Yn ystod cyfnodau o ansicrwydd a llai o hyder mewn busnes, ynghyd â’r ansefydlogrwydd sy’n parhau ym myd amaeth, mae’n gynyddol bwysig i fusnesau fferm gynllunio ymlaen llaw a gwneud penderfyniadau da. Mae datblygu gwell dealltwriaeth o wasanaethau bancio gwledig hefyd yn bwysig ar gyfer mentrau fferm.
Er mwyn cynorthwyo’r broses o wneud penderfyniadau a deall yr angen ar gyfer cynllunio at y dyfodol, mae Cyswllt Ffermio wedi trefnu cyfres o weithdai ymarferol, rhyngweithiol yn canolbwyntio ar astudiaethau achos enghreifftiol yn ymwneud ag ehangu neu leihau busnes, gwariant cyfalaf, arallgyfeirio a lleihau risg. Bydd mynychwyr hefyd yn cael cyfle i’w rhoi eu hunain yn sefyllfa'r banc ac i wneud penderfyniadau am ariannu’n seiliedig ar yr astudiaethau achos.
Cynhelir chwe gweithdy ar draws Cymru ym mis Ionawr a Chwefror, wedi'u darparu gan Nigel Davies o gwmni Promar. Bydd siaradwyr eraill hefyd yn trafod rheolaeth ariannol, cyllidebu, cyfrifo perfformiad busnes, benthyca o’r banc ac ailstrwythuro dyledion.
Gweithdai Datblygu eich Busnes
31/01/2017 | 19:30 - 22:00 | Pwllheli (lleoliad i’w gadarnhau wrth archebu lle) |
01/02/2017 | 11:00 - 14:30 | Yr Wyddgrug (lleoliad i’w gadarnhau wrth archebu lle) |
07/02/2017 | 19:30 - 22:00 | Y Trallwng (lleoliad i’w gadarnhau wrth archebu lle) |
08/02/2017 | 11:00 - 14:30 | Porthcawl (lleoliad i’w gadarnhau wrth archebu lle) |
09/02/2017 | 19:30 - 22:00 | Casblaidd (lleoliad i’w gadarnhau wrth archebu lle) |
21/02/2017 | 11:00 - 14:30 | Caerfyrddin (lleoliad i’w gadarnhau wrth archebu lle) |
Am fwy o fanylion am y digwyddiadau hyn, cysylltwch â Carys Thomas ar 01970 631402 neu carys.thomas@menterabusnes.co.uk