Gall cynyddu cyfraddau goroesi a chyfraddau marwolaeth cyn diddyfni arwain at gynnydd sylweddol yng nghynhyrchiant a pherfformiad  y genfaint, a fydd yn ei dro’n hwb i broffidioldeb y busnes. Ymunwch â Cyswllt Ffermio  a’r milfeddyg moch arbenigol adnabyddus, Bob Stevenson i ddysgu mwy am wella cyfraddau goroesi perchyll.

Bydd Bob yn canolbwyntio ar bynciau megis rheoli hychod cyn dod â pherchyll, gwella’r broses o eni perchyll i leihau nifer y marw-enedigaethau a gofal y perchyll ar enedigaeth i sicrhau cryfder ac i leihau nifer y marwolaethau. Bydd maeth a rheolaeth cyn diddyfnu hefyd yn cael eu trafod gyda’r nod o ddiddyfnu moch trwm, ynghyd â geneteg ddetholus ar gyfer cynhyrchu perchyll o ansawdd uchel.

 

Cynyddu cyfradd goroesi perchyll

Ffridd, Llithfaen, Pwllheli LL53 6NH

Dydd Mercher, 15fed Chwefror 2017 11yb-1yp

 

Croeso cynnes i bawb yn y digwyddiad, ond cofiwch ystyried materion bio-ddiogelwch. Gofynnwn i chi gael cawod cyn mynychu ac i wisgo dillad glân. Am fwy o fanylion ynglŷn â'r digwyddiad, cysylltwch â Gwawr Hughes ar 07896 996841 gwawr.hughes@menterabusnes.co.uk

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Astudiaeth Cyswllt Ffermio yn taflu goleuni newydd ar statws iechyd y pridd mewn caeau tir âr
03 Mawrth 2026 Mae nifer o gaeau sy'n cael eu ffermio mewn
Mae profion genomig yn datgloi potensial llawn buches groesfrid yng Nghymru
26 Chwefror 2026 Mae profi heffrod croesfrid a buchod sy’n
Da i’r blaned, i’r da byw ac i’r busnes
Mae’r ffermwr pedwaredd genhedlaeth, Dylan Jones, yn glir nad oes