05 Medi 2025

Mae data newydd yn dangos effaith straen gwres a achosir gan ddiffyg cysgod yn ystod tywydd poeth ar wartheg llaeth. Yn ôl yr amcangyfrifon, collir cynnyrch llaeth o 117.3kg/buwch dros gyfnod o 87 diwrnod o’i gymharu â 9.1kg/buwch yn unig mewn anifeiliaid sydd wedi'u cysgodi rhag yr haul.  

Mae'r teulu Evans, sy'n cynhyrchu llaeth o fuches o 470 o wartheg croesfrid Holstein/Norwegian Red/Friesian ar fferm Kilford, ger Dinbych, wedi bod yn gweithio gyda Cyswllt Ffermio i ymchwilio i werth coed a gwrychoedd fel cysgod a lloches i'w stoc.

O fis Chwefror ymlaen, maent yn pori'r fuches mewn cylchdro ar y daliad 330 hectar.

Mae effeithiau tymheredd cynyddol ar wartheg llaeth yn cael eu monitro fel rhan o un o astudiaethau Ein Ffermydd, ac mae'r set gyntaf o ddata yn awgrymu colled sylweddol mewn cynnyrch llaeth os yw’r fuches wedi bod allan yn llygad yr haul heb gysgod ar ddiwrnodau poethaf yr haf.

Gan ddefnyddio cyfuniad o folysau rwmen SmaXtec i roi mewnwelediadau amser real i ffactorau fel yfed, cnoi cil, gweithgarwch a lefelau straen gwres mewnol y gwartheg, a synwyryddion sy'n mesur tymheredd a’r mynegai lleithder thymheredd (THI), bu’r ymchwil yn canolbwyntio ar yr 87 diwrnod rhwng 5 Mai a 27 Gorffennaf 2025, pan welwyd cyfnodau aml o wres dwys.

Ar un diwrnod, 12 Gorffennaf, dangosodd y synhwyrydd tymheredd mai 41.6°C oedd y gwres pelydrol mewn ardaloedd lle nad oedd lloches i’w chael ar y llwyfan pori – sef gwres y bydd buwch â chôt ddu yn ei deimlo ar ei chefn pan fydd yn sefyll yn llygad yr haul heb gysgod - a THI o 32.1°C.

Mewn ardaloedd dan gysgod coed, roedd y tymheredd gwres pelydrol yn sylweddol is, ar 29.8°C, a darlleniad y THI oedd 30.2°C.

Cymerwyd mesuriadau hefyd yn adeiladau ciwbicl y fferm, lle mai 31.3°C oedd y tymheredd gwres pelydrol ar 12 Gorffennaf.

Cyfrifodd y milfeddyg a'r ymgynghorydd Dr Tom Chamberlain, a ddadansoddodd y data hwn, golled cynnyrch llaeth posibl o 117.3kg/buwch pe bai'r fuches yn y borfa yn llygad yr haul am yr 87 diwrnod hynny, o’i gymharu â 9.1kg/buwch pe baent yn gallu cael mynediad at gysgod llawn yn yr awyr agored.

Mae'r data hwn ar gyfer buwch sy'n cynhyrchu cynnyrch llaeth dyddiol o 30kg ar gyfartaledd.

Ar sail y lefel gynhyrchu honno, dangosodd y colledion llaeth posibl ar y tymereddau a gofnodwyd yn Kilford ystod o 0-2 litr y fuwch/dydd o straen gwres cymedrol, gan godi i 2-4 litr mewn buwch sy'n profi straen gwres uchel, a 4-6 litr yn y rhai sydd â straen gwres difrifol.

Yn ôl Gwenan Evans, Swyddog y Sector Llaeth gyda Cyswllt Ffermio, sy'n goruchwylio'r prosiect, mae'r data hwn yn dangos yr heriau y mae straen gwres yn eu cyflwyno i'r diwydiant llaeth.  

"Er gwaethaf potensial straen gwres i effeithio'n sylweddol ar les a phroffidioldeb gwartheg, mae'n bwnc na fu digon o ymchwil iddo yng Nghymru, er syndod," meddai.

"O ystyried bod tymheredd yr haf yn aml yn codi’n uwch na 21°C – sef trothwy ar gyfer straen gwres – a bod gan lawer o ffermydd yng Nghymru systemau pori agored, rydym yn amau y gallai hyn fod yn broblem gudd sylweddol."

Nid yn unig y mae straen gwres yn lleihau cynnyrch llaeth, ond mae'n arwain at ffrwythlondeb gwael a llai o gyfnodau gorwedd, sy'n cael effaith niweidiol ar iechyd traed y fuwch, a fydd yn arwain at fwy o gloffni.

Mae integreiddio coed i systemau pori da byw yn cynnig ateb.

Mae Arbenigwr Coetir Cyswllt Ffermio, Geraint Jones, yn ei ddisgrifio fel "datrysiad pwerus sy'n seiliedig ar natur a all leihau straen gwres mewn gwartheg yn sylweddol".

"Wrth i'n hinsawdd newid, mae sefydlu coed mewn modd strategol yn dod yn offeryn hanfodol i ffermwyr," meddai.

Mae coed yn creu microhinsoddau hanfodol trwy ddarparu cysgod a chynyddu lleithder, sydd o fudd uniongyrchol i dda byw trwy ostwng tymheredd yr aer a lleihau straen gwres.

Mae'r cyfuniad hwn yn effeithiol iawn wrth liniaru effaith gwres eithafol ar wartheg, ychwanega Geraint.

"Mae darparu amgylchedd lle mae gwartheg mor gyfforddus â phosibl yn hollbwysig, a gall coed fod yn ffactor allweddol wrth greu'r amgylchedd hwn.

