Gallai gwneud defnydd o’r dechnoleg  ddiweddaraf ar gyfer gwerthoedd bridio mewn gwartheg bîff gynhyrchu mwy o garcasau sy’n cyrraedd y safon uchaf posibl a chynyddu elw ar gyfer ffermwyr.

Ymunwch â Cyswllt Ffermio mewn diwrnod agored ar un o’i Safleoedd Ffocws i ddarganfod mwy am ddefnyddio Gwerthoedd Bridio Genomeg (GEBV) yn y sector bîff. Mae gwahaniaeth o oddeutu £100 - £150 am bob carcas o ran gwerth adwerthu wedi cael ei nodi rhwng disgynyddion teirw gyda GEBV uchel a disgynyddion teirw gyda GEBV isel (Mynegai Prisiau Cig).

Bydd Alison Glasgow, Cyfarwyddwr Technegol Cymdeithas Gwartheg Limousin Prydain yn trafod datblygiad a gweithrediad technoleg rhinweddau carcas newydd, a bydd canlyniadau profion DNA 40 anifail yn y fuches Limousin pedigri yn cael eu cyflwyno a’u cymharu gydag allwedd SNP Limousin ar gyfer:

  • GEBV pwysau carcas
  • GEBV oedran hyd lladd
  • GEBV gwerth adwerthu
  • GEBV chwe thoriad carcas unigol
  • Amrywiadau myostatin (cyhyrau dwbl)

Bydd cysylltiad rhwng Myostatin, nodweddion carcas a rhwyddineb lloea hefyd yn cael eu trafod a bydd cyfle i weld anifeiliaid sy’n cario gwahanol gyfuniadau o nodweddion.

 

Defnyddio GEBV newydd ar gyfer Nodweddion Carcas mewn systemau cynhyrchu bîff

Dydd Mawrth, 31ain Ionawr 2017

12.30yp-3.30yp

Pencraig, Trelech, Sir Gâr SA33 6RY

 

Darperir cinio. Am fwy o fanylion ynglŷn â’r digwyddiad neu i archebu lle, cysylltwch â Menna Williams ar 01970 631405 neu 07399 600146 menna.williams@menterabusnes.co.uk

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Ffermwyr Sir Benfro yn mynd i'r afael â TB trwy waith tîm
07 Ebrill 2025 Mae ffermwyr ar draws Sir Benfro yn profi, hyd yn
Mentor Cyswllt Ffermio ac arweinydd Agrisgôp, Caroline Dawson, yn rhan o gyfres ddiweddaraf o Our Dream Farm ar Channel 4
03 Ebrill 2025 Dewch i weld hynt a helynt y rhai a gyrhaeddodd
Cyswllt Ffermio yn Cyflwyno 9 Cwrs Hyfforddiant Ychwanegol i Ffermwyr
02 Ebrill 2025 Mae Cyswllt Ffermio wedi ehangu ei raglen