11 Tachwedd 2021

 

Heddiw ers i bandemig Covid 19 ddechrau mae cynnydd yn y nifer o ffermwyr sy'n gwerthu cynnyrch yn uniongyrchol i'r defnyddiwr, mae'n bwysig bod ansawdd y cynnyrch a werthir o'r safon uchaf, gyda hyn mewn golwg mae Cyswllt Ffermio a Menter Moch Cymru wedi bod yn gweithio gyda Fferm Forest Coalpit ar brosiect i fynd i’r afael â’r awydd cynyddol tuag at ddulliau cynhyrchu mwy cynaliadwy.

Mae'r prosiect wedi bod yn dadansoddi ac yn cymharu ansawdd porc o ddau grŵp triniaeth: un grŵp wedi'i fagu ar gyfuniad o borthiant a dwysfwyd a'r llall ar ddwysfwyd yn unig.

Bydd canlyniadau'r prosiect a gasglwyd yn dilyn yr asesiadau a gynhaliwyd gan y Ganolfan Technoleg Bwyd yn cael eu trafod gan Caroline Mitchell o FQM Global mewn gweminar arbennig a gynhelir gan Cyswllt Ffermio a Menter Moch Cymru ar Dachwedd 18fed am 7yh.

Dywedodd Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru: “Bydd y weminar yn gyfle cyffrous i edrych ar yr effeithiau y gall dietau gwahanol eu cael ar ansawdd porc a gallai ychwanegu gwerth at y cynnyrch.”

Mae ansawdd porc yn bwysig iawn i Kyle Holford a Lauren Smith o Fferm Forest Coalpit, sy’n rhedeg eu cenfaint 20 hwch eu hunain ac yn gorffen buches o'u brîd eu hunain o foch ‘Du Cymreig’ (Du Mawr X Duroc) ar borfa a choetiroedd ar eu fferm yn y Bannau Brycheiniog.

Maent yn cigydda ac yn gwerthu eu cynnyrch yn uniongyrchol i gwsmeriaid mewn blychau porc a hefyd yn cyflenwi bwytai a chigyddion sydd wedi ennill gwobrau.

Fodd bynnag, ers i'r pandemig Covid 19 ddechrau, mae eu porc yn cael ei werthu yn bennaf trwy flychau a chigyddion.
Meddai Kyle Holford: “Rwy’n aml yn eistedd yn bwyta rhywfaint o’n porc yn meddwl pam ei fod yn blasu mor arbennig, yn amlwg mae’n amrywiaeth o ffactorau brîd, maes, rheolaeth a diet. Roeddwn i eisiau gwneud y prosiect hwn er mwyn darganfod pa rôl oedd gan borthiant ar flas a gweld y buddion a ddaw yn ei sgil.

“Roedd ein prif ffocws ar ddadansoddi'r brasterau gan mai dyma le mae'r gwahaniaeth i'w weld ar rywogaethau eraill. Yn ogystal â hyn fe wnaethom bwyso'r moch drwyddi draw i weld os yw porthiant yn dod ag unrhyw fuddion cynhyrchu hefyd. O'r prosiect hwn rydym yn gobeithio dysgu gwerth porthiant mewn cynhyrchu moch awyr agored p'un a yw'n dod o fudd cynhyrchu, blas neu ar gyfer dal a storio carbon a buddion amgylcheddol,” ychwanegodd.

Mae'r prosiect hwn yn ceisio mynd i'r afael â'r awydd cynyddol gan ddefnyddwyr i weld ansawdd ac olrhain yn eu cynnyrch.

Ychwanegodd Dafydd Owen, Swyddog Technegol Moch i Cyswllt Ffermio: "Mae mynychu'r weminar yn gyfle grêt i glywed am y prosiect arloesol sy'n digwydd yn Forest Coalpit. Mae'n gyfle da hefyd i ddod i wybod mwy am y system mae Kyle a Lauren yn rhedeg ac i ofyn unrhyw gwestiwn sydd gennych"

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint
Fferm laeth yr ucheldir yn treialu cymysgedd hadau gwndwn llysieuol sydd wedi'u sefydlu gyda hau yn uniongyrchol
16 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yr ucheldir yng Nghymru yn ceisio
Ffermwr llaeth sy’n manteisio ar ‘Gyllid Arbrofi’ yn ceisio gwella bioleg y pridd
15 Ebrill 2024 Mae ffermwr llaeth yn cyflwyno cannoedd o