Roedd mesurau cyfartal o chwerthin ac arswyd gan ferched ar draws Cymru a fynychodd fforwm Merched mewn Amaeth a gynhaliwyd gan Cyswllt Ffermio ym Mhortmeirion ac yng Nghastell Aberteifi yn ddiweddar.

Gwraig fferm sy’n wyneb cyfarwydd fel cyflwynwyd teledu ar S4C, Mari Lovgreen, oedd yn cadeirio’r fforwm. Llwyddodd y sesiwn i gyrraedd y targed, sef ysbrydoli, ysgogi a galluogi pawb oedd yno, trwy raglen o gyflwyniadau, gweithdai a sesiynau rhyngweithiol ar faterion y dydd a allai effeithio ar ferched sy’n gweithio yn y diwydiant heddiw. 

Rhoddwyd sylw i bynciau’n amrywio o Brexit a’r cyfleoedd a’r heriau sy’n debygol o ddeillio ohono i fusnesau fferm yng Nghymru i gydnabod mai staff yw ased pwysicaf busnes bob amser. Trafodwyd gwerth neilltuo amser i ystyried eu lles eu hunain a chymerwyd rhan mewn sesiwn ar ymwybyddiaeth ofalgar, sydd wedi’i gydnabod ers amser fel ffordd sy’n helpu i leihau straen yn y sector busnes. Yna cymerodd bawb ran mewn ymarferiad therapi chwerthin a ddisgrifiwyd fel ‘jogio mewnol’ a ddylai fod yn rhan o batrwm bob dydd pawb os ydynt eisiau byw bywyd llawn!  

Roedd yr arswyd yn amlwg yn y gweithdai ar ddiogelwch digidol neu ’seiberdroseddau’ oedd dan ofal siaradwr a oedd yn arbenigo ar y pwnc o Heddlu Gogledd Cymru.  

Cafodd un o’r gweithdai ei gyflwyno gan Holly Beckett, sy’n rhan o’r bedwaredd genhedlaeth o deulu o ffermwyr yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr. Mae hi wedi bod yn canolbwyntio ar arallgyfeirio eu busnes fferm gan greu siop fferm, bwyty, ysgol goginio a chyfleusterau cynadleddau.

fflur sheppard nicholas hawe mari lovgreen holly beckett corinna lloyd jones

Mae Holly Beckett, hefyd yn un o sylfaenwyr y wefan FocussedFarmers.com. Dyma wefan sydd yn cynnwys cyfres o fideos sy’n canolbwyntio ar hunan-ymwybyddiaeth, hunanreolaeth, ymwybyddiaeth gymdeithasol a rheolaeth gymdeithasol. Fel rhan o hyn, cafodd y grwpiau i gyd flas ar fyfyrio:
“Rydw i wir wedi mwynhau’r digwyddiadau Merched Mewn Amaeth gan gymryd y cyfle i ledaenu gwybodaeth am fy astudiaeth sef FocussedFarmers.com.”

 

 

O'r chwith: Fflur Sheppard, Nicholas Hawe, Mari Lovgreen, Holly Beckett & Corinna Lloyd-Jones

Cafwyd cyflwyniad gan Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol cwmni Menter a Busnes, Corinna Lloyd-Jones. Roedd ei chyflwyniad yn trafod “Ai pobl yw eich adnodd pwysicaf?” Roedd ei thrafodaeth yn cynnwys ei phrofiad o weithredu, gwerthuso ac adolygu systemau rheoli perfformiad ac am bwysigrwydd bobl o fewn busnesau.

Meddai’r prif siaradwr Fflur Sheppard, a fagwyd ar fferm ei rhieni ar ystâd Dolaucothi yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Sir Gaerfyrddin, ac sy’n gyfarwyddwr cyswllt yng nghwmni cysylltiadau cyhoeddus Beattie Communications,

“Mwynheais siarad gyda chynulleidfa mor flaengar am egwyddorion ennill cefnogaeth a dylanwadu ar farn – sgiliau a fydd mor bwysig wrth i ni symud ymlaen tuag at Brexit.

“Tra oedd gan bawb a oedd yno ddau beth clir yn gyffredin - merched mewn amaeth oedden nhw - yr hyn a’m trawodd oedd amrywiaeth eu persbectif a’u cryfderau, a’u penderfyniad unfrydol i gymryd camau cadarnhaol drostynt eu hunain, eu teuluoedd a’u busnesau, a’r diwydiant yn ehangach.”

Mae Cyswllt Ffermio’n darparu amryw o wasanaethau a digwyddiadau sy’n cefnogi merched sy’n gweithio mewn amaeth yng Nghymru. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno ag un o’n grwpiau Merched mewn Amaeth neu i gael gwybodaeth bellach am unrhyw un o’n gwasanaethau, ewch i, www.llyw.cymru/cyswlltffermio neu cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol, mae eu manylion cyswllt ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio.

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y