5 Rhagfyr 2018

 

llyr hughes 2 0
Er bod y prosiect cydamseru oestrws bellach wedi dirwyn i ben yn Fferam Gyd, safle ffocws Cyswllt Ffermio yn Llanbabo, Ynys Môn, mae’n sicr y bydd Llyr Hughes yn parhau i gydamseru ei fuches fasnachol yn ogystal â’i fuches Limousin bedigri ar gyfer y dyfodol rhagweladwy.

Ers cychwyn y prosiect, a wnaeth ffocysu ar fanteision posib cydamseru gwartheg er mwyn ennill patrwm lloi tynnach yn ogystal â chynyddu enillion pwysau dyddiol, mae Llyr wedi derbyn canlyniadau trawiadol dros ben.

Wrth ddilyn cynllun a ddatblygwyd gan arbenigwr bridio, cafodd buchod yn y grŵp cydamseru eu ffrwythloni dwy waith ym mis Mehefin 2017, gan ddefnyddio had o Derrygullinane Kingbull, tarw Limousin pedigri sydd yn enwog am gynhyrchu lloi gyda chyfraddau twf arbennig. Dangosodd ganlyniadau sganio beichiogrwydd fod 77% o’r 55 o fuchod oedd wedi’u cynnwys yn y grŵp yn feichiog ar ôl y gwasanaeth cyntaf, a ragorodd ar y targed gwreiddiol o 60%.

Dechreuodd y grŵp cydamseru lloi ar y 12fed o Fawrth 2018, a gorffen ar Fawrth 24ain, gyda 14 o fuchod yn lloua o fewn cyfnod o ddeuddeg awr. Er ei fod yn llafurus ac angen digonedd o le sied, roedd Llyr yn llawer mwy awyddus i ddilyn y dull hwn yn hytrach na gwasanaeth naturiol, a oedd yn golygu fod y cyfnod lloi yn parhau am hirach.

Cafodd y lloi eu gwerthu yn 7-8 mis oed yn farchnad leol Gaerwen ar y 3ydd o Hydref 2018, yn pwyso oddeutu 31kg/llo yn drymach na chnwd y llynedd a werthodd am £820 ar gyfartaledd ar gyfer heffrod a bustych. Eleni, gwerthwyd y bustych am gyfartaledd o £920/pen tra gwerthwyd yr heffrod am bris cyfartalog o £780/pen.

 

Prif argymhellion Llyr’s am wneud iddo weithio:

  • Mae sylw i fanylder yn hanfodol bwysig.
  • Mae sustemau trin gwartheg da yn hanfodol, nid yn unig i fod yn ymarferol ond ar gyfer iechyd a diogelwch.  
  • Mae digonedd o le mewn adeiladau a chaeau sy’n agos i’r iard yn hanfodol.
  • Cofiwch droi teirw i mewn ar ôl gwasanaeth a gwylio’n ofalus am fuchod yn ail-ofyn, er mwyn sicrhau fod y tarw yn ymdopi.

Bydd yr adroddiad prosiect terfynol ar gael ar ein gwefan yn fuan.  


Related Newyddion a Digwyddiadau

Academi Amaeth 2025 yn dod i ben gydag enillwyr yr her yn derbyn gwobrau
24 Tachwedd 2025 Mae unigolion uchelgeisiol y mae eu dyfodol yn
Pam mae dwysedd porfeydd yn hanfodol ar gyfer tros-hau llwyddiannus
14 Tachwedd 2025 Mae tros-hau porfeydd gyda chymysgedd aml
Dechrau Ffermio: Cyfleoedd ar gyfer lleoliad gwaith ledled Cymru!
13 Tachwedd 2025 Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfleoedd ar gyfer