30 Tachwedd 2018

 

richard tudor lisa roberts and mark tripney 2 1
Bydd cynyddu pH y pridd o 5.9 i darged o 6.3-6.5 yn gwella’r defnydd o wrtaith ar ffermydd glaswelltir o £120/hectar, mae arbenigwr pridd yn amcangyfrif.

Dywed yr agronomegydd annibynnol, Mark Tripney, sy’n dadansoddi priddoedd ffermydd, pan fydd pH yn llai na 6, nid yw 48% o ffosffad y pridd ar gael i laswellt a chnydau.

“Mae ffermwyr yn gwastraffu eu harian os byddant yn rhoi gwrtaith pan fydd y pH yn is na 6, nid yn unig bydd hanner y ffosffad yn cael ei gloi ond mae 11% o’r nitrogen yn cael ei golli hefyd,” dywedodd wrth ffermwyr mewn diwrnod agored ar Llysun, Fferm Arddangos Cyswllt Ffermio ger y Trallwng.

“Ar brisiau heddiw, mae hyn yn costio £120/ha iddynt ac yn lleihau’r cynnyrch glaswellt.”

Yng Nghymru, mae ffermwyr sydd wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio yn gymwys i gael 80% o’r cyllid tuag at samplo pridd.

O’r 4,000 o ffermydd Cymru y dadansoddwyd eu pridd trwy Cyswllt Ffermio'r llynedd, dim ond 30% oedd ar pH o 6 neu uwch.

Nid yw cynyddu pH yn ateb cyflym – dim ond o 0.2 y bydd chwalu 1t/ha o galch yn codi’r mynegai – ond mae Mr Tripney yn annog ffermwyr i weithredu.

Gan y gall ansawdd y calch fod yn amrywiol, mae’n cynghori ffermwyr i ofyn am fanylion y cynnyrch cyn prynu, a pheidio â phrynu ar sail y pris yn unig.

“Nid yw llawer o galch yn bodloni’r safon sy’n ofynnol gan Reoliadau Gwrtaith 1991 felly mae’n bwysig prynu cynnyrch sy’n dangos safon ansawdd y Gymdeithas Calch Amaethyddol ‘AQS’,” dywedodd Mr Tripney.

Nid yn unig dylid profi’r pridd am pH, ffosfforws, potasiwm a magnesiwm, ond hefyd am galsiwm a sodiwm oherwydd eu bod yn cael effaith ar y pH a’r strwythur.

Yn Llysun, fferm ucheldir 800 erw, defnyddiodd y ffermwr, Richard Tudor, ganlyniadau dadansoddiad manwl i wneud newidiadau.

Dangosodd y prawf ddiffyg boron, mwyn sy’n helpu i gludo calsiwm i’r planhigyn glaswellt ac yn ei wneud yn haws ei dreulio.

Er mwyn cywiro’r diffyg, chwalodd Mr Tudor 0.75kg/ha o boron gyda’r gwrtaith eleni ac mae hyn eisoes wedi dyblu’r lefelau boron yn y glaswellt; yn y caeau lle’r ychwanegwyd boron at y gwrtaith, aeth y lefelau boron o isel i arferol – mewn un cae cynyddodd y lefelau o 5.64 milligram/litr i 11.8 mg/l.

Cyfartaledd pH priddoedd Llysun yw 5.9 ac mae hynny’n rheswm pam nad yw’r fferm yn cynhyrchu ei photensial o 10t DM/ha, dywedodd Mr Tudor.

Chwalir calch yn awr ar 20% o’r fferm yn flynyddol, gyda’r nod o godi’r pH yn nes at 6.5.

Mae’r fantais o ran costau yn sylweddol. “Dangosodd gwaith ymchwil yn glir am bob £100 yr ydym yn ei wario ar galch mae budd o hyd at £700,” dywedodd Mr Tudor, a enillodd Ysgoloriaeth Nuffield ac astudio iechyd a ffrwythlondeb priddoedd glaswelltir.

Mae’n ymdrin â chywasgu yn ei briddoedd cleiog hefyd – mae’n ystyried bod cywasgu wedi lleihau’r perfformiad o hyd at 40% mewn rhai caeau.

“Mae cywasgu yn broblem sy’n datblygu’n araf, fyddwch chi ddim yn sylweddoli bod problem nes y bydd yn ddifrifol, pan na fyddwch yn cael y perfformiad o’ch caeau yr oeddech yn arfer ei gael,” dywed Mr Tudor.

“Roedd arnom angen cael y pridd i weithio’n iawn, i gael aer i lawr at y gwreiddiau a chynnig yr amgylchedd i’r gwreiddiau ddefnyddio’r maetholion yn well.”

Mae wedi canolbwyntio yn bennaf ar gaeau silwair, lle mae peiriannau trwm wedi achosi cywasgu.

Dangosodd tyllau a dyllwyd i’r caeau hynny bod haen wedi ei chywasgu dan yr ychydig fodfeddi cyntaf o bridd oedd wedi achosi i ddŵr sefyll.

Yr haf hwn buddsoddodd Mr Tudor mewn awyrydd ballast gan awyru 30% o’i fferm.

Nid yw’n disgwyl gweld canlyniadau ar unwaith ond mae’n dweud: “Mae caeau wedi eu hawyru yn dangos bod y gwreiddiau yn treiddio yn well a llai o gywasgu.

“Gall gwreiddiau’r glaswellt dyfu ymhellach i lawr ac all hynny ddim bod yn ddim byd ond manteisiol.”

Yn y gwanwyn y gwnaeth Mr Tudor awyru’r pridd, pan oedd y ddaear yn sych.

llysun 0
“Er nad wyf erioed wedi pobi cacen, dywedwyd wrthyf bod y dull a ddefnyddir i brofi bod cacen wedi coginio yn debyg i’r dull o brofi pridd.

“Os rhowch chi sgiwer mewn cacen bydd yn dod allan yn lân os yw’r gacen wedi coginio, fydd o ddim yn ludiog.

“Mae’r un peth yn wir os rhowch chi lafn neu raw yn y pridd, os bydd pridd yn glynu wrtho nid yw’r pridd yn barod i’w awyru.”

Defnyddiodd rwygwr pridd i drin cywasgu dyfnach ar dir y mae wedi ei brynu yn ddiweddar.

Mae Mr Tudor yn trosi ei fferm o fenter bîff a defaid i laeth – mae’n anelu at ddechrau godro yn Ebrill 2020.

Er mai ei ddull o ffermio bob amser oedd gwneud y defnydd gorau o laswellt sy’n cael ei bori, mae ei gynlluniau trosi wedi canolbwyntio ei feddwl ar wella’r defnydd o borthiant.

“O ran rheoli glaswelltir, mae trosi’r fferm yn symud pethau ymlaen i’r lefel nesaf, mae’r cyfan yn ymwneud ag enillion bychain.

“Os edrychwch chi ar Arolwg Busnesau Fferm Cymru, y traean uchaf o gynhyrchwyr ym mhob sector sydd â’r cyfraddau stocio trymaf, mae’n un o’r prif yrwyr o ran proffidioldeb, a dyna lle’r ydym ni am fod.”


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint