21 Gorffennaf 2021
Yn ystod #WythnosDiogelwchFferm eleni, gofynnir i ffermwyr rannu eu cyngor ynghylch sut i gadw eu hunain, eu teuluoedd, eu gweithwyr ac unrhyw ymwelwyr â'u tir yn ddiogel.
Mae'r Partneriaethau Diogelwch Fferm (FSP) ar draws Prydain yn cefnogi'r ymgyrch, a gynhelir gan y Sefydliad Diogelwch Fferm, ac eleni, mae'n canolbwyntio ar y ffordd y gall trefniadau rheoli risg effeithiol a gweithredu mesurau ataliol wneud cryn dipyn er mwyn lleihau nifer y damweiniau ar y fferm.
Dywedodd Dirprwy Lywydd NFU a Chadeirydd FSP Lloegr, Stuart Roberts: “Fel diwydiant, rydym wastad yn dysgu o'n gilydd ac mae angen i ni ddilyn y feddylfryd honno o ddysgu pan fyddwn yn ystyried iechyd a diogelwch.
“Trwy rannu ein profiadau, ein syniadau a'n henghreifftiau o fesurau diogelwch profedig, gallwn gynnig datrysiadau i'n gilydd i broblem na fydd yn diflannu ar ei phen ei hun.
“Yr wythnos hon, byddaf yn rhannu'r mesurau yr wyf i wedi eu gweithredu er mwyn cadw fy hun a'm staff yn ddiogel, yn enwedig wrth i ni gychwyn ar yr adeg prysuraf o'r flwyddyn – y cynhaeaf – o ddarparu dillad llachar i sicrhau bod yr holl weithwyr yn cymryd egwyliau digonol. Yn ogystal, rydw i wedi darganfod bod ystyried diogelwch o bersbectif busnes yn rhywbeth defnyddiol iawn. Ni yw'r ased mwyaf gwerthfawr i'n busnesau, felly dylid rhoi blaenoriaeth i'n diogelwch ni.
“Mae'n bryd troi'r llanw ar gofnod diogelwch gwael byd amaeth – gyda geiriau, gweithredoedd a newid. Felly gadewch i ni fanteisio ar yr wythnos hon fel cyfle i ysbrydoli a dysgu gan ein gilydd, i ddiogelu ein busnesau ac yn y pen draw, i ddiogelu ein hunain.”
Dywedodd Alun Elidyr, cyflwynydd teledu Cymraeg adnabyddus, ffermwr a llysgennad ar gyfer FSP Cymru: “Trwy gydweithio i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd diogelwch ar y fferm, gallwn estyn allan i'r holl rai sy'n gweithio ar lawr gwlad, a'u hannog i gymryd camau a rhagofalon y maent yn aml yn rhai syml, ac y byddant yn lleihau nifer y marwolaethau trasig a'r anafiadau fydd yn newid bywyd sy'n digwydd yn ein diwydiant flwyddyn ar ôl blwyddyn.
“Gallwn barhau i ymgyrchu i gadw ffermydd Prydain yn fannau diogel i weithio, ac mae'n rhaid i ni wneud hynny. Mae #WythnosDiogelwchFferm yn cynnig cyfle gwych i ni estyn allan i'r holl rai sy'n gweithio yn ein diwydiant ac y mae angen i ni ddylanwadu ar eu hymddygiad.”
Dywedodd Robin Traquair, Is-Lywydd NFU yr Alban, wrth siarad ar ran FSP yr Alban: “Mae marwolaethau ac anafiadau difrifol ar ffermydd yn parhau i ddigwydd yn llawer rhy aml. Mae gan bawb sy'n gweithio yn y diwydiant gyfrifoldeb i fod yn ymwybodol o bwysigrwydd diogelwch ar y fferm fel y gellir atal damweiniau. Mae'r Bartneriaeth Diogelwch Fferm yn rhan hanfodol o ymrwymiad y diwydiant i leihau nifer y marwolaethau a'r anafiadau difrifol, ac mae rhannu arfer da yn rhan hanfodol o hyn.”