"Dros y blynyddoedd nesaf, bydd sefydlu coed yn hanfodol ar gyfer adeiladu gwytnwch ffermydd, diogelu lles anifeiliaid, a darparu manteision economaidd hirdymor yn wyneb hinsawdd sy'n cynhesu."

Mae coed yn rhyddhau anwedd dŵr trwy drydarthu, gan gynyddu lleithder yn lleol. Er bod pobl yn aml yn cysylltu lleithder uchel â theimlo'n boethach, dywed Geraint ei bod yn fwy cymhleth i anifeiliaid.

"Pan fydd yr aer llaith hwn yn cael ei chwythu dros anifail poeth, mae chwys neu ddyheu’r anifail yn anweddu'n fwy effeithiol oherwydd yr aer oerach, mwy llaith, sy'n helpu i'w hoeri.

"Cysgod a ddarperir gan goed yw'r ffactor mwyaf arwyddocaol, ond mae'r lleithder cynyddol o drydarthu yn ffactor sy'n cyfrannu at y microhinsawdd oerach sy'n helpu da byw i ymdopi â straen gwres."

Yn Kilford, bydd gwaith prosiect Ein Ffermydd bellach yn nodi cyfleoedd i integreiddio coed i badogau pori'r fferm, tra bydd monitro tymereddau a'u heffaith ar wartheg yn parhau tan ddiwedd mis Medi.

Y nod yw datblygu system amaeth goedwigaeth fuddiol i'r ddwy ochr sy'n cynnal neu'n gwella cynhyrchiant glaswellt wrth wella gwasanaethau ecosystemau, meddai Geraint, ac mae hyn yn darparu manteision amgylcheddol ac economaidd i'r fferm yn y pen draw.

Integreiddio coed a gwrychoedd i systemau da byw

Mae cysgod yn hollbwysig

Mae integreiddio coed i systemau pori yn darparu cysgod sylweddol i dda byw ac amddiffyniad naturiol rhag ymbelydredd solar.

Ar gyfer systemau pori, cyngor Geraint yw y dylai'r ffocws fod ar blannu coed ar y llwyfan pori.

Mae defnyddio siediau’r gaeaf i ddarparu cysgod pan fydd ei angen yn opsiwn ymarferol da, hefyd.

Dewiswch goed sy'n cynnig y potensial gorau ar gyfer cysgod

Mae coed gyda chanopïau llydan a dail trwchus yn cynnig yr ateb mwyaf effeithiol ar gyfer darparu cysgod sylweddol, sy’n golygu bod modd gwneud y mwyaf o'u rôl wrth leihau'r risg o straen gwres i dda byw.

Mae plannu amrywiaeth o rywogaethau o goed o fewn gwrych neu lain cysgodi, er enghraifft, y rhai sydd ag amseroedd blodeuo a ffrwythau gwahanol, yn cefnogi lefel uwch o fioamrywiaeth, hefyd.

Plannwch goed lle maen nhw'n cael yr effaith fwyaf

Dylanwadir ar lefel lliniaru straen gwres y mae coed yn ei chynnig gan y microhinsawdd lleol sy'n benodol i bob fferm.

Mae’n anochel y bydd plannu coed mewn modd strategol mewn mannau agored yn llygad yr haul yn rhoi'r manteision mwyaf.

Gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd

Dywed Geraint fod yr ymchwil yn Kilford yn pwysleisio'r rhan hanfodol y mae coed yn ei chwarae wrth wella gallu ffermydd i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd.

"Wrth i'r tymheredd barhau i godi, bydd pwysigrwydd gorchudd coed ar gyfer lles da byw ond yn tyfu," meddai.

Gwerth coed sy'n bodoli eisoes

Mae’r gorchudd coed presennol yn rhoi rhywfaint o amddiffyniad i wartheg a defaid rhag effeithiau andwyol hinsawdd sy'n newid.

Fodd bynnag, gall maint y cysgod a ddarperir gan goed sydd eisoes wedi'u sefydlu ar fferm fod yn gyfyngedig yn aml, yn enwedig mewn systemau lle mae niferoedd da byw wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, awgryma Geraint.

Felly, yn ogystal â gwarchod y coed hynny, dylai mesurau i wella’r gorchudd fod yn flaenoriaeth, ychwanega.

"Mae mynd i’r afael â phlannu coed gyda gweledigaeth hirdymor yn hanfodol i sicrhau ei fod yn darparu lloches a chysgod i anifeiliaid ar gyfer y degawdau i ddod."

Sefydlu coed

Mae plannu coed newydd yn cynnig dull cyfalaf ymarferol a naturiol o liniaru newid yn yr hinsawdd.

"Mae plannu coed yn fuddsoddiad cadarn yn iechyd a chynhyrchiant da byw yn yr hirdymor," meddai Geraint.

Mae Cyswllt Ffermio yn cynnal cyfres o deithiau o amgylch ffermydd ym mis Medi,  lle bydd ffermwyr yn clywed mwy am y prosiectau sy'n cael eu cynnal ar ffermydd sy’n rhan o’r rhwydwaith Ein Ffermydd. Mae manylion ar gael ar https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/beth-sydd-ymlaen 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Academi Amaeth 2025 yn dod i ben gydag enillwyr yr her yn derbyn gwobrau
24 Tachwedd 2025 Mae unigolion uchelgeisiol y mae eu dyfodol yn
Pam mae dwysedd porfeydd yn hanfodol ar gyfer tros-hau llwyddiannus
14 Tachwedd 2025 Mae tros-hau porfeydd gyda chymysgedd aml
Dechrau Ffermio: Cyfleoedd ar gyfer lleoliad gwaith ledled Cymru!
13 Tachwedd 2025 Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfleoedd ar gyfer