28 Ebrill 2024

Mae gan yr Academi Amaeth, a lansiwyd yn 2012, bellach dros 300 o gyn-fyfyrwyr, pob un yn falch o fyfyrio ar yr amser a dreuliwyd ar raglen breswyl datblygiad personol flaenllaw Cyswllt Ffermio fel profiad amhrisiadwy. Mae rhai hyd yn oed yn ei alw'n drawsnewidiol. Mae'n hysbys bod ei dull yn meithrin cyfeillgarwch dwfn ac yn tanio syniadau busnes a all hyd yn oed newid cwrs eich gyrfa.

Wedi’u rhannu’n ddwy garfan, nod yr Academi Amaeth ac Academi'r Ifanc yw  ysbrydoli a rhoi’r hyn sydd ei angen ar y genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid ffermio yng Nghymru. Mae Academi’r Ifanc wedi’i chynllunio ar gyfer unigolion rhwng 16 a 21 oed sydd â diddordeb mewn datblygu gyrfa neu sefydlu busnes yn y diwydiannau bwyd neu ffermio.
Oes gennych chi uchelgeisiau mawr ond angen help i benderfynu pa lwybr i'w ddilyn? Hoffech chi fagu hyder, datblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth i gyflawni eich potensial fel unigolyn?

Mae 24 lle y mae galw mawr amdanynt ar gael ar gyfer dosbarth 2025, ac mae’r rhaglen eleni yn addo mynd â’i haelodau i dir newydd, gyda’r grŵp hŷn yn mentro i Japan!

Mae’r Academi Amaeth yn darparu rhaglen ysbrydoledig o hyfforddiant, mentora, cymorth ac arweiniad dros 3 sesiwn breswyl ddwys, gan gynnwys ymweliad astudio dramor.

Drwy greu’r amodau perffaith ar gyfer twf personol, mae’r Academi Amaeth wedi rhoi’r hyder i lawer o’i chyn-fyfyrwyr anelu’n uchel. Mae’r rhaglen yn gyfle i rannu syniadau a dysgu oddi wrth ein gilydd, i greu cysylltiadau newydd a datblygu rhwydweithiau a fydd yn agor drysau ac yn creu cyfleoedd.

“Y llynedd, fe wnaethom ddenu’r nifer mwyaf erioed o geisiadau”, meddai Einir Davies, Pennaeth Sgiliau Mentera, sy’n darparu rhaglen Cyswllt Ffermio. “Nid oeddem am i Academi Amaeth 2025 fod yn wahanol ac rydym yn falch o allu cynnig cyfle unigryw, i grŵp arall o ffermwyr. Byddwn yn annog pawb sy’n gymwys ac yn gallu rhoi eu hymrwymiad, eu hamser a’u hegni llawn i’r rhaglen i wneud cais heddiw am y cyfle hwn y mae galw mawr amdano. Nawr yw eich amser.”

Mae'r ffenestr ymgeisio eleni yn fyrrach nag arfer, felly peidiwch â cholli'r cyfle! Agorodd y ffenestr ymgeisio ddydd Llun 28 Ebrill 2025 a bydd yn cau dydd Mawrth 20 Mai 2025.

Am ragor o wybodaeth am raglen yr Academi Amaeth 2025, yr hyn y mae'n ei chynnwys, y dyddiadau a'r lleoliadau hollbwysig, y meini prawf cymhwysedd ac i lawr lwytho ffurflenni cais, cliciwch yma.
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr da byw yn llwyddo i dyfu mwy gan ddefnyddio llai o wrtaith diolch i agronomeg
15 Mai 2025 Mae ffermwr o Gymru sy’n cynhyrchu cig eidion a chig
Gosod safonau uchel… ffermwr o Faesyfed yn cyflawni nodau gydol oes diolch i gymorth Cyswllt Ffermio
13 Mai 2025 Mae’r ffermwr trydedd genhedlaeth, John Goodwin o
Dyddiad i’w nodi: Cyswllt Ffermio yn cynnig cymorth i dyfwyr a ffermwyr yng Ngŵyl y Gwanwyn
12 Mai 2025 Dyddiad i’w nodi: Cyswllt Ffermio yn cynnig cymorth i