17 Gorffennaf 2019

 

sheep defaid
Mae maeth yn effeithio ar berfformiad y ddiadell yn yr hirdymor – o fewnblaniad yr embryo drwy gydol eu hoes. Mae nifer o amcanion yn ymwneud â maeth y famog sy’n effeithio ar gynhyrchiant a phroffidioldeb y ddiadell yn y pen draw, megis sicrhau’r cyfraddau beichiogi gorau posibl a gwella goroesiad yr embryonau, yn ogystal â chynyddu niferoedd ŵyn a gwella cyfraddau goroesiad ŵyn.

Os hoffech chi ddatblygu mwy o wybodaeth ac ehangu eich dealltwriaeth am y pwnc hwn, cwblhewch ffurflen gais erbyn 12pm 29 Gorffennaf 2019 am gyfle i fynychu gweithdy Meistr ar Faeth Defaid. Gallwch wneud hyn drwy glicio yma.

Trwy fynychu’r gweithdy hwn, byddwch yn gwella eich dealltwriaeth o fanteision gwella maeth y famog feichiog. Bydd y gweithdy’n trafod sut i: wella cyfraddau beichiogi a goroesiad embryonau; cynhyrchu ŵyn cryf a hyfyw; sicrhau colostrwm o ansawdd a sicrhau’r gyfradd twf gorau posibl ar gyfer ŵyn. Bydd y gweithdy hefyd yn trafod sut i lunio dognau porthi i  fodloni gofynion y famog ar wahanol gyfnodau yn ystod beichiogrwydd / llaethiad; edrych ar opsiynau porthi cost effeithiol ac agweddau biolegol sylfaenol y rwmen er mwyn gwella cymeriant bwyd.

Bydd y gweithdai’n cymryd lle yn y lleoliadau isod ar y dyddiadau canlynol:

14/08/19

Meistr ar Faeth

Marchnad Da Byw Y Trallwng SY21 8SR

15/08/19

Meistr ar Faeth

Coleg Glynllifon, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5DU

 

Noder, mae’n rhaid cwblhau’r ffurflen gais er mwyn mynychu.

Am ragor o fanylion ynglŷn â’r gweithdy Meistr ar Faeth ym Marchnad Da Byw Y Trallwng, cysylltwch â Lisa Roberts: 07399 849 148 / lisa.roberts@menterabusnes.co.uk

Am ragor o fanylion ynglŷn â’r gweithdy Meistr ar Faeth yng Ngholeg Glynllifon, cysylltwch â Gwion Parry: 07960 261 226 / gwion.parry@menterabusnes.co.uk

Neu ewch i dudalen gwefan Meistr ar Faeth.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig a Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies, yn llongyfarch ‘y gorau o’r goreuon’ ar gyfer Gwobrau Lantra Cymru 2024
17 Ionawr 2025 Mae’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y
Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried
Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut