18 Mehefin 2025

Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig gweithdy hyfforddiant iechyd a lles anifeiliaid wedi'i ariannu'n llawn, ag achrediad Lantra - sef 'Rheoli Teirw Bridio'. Bydd yn cael ei ddarparu gan bractisau milfeddygol lleol cymeradwy ledled Cymru, ac mae wedi'i gynllunio i gynorthwyo ffermwyr i wella perfformiad eu buches a sicrhau lles eu teirw ar y fferm.

Bydd mynychwyr yn cael dealltwriaeth ddyfnach o bwysigrwydd dewis y tarw cywir ar gyfer perfformiad a chynhyrchiant eich buches. Bydd y gweithdy hefyd yn rhoi mewnwelediad i'r ffactorau allweddol i'w hystyried wrth asesu addasrwydd tarw ar gyfer bridio, gan gynnwys Sgôr Cyflwr Corff.

Bydd yn rhoi cyfle i ddysgu am y gwahanol resymau dros anffrwythlondeb teirw a darganfod strategaethau effeithiol ar gyfer ei atal a'i reoli. Bydd rôl hanfodol profion ffrwythlondeb cyn-fridio wrth sicrhau tymor bridio llwyddiannus hefyd yn cael ei archwilio.

Bydd y gweithdy yn eich helpu i ddod yn ymwybodol o'r triniaethau arferol a'r ystyriaethau maeth sydd eu hangen ar gyfer paratoi teirw cyn bridio, yn ogystal â dysgu sut i nodi a rheoli'r risgiau bioddiogelwch sy'n gysylltiedig â chyflwyno teirw newydd o fuchesi eraill.

Yn olaf, bydd y gweithdy yn edrych ar rai o'r nodweddion y gellir eu hasesu trwy Werthoedd Bridio Tybiedig (EBVs) a sut i'w defnyddio i helpu i ddewis y teirw gorau ar gyfer eich buches.

Mae'r gweithdy hwn wedi'i gynllunio i roi gwybodaeth ymarferol i chi er mwyn eich galluogi i wella iechyd a chynhyrchiant eich buches.

Dywed Clara Valderamma o Farm First Vets, sy'n un o'r milfeddygon cymeradwy a fydd yn cyflwyno'r gweithdy hyfforddiant newydd, 'Mae'r tarw yn chwarae rhan ganolog yn ffrwythlondeb buchesi, ac mae gwneud pethau’n iawn/yn anghywir yn cael effaith sylweddol ar gynhyrchiant yn y flwyddyn sydd i ddod. Mae gwneud yn siŵr bod teirw yn addas i'r diben yn un o'r camau cyntaf i sicrhau tymor bridio a lloia llwyddiannus.' 
Caiff presenoldeb ei gofnodi ar gofnod DPP 'Storfa Sgiliau' y rhai sy’n mynychu’r gweithdy, ynghyd â 'thystysgrif presenoldeb' Gwobrau Lantra.

Mae'r gweithdai hyfforddiant wedi'u hariannu'n llawn, ond er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cyllid hwnnw, rhaid i bob mynychwr fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio a chwblhau Cynllun Datblygu Personol (PDP).

I weld dyddiadau a manylion y gweithdai sydd ar y gweill, ewch i wefan Cyswllt Ffermio neu cysylltwch â'ch swyddog datblygu lleol i ddysgu mwy.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwr arobryn, Ynyr Pugh o Ganolbarth Cymru, yn trafod ei lwyddiant o ganlyniad i Ffermio Cyfran
16 Chwefror 2026 Mae Ynyr Pugh yn ffermwr ymroddedig, llawn
Sut mae cofnodi perfformiad yn llunio gwelliannau gwerthfawr mewn diadell fynydd yng Nghymru
10 Chwefror 2026 Mae enillion mamol a gyflawnwyd trwy gofnodi
Bwydo glaswellt trwy'r dail yn rhoi hwb i borthiant india-corn mewn cyfnod o sychder, yn ôl arbrawf fferm
Bu i ddefnyddio’r dull bwydo drwy’r dail ar india-corn a oedd yn