Roedd mesurau cyfartal o chwerthin ac arswyd gan ferched ar draws Cymru a fynychodd fforwm Merched mewn Amaeth a gynhaliwyd gan Cyswllt Ffermio ym Mhortmeirion ac yng Nghastell Aberteifi yn ddiweddar.

Merch fferm sy’n wyneb cyfarwydd fel cyflwynwyd teledu ar S4C a BBC Cymru, Dot Davies, oedd yn cadeirio’r fforwm. Llwyddodd y sesiwn i gyrraedd y targed, sef ysbrydoli, ysgogi a galluogi pawb oedd yno, trwy raglen o gyflwyniadau, gweithdai a sesiynau rhyngweithiol ar faterion y dydd a allai effeithio ar ferched sy’n gweithio yn y diwydiant heddiw. 

Rhoddwyd sylw i bynciau’n amrywio o Brexit a’r cyfleoedd a’r heriau sy’n debygol o ddeillio ohono i fusnesau fferm yng Nghymru i gydnabod mai staff yw ased pwysicaf busnes bob amser. Trafodwyd gwerth neilltuo amser i ystyried eu lles eu hunain a chymerwyd rhan mewn sesiwn ar ymwybyddiaeth ofalgar, sydd wedi’i gydnabod ers amser fel ffordd sy’n helpu i leihau straen yn y sector busnes. Yna cymerodd bawb ran mewn ymarferiad therapi chwerthin a ddisgrifiwyd fel ‘jogio mewnol’ a ddylai fod yn rhan o batrwm bob dydd pawb os ydynt eisiau byw bywyd llawn!  

Roedd yr arswyd yn amlwg yn y gweithdai ar ddiogelwch digidol neu ’seiberdroseddau’ oedd dan ofal dau siaradwr a oedd yn arbenigo ar y pwnc o Heddlu Dyfed Powys.  

“Sylweddolodd bob un o’r merched a oedd yno fod risgiau enfawr i fusnesau pob un gael eu ‘hacio’ neu’n waeth na hynny, drwy beidio â chymryd mesurau digonol i ddiogelu ein hunaniaeth ar-lein,” meddai Eleri Jones, sy’n rhedeg fferm laeth a defaid 350 erw gyda’i theulu ym Mhenlanymor yn Llanarth.  

“Roedd y diwrnod cyfan yn ysbrydoliaeth gydag amrywiaeth ragorol o bynciau. Aethom adref gyda llawer i fyfyrio arno ac yn bersonol, byddaf yn gweithredu llawer o’r hyn yr wyf wedi’i ddysgu heddiw,” ychwanegodd Mrs. Jones.

merched mewn amaeth women in agriculture
Cafwyd cyflwyniad gan Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol cwmni Menter a Busnes, Corinna Lloyd-Jones. Roedd ei chyflwyniad yn trafod “Ai pobl yw eich adnodd pwysicaf?” Roedd ei thrafodaeth yn cynnwys ei phrofiad o weithredu, gwerthuso ac adolygu systemau rheoli perfformiad ac am bwysigrwydd bobl o fewn busnesau.

Meddai’r prif siaradwr Fflur Sheppard, a fagwyd ar fferm ei rhieni ar ystâd Dolaucothi yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Sir Gaerfyrddin, ac sy’n gyfarwyddwr cyswllt yng nghwmni cysylltiadau cyhoeddus Beattie Communications,

“Mwynheais siarad gyda chynulleidfa mor flaengar am egwyddorion ennill cefnogaeth a dylanwadu ar farn – sgiliau a fydd mor bwysig wrth i ni symud ymlaen tuag at Brexit.

“Tra oedd gan bawb a oedd yno ddau beth clir yn gyffredin - merched mewn amaeth oedden nhw - yr hyn a’m trawodd oedd amrywiaeth eu persbectif a’u cryfderau, a’u penderfyniad unfrydol i gymryd camau cadarnhaol drostynt eu hunain, eu teuluoedd a’u busnesau, a’r diwydiant yn ehangach.”

 

O’r Chwith, Buddug Lewis, Ceredigion, Flur Sheppard, Mair Jones, Ceredigion, Eleri Jones Ceredigion, Holly Beckett    

Mae Cyswllt Ffermio’n darparu amryw o wasanaethau a digwyddiadau sy’n cefnogi merched sy’n gweithio mewn amaeth yng Nghymru. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno ag un o’n grwpiau Merched mewn Amaeth neu i gael gwybodaeth bellach am unrhyw un o’n gwasanaethau, ewch i, brif dudalen ein gwefan neu cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol.

Ariennir Cyswllt Ffermio drwy Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o