Mae Rhiannon James wedi cael ei phenodi fel swyddog datblygu Cyswllt Ffermio ar gyfer Gogledd Sir Benfro, a bydd yn cyfuno'r swydd gyda'i rôl fel gwraig fferm, mam i dri o blant ifanc a chynnig help llaw ar y fferm!

rhiannon james l 0

Magwyd Rhiannon ar fferm laeth y teulu yn Llawhaden. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae wedi bod yn cyfuno ei bywyd cartref gyda'i swydd blaenorol fel newyddiadurwraig dechnegol arbenigol gyda Cyswllt Ffermio, yn ogystal â rhoi help llaw ar fferm ei gŵr, sy’n gymysgedd o wartheg bîff sugno a llaeth yn Merlin’s Bridge, ger Hwlffordd, pan fo angen.  

Fel cyn-gadeirydd sirol CFfI Sir Benfro, bu Rhiannon yn ymwneud â'i chlwb lleol, CFfI Llawhaden am sawl blwyddyn, profiad sydd wedi rhoi cyfle gwych iddi ddysgu nifer o sgiliau ac i wneud ffrindiau newydd.  

Graddiodd Rhiannon o Brifysgol Caerdydd gyda gradd Saesneg, gan arwain at yrfa mewn newyddiaduraeth. Bu’n ohebydd ac yna’n is-olygydd ar gyfer ei phapur lleol, y Western Telegraph, cyn cael ei phenodi’n olygydd ffermio, lle bu’n gyfrifol am gynhyrchu dau bapur newydd amaethyddol yn fisol.

Ymunodd Rhiannon â Cyswllt Ffermio lle'r oedd ei sgiliau ysgrifennu technegol a’i dealltwriaeth o ffermio o fudd mawr i'w chynorthwyo i sicrhau bod prif negeseuon yn cael eu trosglwyddo i'r diwydiant yn dilyn amrywiaeth o ddigwyddiadau trosglwyddo gwybodaeth ar draws y sectorau ledled Cymru.  

Mae Rhiannon yn ffyddiog y bydd ei chefndir amaethyddol a’i rhwydweithiau niferus yng nghymunedau gwledig Sir Benfro yn ei chynorthwyo i wneud gwahaniaeth i ffermwyr a choedwigwyr yn ei hardal.

"Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fy rôl newydd a fydd yn fy ngalluogi i annog pobl i fanteisio ar yr amrediad eang o wasanaethau sydd ar gael trwy Cyswllt Ffermio.

"Mae cymaint o wasanaethau a phrosiectau gwahanol ar gael, a phob un wedi’i lunio i helpu i drawsnewid effeithlonrwydd a chynhyrchiant busnes.  

“Dyma’r ffordd orau i fusnesau fferm sicrhau eu bod yn parhau’n gryf ac yn gynaliadwy yn y blynyddoedd sydd i ddod, yn enwedig o ystyried yr ansicrwydd gwleidyddol presennol a natur cyfnewidiol parhaus y marchnadoedd byd-eang," meddai Rhiannon.

Bydd Rhiannon hefyd yn rheoli nifer o grwpiau trafod, yn darparu cyfleoedd i ffermwyr o’r un anian gwrdd â’i gilydd ac edrych ar syniadau newydd, trafod heriau a chymharu elfennau o’u busnesau.

“Un o’m blaenoriaethau fydd i sefydlu grwpiau trafod newydd yng Ngogledd Sir Benfro.  Os oes digon o alw gan ffermwyr o’r un sector sydd â syniadau tebyg, byddem yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gysylltu â mi gydag awgrymiadau," meddai Rhiannon.

I gysylltu â Rhiannon yn uniongyrchol, ffoniwch 07985 379927. I ddarganfod mwy ynglŷn â sut all Cyswllt Ffermio fod o fudd i chi a'ch busnes, neu i gysylltu â swyddog datblygu yn eich ardal chi, cliciwch yma. 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y