20 Mawrth 2024

 

Mae perchennog planhigfa blanhigion yn Sir Gâr yn dweud bod defnyddio gwasanaethau Cyswllt Ffermio wedi helpu i ddyblu maint ei fusnes a chynyddu ei weithlu i 20 o staff parhaol.

Sefydlodd Richard Bramley fusnes Farmyard Nurseries yn Heol Dol Llan, Llandysul, ar ôl symud yno o Swydd Gaerlŷr gyda’i rieni, Bill a Gill, pan oedd yn ei ugeiniau.

Fe wnaethon nhw sefydlu fferm laeth yno, ond planhigion oedd prif ddiddordeb Richard yn hytrach na gwartheg, felly penderfynodd ganolbwyntio ei wybodaeth a’r sgiliau garddwriaeth a ddysgodd yn y coleg i sefydlu busnes planhigfa blanhigion.

“Mae mam yn arddwr brwd hefyd, felly fe wnaethom ni greu gardd cyn adeiladu’r parlwr godro a’r sied giwbiclau!” meddai.

Ac felly, ganwyd Farmyard Nurseries, wedi’i leoli’n wreiddiol mewn hen sied foch, gan ledaenu’n araf ar draws ardal dros dair erw gyda 50 twnnel plastig lle mae Richard a’i dîm yn tyfu popeth o heleborau a phlanhigion cigysol i rywogaethau hosta a briallu.

Mae staff medrus a gwybodus wedi bod yn hanfodol er mwyn sicrhau twf y busnes.

Er mwyn helpu ei staff i ddatblygu, mae Richard wedi manteisio ar gymorth Busnes Garddwriaeth Cyswllt Ffermio, gan dderbyn hyfforddiant sgiliau ym mhob maes o ddefnyddio plaladdwyr a rheoli plâu yn integredig, i ddefnyddio llif gadwyn, iechyd a diogelwch a rheoli busnes.

Mae’r rhain wedi bod yn fuddiol iawn, meddai Richard.

“Rydw i wedi dweud wrth y staff i fanteisio ar bob cyfle fel hyn sy’n codi, mae’n beth da i’r busnes, ond yn bennaf oll, mae’n creu diwylliant o hunan werth.’’

Mae’r rheolwr, Matt Jones, yn rhan o’r tîm, ac mae wedi chwarae rôl flaenllaw wrth ddatblygu’r blanhigfa.

“Mae Cyswllt Ffermio wedi bod â rhan hanfodol yn natblygiad gyrfa Matt,” meddai Richard.

Dechreuodd Matt, sy’n siaradwr Cymraeg  iaith gyntaf, ac sydd wedi’i fagu yn yr ardal leol, weithio yn y blanhigfa pan oedd yn ei arddegau, ac nid oedd ganddo lawer o brofiad garddwriaeth.

Erbyn hyn, ugain mlynedd yn ddiweddarach, mae Matt yn gweithio’n agos iawn gyda Richard.

Mae Cyswllt Ffermio wedi bod o fudd mawr iddo, meddai Richard. “Mae Cyswllt Ffermio wedi chwarae rhan hanfodol wrth feithrin ei ddiddordeb, gan ei roi ar y trywydd iawn drwy gyrsiau hyfforddiant sgiliau, yn ogystal â’r cyfarfodydd a’r cyfleoedd i rwydweithio.

“Rydw i wedi cymryd cam yn ôl yn bwrpasol fel bod Matt yn gallu cymryd yr awenau ac mae wedi blodeuo.”

Trwy raglen Cyswllt Ffermio, mae busnes Richard wedi rhoi rhaglen rheoli plâu yn integredig ar waith yn dilyn cymorth gan ADAS RSK wedi’i hwyluso gan Cyswllt Ffermio.

Mae hyn wedi rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i’r staff i’w galluogi i gyflwyno newidiadau ac i reoli achosion o blâu a chlefydau.

Mae cyfleoedd rhwydweithio Cyswllt Ffermio wedi helpu gyda hynny hefyd, gydag ymweliadau â busnesau tebyg a chyflwyniadau gan arbenigwyr ar ystod o bynciau.

“Mae’n ddefnyddiol iawn i’r staff allu gweld sut mae pobl eraill yn gwneud pethau,” meddai Richard.

Un o’r heriau ar gyfer y busnesau hynny a’i fusnes ei hun yw trawsnewid i dyfu heb fawn.

Collodd Farmyard Nurseries nifer o blanhigion pan ddechreuodd ddefnyddio dulliau heblaw am fawn fel cyfrwng tyfu gan fod statws maetholion deunyddiau eraill a wneir o ffibr pren, rhisgl, gwlân a deunyddiau eraill yn gallu amrywio’n sylweddol.

Trefnodd Cyswllt Ffermio ymweliad gan yr ymgynghorydd garddwriaeth, David Talbot, i gynnig cymorth busnes ymarferol.

“Defnyddiodd fesurydd dargludedd trydan (EC) i fesur lefel maetholion, ac roedd rhai ohonynt y tu hwnt i’r raddfa,” meddai Richard.

Mae’r ddyfais hon yn helpu tyfwyr i sicrhau bod eu planhigion yn cael y maetholion angenrheidiol er mwyn ffynnu.

Buddsoddodd Richard yn ei fesurydd ei hun i fonitro halwynedd y compost a’r maetholion y mae’n eu defnyddio; mae hyn, meddai, wedi atal colledion planhigion werth miloedd o bunnoedd.

Mae lleoliad anghysbell a gwledig Farmyard Nurseries yn rhan o’i apêl gyda chwsmeriaid yn teithio milltiroedd i ymweld â’r safle, gan dreulio oriau yno, nid yn unig yn dewis planhigion ar gyfer eu gerddi eu hunain, ond hefyd yn crwydro o amgylch coetir a thir hyfryd y fferm.

Ond mae hyn hefyd wedi bod yn rhwystr o ran cyrraedd sylfaen cwsmeriaid ehangach, a dyna pam mae archebion drwy’r post wedi bod mor bwysig i’r model busnes.

Roedd hyn yn bwysicach nag erioed yn ystod y pandemig, lle bu gwasanaethau Cyswllt Ffermio yn ddefnyddiol iawn unwaith eto, meddai Richard, gyda chymorth e-fasnach yn helpu i “weddnewid” y busnes.

“Heb y cymorth hwnnw, ni fyddem wedi gallu parhau, gan fod 90% o’n busnes wedi gorfod cael ei wneud ar ffurf archebion drwy’r post yn ystod y pandemig.”

Er bod gan y busnes wefan eisoes, derbyniodd gyngor ynghylch sut i’w defnyddio er budd y busnes ac i fanteisio arni er mwyn cynyddu gwerthiant.

Mae Richard, sy’n cynrychioli’r diwydiant ar Grŵp Cynghrair Garddwriaeth Cymru, yn annog eraill i ddefnyddio gwasanaethau Cyswllt Ffermio, sydd naill ai wedi’u hariannu’n llawn neu’n rhannol.

“Ychydig iawn o gymorth sydd wedi bod ym maes garddwriaeth yng Nghymru yn hanesyddol, felly pan ddechreuodd cymorth fod ar gael drwy Tyfu Cymru yn y lle cyntaf, ac yna drwy Cyswllt Ffermio, fe wnaethom ni fanteisio ar y cyfle. Roedd y gwasanaeth yn wych bryd hynny, ac mae’n dal i fod felly hyd heddiw.

“Y peth gorau amdano yw bod y bobl sy’n cynnal y gwasanaeth yn gwrando ac yn teilwra cymaint o’r hyn a ddarperir i’r hyn y mae tyfwyr wirioneddol ei angen. Mae hynny’n brin, felly mae’n hynod o werthfawr.’’
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint