Gan Dr Catherine Nakielny, Swyddog Technegol Cig Coch Cyswllt Ffermio


Rydym ni’n ffodus yn y diwydiant defaid bod mamogiaid magu yn effeithlon iawn, ac yn gallu magu eu pwysau eu hunain bob 12 mis. Mae manteisio’n llawn ar yr effeithlonrwydd hwn fodd bynnag yn gofyn am reolaeth diadell heb ei ail. Gyda’r cyfnod hwrdda ar y gorwel, dylai sicrhau bod sgôr cyflwr corff y mamogiaid yn addas cyn eu troi at yr hwrdd fod yn flaenoriaeth dros yr wythnosau nesaf. Mae ymchwil a threialon ar fferm wedi dangos bod mamogiaid yn y cyflwr gorau posib yn ystod y cyfnod hwrdda yn cynhyrchu’r nifer uchaf o ŵyn wrth sganio ac yn lleihau’r gyfran o famogiaid gwag. Dylai’r targed ar gyfer mamogiaid llawr gwlad ac ucheldir fod yn 3 i 3.5, a dylid anelu at darged o 2.5 ar gyfer mamogiaid mynydd. Bydd dosbarthu mamogiaid yn ôl sgôr cyflwr corff o leiaf 8 wythnos cyn paru yn caniatáu amser ar gyfer adfer unrhyw famogiaid unigol sydd o dan neu dros darged y ddiadell. Ar y pwynt yma, mae’n bwysig gafael ym mhob mamog unigol, gan fod edrychiad yn gallu bod yn dwyllodrus, hyd yn oed gyda thyfiant gwlân cymharol isel.

Mae iechyd y ddiadell yr un mor bwysig â maeth y ddiadell felly mae mis Awst yn amser da i ystyried rheoli unrhyw faterion iechyd: gall llyngyr yr iau, cloffni, diffyg elfennau hybrin a heintiau sy’n achosi erthyliad leihau cyfraddau cenhedlu a chanlyniadau sganio. Bydd nifer o’r materion hyn wedi cael eu trafod fel rhan o gynllun iechyd y ddiadell, ond mae bob amser yn werth eu hadolygu o ystyried canlyniadau sganio ac ŵyna’r flwyddyn flaenorol.

Mae’n hawdd anghofio am yr hyrddod ar yr adeg hon o’r flwyddyn ond mae angen eu paratoi nhw hefyd ar gyfer y cyfnod hwrdda. Gyda digon o waith dros gyfnod cymharol fyr, mae sicrhau bod hyrddod mewn cyflwr da, gyda sgôr cyflwr corff targed o 3.5 i 4 yn hanfodol. Dylai unrhyw driniaethau iechyd a brechiadau hefyd fod yn gyfredol, a dylid cynnal archwiliad ffisegol neu ‘MOT’ ar gyfer yr hwrdd. Gellir canfod nifer o’r rhesymau cyffredin am anffrwythlondeb mewn hyrddod gan ddefnyddio’r broses MOT, a bydd angen archwilio’r organau atgenhedlu yn ogystal â’r pen a’r traed i sicrhau eu bod yn gallu cymeryd porthiant digonol a bod ganddynt ddigon o symudedd i gyflawni’r gwaith. Dylai archwiliad o’r organau cenhedlu ganolbwyntio ar unrhyw lympiau yn y mannau anghywir. Mae maint y ceilliau wedi cael eu dangos i effeithio ar ffrwythlondeb yr hwrdd yn ogystal â ffrwythlondeb eu hŵyn benyw. Mae hyrddod gyda cheilliau mwy o faint yn cynhyrchu mwy o semen ac maent yn cynhyrchu ŵyn mwy ffrwythlon. Dylai cylchedd ceilliau hwrdd aeddfed fod o leiaf 36cm, ac mae’r targed ar gyfer ŵyn gwryw yn 34cm. Mae cynhyrchiant semen yn cymryd oddeutu 7 wythnos felly bydd unrhyw heintiau presennol yn effeithiol ar eu ffrwythlondeb ymhen deufis, ac yn ddelfrydol, dylid archwilio hyrddod oddeutu 10 wythnos cyn y dyddiad y bwriedir dechrau’r cyfnod hwrdda. Mae’r broses o gynnal MOT yn gymharol syml, fodd bynnag, os ydych yn ansicr, mae’n werth buddsoddi mewn cymorth milfeddygol i ddechrau ar y broses flynyddol hon, ac er nad yw’n gwarantu ffrwythlondeb yr hwrdd, gellir canfod nifer o’r achosion cyffredin gan ddefnyddio’r dull hwn.

Gyda mamogiaid a hyrddod mewn cyflwr da wrth gychwyn ar y cyfnod hyrdda, ac wrth fynd i’r afael ag unrhyw faterion iechyd, bydd y rhagolygon yn dda ar gyfer cyfnod ŵyna llwyddiannus yn 2017.

Ceir mwy o fanylion ynglŷn â rheolaeth hyrddod a sut i baratoi ar gyfer y cyfnod hwrdda ar y ddolen ganlynol.

http://hccmpw.org.uk/publications/farming_and_industry_development/sheep_management/

 

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn PDF o'r erthygl yma


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o