Mae ffermwyr yn cael eu hannog i ddarganfod mwy a yw'n bosib iddynt gael mynediad at gymorth ariannol ar gyfer prosiectau amgylcheddol sy’n anelu at gynorthwyo i reoli adnoddau dŵr.

Mae’r cynllun Grantiau Bach Glastir yn cynnig cyllid hyd at £7,500 ar gyfer prosiectau gwaith cyfalaf sy’n anelu at ddarparu manteision amgylcheddol a bydd cyfnod Datgan Diddordeb yn agor ar gyfer y rownd nesaf ym mis Rhagfyr. Bydd arian ar gael ar gyfer prosiectau sy’n ymwneud â’r thema ‘dŵr’, gan ganolbwyntio ar ansawdd dŵr, gan gynnwys gweithgareddau i wahanu dŵr glân a dŵr budur ar fuarthau fferm, plannu ac adfer gwrychoedd, a phlannu coed ar raddfa fechan.

Er mwyn cynorthwyo pobl i ddarganfod mwy am yr hyn sydd ar gael trwy’r cynllun grant newydd a’r math o brosiectau y mae’n bosib eu hariannu, mae Cyswllt Ffermio yn cynnal tri digwyddiad ar draws Cymru. Bydd y digwyddiadau hefyd yn canolbwyntio ar sut i ymgeisio ar-lein a gofynion technegol megis ffotograffau â geotag, sy’n angenrheidiol ar gyfer hawlio, ynghyd â manylion am y gefnogaeth a’r arweiniad sydd ar gael trwy Cyswllt Ffermio. Cynhelir y digwyddiadau fel a ganlyn:

 

Nos Fawrth, 13 Rhagfyr 2016, 19:30-21:30 - The Oriel Country Hotel & Spa, Llanelwy, LL17 OLW

Nos Fercher, 14 Rhagfyr 2016, 19:30-21:30 - Gwesty'r Emlyn Hotel, Castell Newydd Emlyn, SA38 9DU

Nos Iau, 15 Rhagfyr 2016, 19:30-21:30 – Pafiliwn Rhyngwladol, Maes y Sioe Frenhinol, Llanfair ym Muallt, LD2 3SY

 

Croeso i bawb. Am fwy o fanylion am y digwyddiadau hyn, cysylltwch â Carys Thomas ar 01970 631402 neu carys.thomas@menterabusnes.co.uk

 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites