Rydym yn annog ffermwyr, coedwigwyr a garddwyr sy’n awyddus i leihau costau a gwella effeithlonrwydd eu busnes i ymweld â Cyswllt Ffermio yn yr Ŵyl Wanwyn eleni, a gynhelir ar faes y sioe yn Llanelwedd ar 20 / 21 Mai.

Mae Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sy’n darparu’r gwasanaeth Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, yn disgwyl y bydd yn brysur yn y digwyddiad blynyddol hwn sy’n cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau. Oherwydd y galw, bydd y gyfres o arddangosiadau dyddiol ymarferol wedi’u targedu at rai sy’n cadw moch yn cael eu cynnal unwaith eto. Menter ar y cyd yw hon rhwng Cyswllt Ffermio, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Hybu Cig Cymru a Menter Moch Cymru.

 “Bydd staff Cyswllt Ffermio mewn nifer o leoliadau eleni, yn cynnwys yr adeilad Lantra yn ogystal â’r stondin foch, coedwigaeth, garddwriaeth a ‘Dechrau Arni’ yng Nghanolfan y Tyddynwyr.   Ein nod yw annog unigolion cymwys i fanteisio ar y gwasanaethau a’r digwyddiadau trosglwyddo gwybodaeth niferus sydd ar gael yn y rhaglen bresennol. Mae pob un naill ai wedi’u hariannu llawn neu’n cael hyd at 80% o gymhorthdal.

“Dylai unrhyw un sydd eisiau paratoi eu busnes i ymateb i’r heriau a’r cyfleoedd a wynebir yn yr hinsawdd economaidd heriol hon, ddod i gael gair gyda’n staff.  

 “Yn ystod y 18 mis diwethaf, mae mwy na 850 o unigolion wedi derbyn cymorth drwy’r Gwasanaeth Cynghori ac mae nifer bellach yn dweud bod hyn wedi dod â buddion technegol a budd sylweddol i’w busnes. 

“Gyda mwy na 7000 o fusnesau yng Nghymru bellach wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, mae’r rhaglen yn trawsnewid y ffordd y mae nifer o fusnesau’n cael eu rheoli, a thrwy ddigwyddiadau fel y Ffair Wanwyn mae cyfle i ni gyfarfod mwy o bobl a chyflwyno ein timau o staff ac arbenigwyr rhanbarthol,” meddai Mrs. Williams.  

Yn adran y moch, cynhelir arddangosiadau moch dyddiol gan yr arbenigwr enwog ar foch, Bob Stevenson.   

farming connect technical officer gwawr hughes with glynllifon piglets 0
“Bydd canllawiau a chyngor i ddechreuwyr ac arbenigwyr fel ei gilydd, yn canolbwyntio ar bwysigrwydd iechyd a lles moch. Bydd y rhain yn amrywio o sylwi ar arwyddion corfforol i’ch helpu i ganfod arwyddion afiechyd yn gynnar, i drin a rheoli afiechydon”, meddai Gwawr Hughes, swyddog technegol moch a dofednod Cyswllt Ffermio.

Hefyd bydd Hybu Cig Cymru’n cynnal sesiynau dyddiol ar gynhyrchu a marchnata porc yng Nghymru.

“Bydd Hybu Cig Cymru’n lansio ei ddewis newydd o ddeunyddiau pwynt gwerthu a gynhyrchwyd mewn partneriaeth â Menter Moch Cymru yn y digwyddiad,” meddai Rhys Llywelyn, Rheolwr Datblygu’r Farchnad HCC.

 “Bwriedir i’r cardiau ryseitiau gael eu defnyddio gan gynhyrchwyr a manwerthwyr ac mae amryw o ryseitiau arnynt sy’n defnyddio porc o Gymru. Bydd cyflenwadau ar gael i’r cynhyrchwyr hynny sydd wedi cofrestru ar wefan porc.wales/cym ac aelodau Menter Moch Cymru.”

Cliciwch yma i weld amserlen lawn yr arddangosiadau moch.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites