bron fel tiwtorial,” meddai Katharine.

“Mae Cymru’n cefnogi’r diwydiant moch, rydym mewn sector y mae Llywodraeth Cymru’n awyddus i’w gynorthwyo, a gydag agwedd o’r fath, mae’r dyfodol yn ddisglair!”


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites