Mae cynhyrchwyr moch yn peryglu statws iechyd eu cenfaint, yn ogystal â chynhyrchiant a phroffidioldeb

piglet with eid tag 350x233 0
eu busnes trwy beidio â chadw stoc newydd mewn cwarantîn am o leiaf dair wythnos, yn ôl un milfeddyg moch.

Dywed Bob Stevenson bod arwahanu moch newydd yn hanfodol, nawr yn fwy nag erioed gan nad yw defnyddio triniaeth wrthfiotig yn rheolaidd yn cael ei argymell ac mae clefydau’n mynd yn anoddach i’w trin.

Mae Mr Stevenson wedi bod yn goruchwylio’r broses o gyflwyno Moch Cymreig i’r uned foch newydd yng Ngholeg Glynllifon, un o Safleoedd Arloesedd Cyswllt Ffermio ger Caernarfon.

Roedd y rhain wedi cael eu cadw ar wahân oddi wrth y genfaint bresennol am gyfnod o dair wythnos ac fe dreuliwyd tair wythnos ychwanegol yn integreiddio’r moch hynny gyda moch eraill a ddaeth o Rattlerow.

Yn ystod diwrnod agored a gynhaliwyd yng Nglynllifon, dywedodd Mr Stevenson bod nifer o fesurau syml yn ofynnol i atal clefydau, ac mae’r rhain yn seiliedig ar hylendid da a rheolaeth bioddiogelwch.

“Pan fydd ffermwyr yn cael achos o glefyd ar ôl prynu moch i mewn, maent yn aml yn methu â deall o ble mae’r clefyd wedi dod. Mae’n rhaid iddynt ddeall nad yw clefydau’n cael eu creu o unman ar fferm, mae clefydau’n cyrraedd oherwydd iddynt gael eu cludo ar draed neu ar gerbyd neu’n aml ar esgidiau o ganlyniad i ddiffyg bioddiogelwch.

“Mae moch yn cario firysau a bacteria ac mae’r straen a ddaw wrth gael eu cludo ac amgylchedd newydd yn gallu gwneud iddynt un ai ddatgelu arwyddion o glefyd neu i ollwng y bacteria neu firysau.

“Os ydych chi’n ymwneud â moch statws iechyd uchel mae’n rhaid i chi dalu sylw penodol i arwahaniad ac integreiddio. Gallant fod yn arbennig o agored i niwed ac yn debygol o gael eu heintio gan foch sydd eisoes ar eich uned.’’

Mae Mr Stevenson yn argymell gosod rhwystr ffisegol i rwystro cerbydau a phobl heb y dillad bioddiogelwch cywir rhag dod i gysylltiad gyda’r moch. “Mae’r rhwystr yn dweud wrth bobl sy’n ymweld â’r fferm bod hawl i chi fynd cyn belled â hyn, ond dim pellach.”

Dywedodd bod cymryd proffiliau gwaed gan foch sy’n dod i mewn a’r genfaint bresennol yn darparu gwybodaeth werthfawr. “Gall monitro rheolaidd o'r fath fod yn isel o ran costau a bydd yn rhoi hyder eich bod yn annhebygol o gyflwyno heintiadau niweidiol. Cymerir chwe sampl gwaed a bydd y rhain yn rhoi atebion i chi ynglŷn â sut mae statws iechyd y moch sy'n dod i mewn yn gweddu i statws eich moch eich hunain. Mae hyn yn hynod werthfawr.”

Dylid cadw moch sy’n dod i mewn ar wahân mewn adeilad nad yw'n rhannu'r un aer â moch eraill; os nad yw hynny'n bosib, gellir defnyddio cae ar yr amod bod rhwystr tri metr rhwng y genfaint bresennol.

“Peidiwch â meddwl bod popeth wedi'i wneud ar ôl arwahanu moch!” rhybuddiodd Mr Stevenson. “Mae'n rhaid cael wellingtons a dillad ar wahân ar gyfer yr uned arwahanu, neu’n well fyth, person arall i ofalu am y moch sy’n dod i mewn. Mae angen cadw tail y moch hynny o fewn yr ardal arwahanu.

Pan fo moch wedi’u harwahanu dylid eu harsylwi ddwywaith y dydd. “Casglwch wybodaeth ynglŷn â’r moch hynny trwy eu harsylwi ddwywaith y dydd,” meddai Mr Stevenson.

Ni ddylid rhoi unrhyw frechiadau yn ystod y cyfnod arwahanu.

Ar ôl tair wythnos, gellir cychwyn ar y broses o integreiddio gyda moch eraill. “Sicrhewch fod y moch yn dod yn gyfarwydd â germau ei gilydd cyn eu cyflwyno’n llawn,” meddai Mr Stevenson.

Dylid brechu moch yn unol â chynllun iechyd y genfaint, gyda’r protocolau cywir ar gyfer storio, dosio a chwistrellu. “Rhowch frechiad yn erbyn clefydau megis niwmonia Ensöotig (EP), Syndrom Nychdod Amlsystemig Ôlddiddyfnu (PMWS) a chlefyd y glust las mewn moch (PRRS). Mae’n bosib y byddai brechiadau ychwanegol yn cael eu hargymell gan eich milfeddyg ar gyfer cyflyrau endemig parhaus sy’n bodoli ar nifer o ffermydd moch,”meddai Mr Stevenson. Gallai’r rhain gynnwys ysgôth E.coli, clefyd clostridiol, Parfofeirws moch a’r fflamwydden.

Mae Mr Stevenson yn argymell y dylid derbyn adborth o ladd-dai. “Mae’r lladd-dy’n ffynhonnell wybodaeth werthfawr am gyflwr ysgyfaint, iau, cymalau a chroen y mochyn. Bydd gwybodaeth o’r fath o gymorth i chi gyda chynllunio iechyd eich moch ar gyfer gwell perfformiad.’’

Wrth wynebu clefydau endemig, mae uned foch yn fwy tebygol o aros yn ddiogel os bydd protocolau glendid a bioddiogelwch da ar gyfer clefydau endemig eisoes yn cael eu gweithredu.

Gyda chyfyngiadau sylweddol o ran defnyddio gwrthfiotigau, mae’n rhaid i’r diwydiant weithredu nawr, rhybuddiodd Mr Stevenson. “Rydym ni’n camu oddi wrth gyfnod y gwrthfiotig; mae  Sefydliad Iechyd y Byd a Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r gwir angen i ddiogelu effeithiolrwydd gwrthfiotigau ar gyfer trin clefydau megis sepsis mewn bodau dynol a chlefydau bacteriol mewn moch, trwy alw ar feddygon, milfeddygon a ffermwyr i ddefnyddio gwrthfiotigau cyn lleied â phosib ond cymaint ag sydd angen.”

Ond nid rheoli clefydau yw’r unig ffactor dylanwadol o ran cynhyrchiant y genfaint.

Mae gwella cyfraddau marwolaeth perchyll, cynyddu pwysau diddyfnu a phesgi ynghynt hefyd yn bwysig iawn yn ôl David Moorhouse, arbenigwr moch cenedlaethol ADAS.

Dywedodd wrth ffermwyr a fynychodd y digwyddiad Cyswllt Ffermio bod rhaid i gyflwr corff yr hwch fod yn dda er mwyn sicrhau pwysau perchyll da ar enedigaeth.

Yn ogystal, byddai talu sylw at faint o fwyd a dŵr a gymerir yn ystod y cyfnod llaetha’n rhoi hwb i bwysau’r perchyll cyn diddyfnu.

Dylai’r gyfradd llif dŵr fod oddeutu 0.5 litr y funud er mwyn annog mwy o gymeriant bwyd. “Gall cyfraddau llif fod yn is na hyn yn aml oherwydd problemau ansawdd dŵr neu rwystr o ganlyniad i gronfa o fwynau neu raean,’’ meddai Mr Moorhouse.

Bydd hychod sy’n cael y maeth cywir yn cynhyrchu mwy o laeth a bydd ei pherchyll yn cyrraedd pwysau diddyfnu cryfach.“Mae potensial i dynnu wythnos oddi ar y dyddiadau lladd,” yn ôl Mr Moorhouse.

Mae moch yng Nglynllifon yn derbyn tag EID er mwyn monitro perfformiad a chyfuniad baedd a hwch. Defnyddir yr wybodaeth hon ar gyfer gwneud penderfyniadau rheolaeth.

“Bydd yr holl ffactorau hyn yn helpu cynhyrchiant ac elw,” meddai Mr Moorhouse. “Mae’r farchnad moch ar hyn o bryd mewn sefyllfa ffyddiog, ni fu cyfnod gwell i ganolbwyntio ar effeithlonrwydd.’’

Mae Llywodraeth Cymru’n anelu at ddyblu’r genfaint foch Cymreig fel rhan o ymgyrch amlochrog sy’n defnyddio datblygiadau genetig a thechnolegol.

Dywedodd swyddog datblygu’r prosiect, Pat Stebbings, y byddai ymgyrch farchnata wedi’i dargedu’n ymwneud â chig moch Cymreig yn cynnig cyfle i ffermwyr Cymreig – ffermwyr ifanc yn benodol – gynhyrchu incwm ar eu ffermydd.

Bydd y prosiect, sy’n cychwyn ym mis Ionawr, yn cynnig cefnogaeth gyda chynllunio busnes, hwsmonaeth, bioddiogelwch a marchnata.

Mae’r prosiect, a ariennir gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Cynllun Datblygu Gwledig 2014-2020, yn cymryd agwedd gydweithredol sy’n ymwneud ag ystod eang o bartneriaid cadwyn cyflenwi gyda’r bwriad o ddatblygu marchnadoedd a chynnyrch lleol a chynyddu cyfleoedd ehangu ar gyfer cynhyrchwyr presennol a chefnogi sefydliad cynhyrchwyr newydd.

 

Am fwy o fanylion ynglŷn â’r prosiect yma cysylltwch â-

melanie.cargill@menterabusnes.co.uk / 01970 636565


Related Newyddion a Digwyddiadau

Digwyddiadau Cyswllt Ffermio i roi cyngor i ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a’r gostyngiad arfaethedig i ryddhad Treth Etifeddiant (IHT).
8 Ionawr 2025 Wrth i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried
Arolwg Safbwyntiau Ffermwyr
Mae arolwg o ffermwyr Cymru wedi cael ei lansio i archwilio sut
Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn