Ydych chi angen mynd â'ch busnes fferm neu goedwigaeth i gyfeiriad strategol newydd? Ydych chi'n newydd-ddyfodiad sy'n sefydlu busnes ac yn chwilio am gyfarwyddyd? Neu ydych chi'n berchennog busnes sefydledig a fyddai'n gwerthfawrogi mentora oddi wrth rywun sydd â phrofiad o fater penodol.

Os ydych chi'n wynebu unrhyw ddilemâu neu heriau busnes, efallai y bydd cymorth a mentora cyfrinachol gan ffermwr neu goedwigwr profiadol, sydd wedi cael ei gymeradwyo/chymeradwyo fel mentor Cyswllt Ffermio, yn cynnig yr help rydych ei angen. Bellach bydd hyd at 70 unigolyn y flwyddyn yn gallu cael mynediad at oddeutu 22 awr o gyfarwyddyd dros gyfnod 18 mis trwy fenter fentora newydd Cyswllt Ffermio sy'n hollol gymorthdaledig. Mae Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru yn ariannu Cyswllt Ffermio. 

Anogodd Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig Menter a Busnes, sy'n darparu Cyswllt Ffermio, unrhyw unigolion sy'n teimlo y byddent yn cael budd o bersbectif diduedd, annibynnol, i fanteisio ar y cyfarwyddyd sydd bellach ar gael trwy'r gwasanaeth newydd hwn. 

“P'un a fyddwch chi'n rhoi neu'n derbyn, gall y math hwn o berthynas fentora fod yn werthfawr iawn i'r ddwy ochr, yn bersonol ac yn broffesiynol.

“Mae'n gyfle i ddatblygu sgiliau cyfathrebu, gwrando, dysgu ac ymestyn eich safbwyntiau a allai yn ei dro eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ymdrin â sefyllfaoedd newydd a delio â heriau. A gall y ddau bartner ddatblygu eu gyrfaoedd eu hunain yn y broses," meddai Mrs Williams.

Yn dilyn ymgyrch recriwtio yn gynharach eleni, mae gan Cyswllt Ffermio bellach gronfa o fodelau rôl cymeradwy a dibynadwy sy'n barod i ddarparu mentora i fusnesau cofrestredig cymwys.

“Rydym wedi, gyda chyfarwyddyd oddi wrth aseswr annibynnol, dewis tîm o fentoriaid Cyswllt Ffermio, bydd llawer ohonynt wedi datblygu profiad personol a theimlwn eu bod yn gallu datblygu perthnasau sy'n seiliedig ar barch ac ymddiriedaeth i'ch gilydd. Byddant yn gallu rhannu eu gwybodaeth a phrofiad sylweddol a'u barn di-duedd â'r ‘mentai’, i'w helpu i wireddu eu potensial fel pobl fusnes llwyddiannus a gwydn." 

Gwefan Cyswllt Ffermio bydd y prif 'ffenestr siop' gan alluogi mentai i bori'r rhestr o broffiliau nes eu bod yn nodi mentor â'r cefndir a chymwysterau gorau i'w gefnogi/chefnogi. Bydd copïau caled o'r rhestr ar gael hefyd. Hefyd gall Cyswllt Ffermio ddefnyddio ei wybodaeth leol i helpu i baru unigolion cofrestredig ar fatrics mentora newydd. Unwaith y bydd cais mentai wedi cael ei dderbyn a chyfatebiaeth wedi cael ei gwneud, gall y ddau drefnu eu cyfarfod cyntaf, wyneb yn wyneb fel arfer, ac yna os yw'r ddau barti yn fodlon, bydd y berthynas weithredol mentor/mentai yn parhau rhyngddynt, am hyd at 18 mis. 

“Er y bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau cyfatebiaeth dda rhwng mentor a mentai a bydd Cyswllt Ffermio yn parhau i fod mewn cysylltiad i werthuso llwyddiant y berthynas, gall naill barti neu'r llall adael y broses fentora ar unrhyw adeg,” meddai Mrs Williams. 

Am wybodaeth bellach ac i bori trwy'r cyfeiriadur o fentoriaid wedi'u cymeradwyo ewch i'r dudalen Mentora.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o