11 Medi 2025

“Bu i’r ddau ohonom osod nodau realistig o’r cychwyn cyntaf, gan wybod y byddai hwn yn waith sy’n mynd rhagddo, nid yn sefyllfa ‘i ddod yn gyfoethog yn gyflym’,” meddai Martyn Williams, sy’n newydd-ddyfodiad ifanc 34 oed, ac sy’n disgrifio’r ffermwr o Ynys Môn, Wil Griffiths (63), fel “un o fil.”

Cyfarfu'r ddau drwy raglen ffermio cyfran Cyswllt Ffermio - a elwid gynt yn 'Mentro' – ac a elwir bellach yn 'Dechrau Ffermio'. Mae eu partneriaeth wedi ffynnu i fod yn berthynas fusnes gref a chynhyrchiol, gyda'r ddau yn rhoi clod i'r cymorth busnes, cyfreithiol ac ariannol a ariennir yn llawn a ddarperir gan Cyswllt Ffermio fel "cymorth amhrisiadwy".

I Wil, mae'r trefniant wedi caniatáu iddo barhau i fyw ar fferm ei deulu, Bodragolwyn, a pharhau i fod yn rhan o redeg y fferm wrth ennill amser i archwilio diddordebau eraill. I Martyn, roedd yn gyfle prin i gamu i swydd reoli a helpu i lunio dyfodol fferm weithredol.

Ar ôl mynychu Coleg Glynllifon, roedd Wil wedi datblygu’r fferm bîff arfordirol 130 erw ger Llangefni ar ôl i'w rieni gamu'n ôl, gan rentu tir ychwanegol ac ehangu nifer y gwartheg. Fodd bynnag, wrth iddo agosáu at fod yn 60 oed a heb olynydd, cofiodd y cyngor ar gynllunio olyniaeth a gafodd flynyddoedd ynghynt ar ôl mynychu gweithdy Cyswllt Ffermio. Cofrestrodd y fferm ar gyfer y gwasanaeth ffermio cyfran a dechreuodd chwilio am bartner busnes newydd.

Roedd dod o hyd i'r unigolyn cywir yn her, yn enwedig o ystyried prinder tai fforddiadwy ar Ynys Môn. Roedd Martyn yn ddelfrydol. Roedd yn byw tua 15 milltir i ffwrdd, ond roedd ganddo brofiad, sgiliau ymarferol cryf ac roedd yn rhannu gwerthoedd ac ymrwymiad Wil.

Bellach yn agosáu at eu pedwaredd flwyddyn mewn menter ar y cyd, mae Martyn a Wil eisoes yn edrych y tu hwnt i'w cynllun pum mlynedd wreiddiol, gyda thargedau twf a datblygu uchelgeisiol. Roedd Wil wedi rhentu tir i ffermwyr eraill yn flaenorol, ond gyda Martyn yn rhan o’r bartneriaeth, fe wnaeth adennill yr erwau. Mae Wil a Martyn mewn partneriaeth hefyd wedi rhentu fferm gyfagos gyda siediau addas, gan gefnogi cynlluniau Martyn i gynyddu nifer y fuches.

O dan eu trefniant, mae Wil yn ymdrin â gwaith papur a chofnodion y fferm, tra bod Martyn yn rheoli'r gweithrediadau o ddydd i ddydd. Mae Martyn yn parhau i gael mynediad at nifer o wasanaethau cymorth Cyswllt Ffermio, pob un wedi'i ariannu'n llawn neu’n rhannol, hyd at 80%, sydd wedi rhoi'r hyder iddo arwain sawl newid sylweddol ar y fferm. Mae'r rhain yn cynnwys cyflwyno cynllunio rheoli maetholion y pridd, strategaeth bori newydd, isadeiledd dŵr wedi'i ddiweddaru, ffensys a mynedfeydd gwell, a threfn stocio ddiwygiedig - i gyd gyda chytundeb llawn Wil.

Mae stiwardiaeth amgylcheddol ac iechyd y fuches yn allweddol i weithrediadau'r fferm. Yn fuan ar ôl ymuno, trefnodd Martyn waith samplu pridd trwy Cyswllt Ffermio. Arweiniodd hyn at roi calch lle y bo angen ac yn ei dro, gostyngodd hyn faint o nitrogen a roddwyd, gan leihau costau. Mae system bori cylchdro wedi rhoi hwb i ansawdd a maint y glaswellt a dyfir gyda pherfformiad a chynhyrchiant y fuches wedi gwella'n sylweddol. Plannodd Martyn hefyd 20 erw o gêl fel cnwd porthiant y gaeaf, ac fel rhan o'i gynllun cylchdro, bu iddo ail-hadu ar gyfer dechrau'r gwanwyn gyda gwndwn llysieuol a meillion coch, gan gynyddu protein mewn porthiant a gwella ffrwythlondeb y pridd.

Cafodd tarw Simmental oedrannus Wil ei ddisodli gan Aberdeen Angus iau, sy'n adnabyddus am loia yn haws ac iechyd lloi cryf. Gyda Martyn yn byw hanner awr i ffwrdd ac yn gweithio'n rhan-amser i ffermwr arall, roedd ei gyflwyniad o ffenestr loia dynn o saith wythnos a gosod camerâu mewn corlannau lloia, yn galluogi iddo fonitro o bell o'i ffôn, gan sicrhau ei fod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf 24/7. Mae'r rhan fwyaf o'r 50 a mwy o wartheg sugno sy’n cael eu cadw allan dros y gaeaf i raddau helaeth yn Limousin, Belgian Blue neu groesfridiau. Mae'r lloi'n cael eu pesgi ar y fferm cyn cael eu gwerthu.

Yn y blynyddoedd cynnar, ail-fuddsoddwyd yr holl elw i gynyddu’r fuches a'r isadeiledd. Gyda'r sylfeini hynny bellach ar waith, mae'r pwysau ariannol wedi lleddfu, ac mae'r busnes yn parhau i gyrraedd neu ragori ar dargedau bob blwyddyn.

“Fel llawer o ffermwyr, doeddwn i ddim eisiau wynebu’r realiti nad oedd gen i gynllun hirdymor ar gyfer dyfodol y fferm,” cyfaddefodd Wil, gan ddweud bod cael ei gyflwyno i Martyn gan Cyswllt Ffermio wedi dod ar yr amser perffaith.

“Allwn i ddim bod yn fwy diolchgar a balch - dw i’n ymddiried yn Martyn, mae e’n hynod alluog ac yn gweithio’n galed iawn.

“Rwy’n dibynnu ar ei farn gadarn iawn ac yn teimlo bod dyfodol y fferm mewn dwylo diogel.”


Related Newyddion a Digwyddiadau

Academi Amaeth 2025 yn dod i ben gydag enillwyr yr her yn derbyn gwobrau
24 Tachwedd 2025 Mae unigolion uchelgeisiol y mae eu dyfodol yn
Pam mae dwysedd porfeydd yn hanfodol ar gyfer tros-hau llwyddiannus
14 Tachwedd 2025 Mae tros-hau porfeydd gyda chymysgedd aml
Dechrau Ffermio: Cyfleoedd ar gyfer lleoliad gwaith ledled Cymru!
13 Tachwedd 2025 Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfleoedd ar gyfer