Mae ffermwyr a choedwigwyr o bob sector yn cael eu hannog i wybod am yr arloesedd a thechnegau diweddaraf sy’n digwydd trwy fynd i amrywiaeth eang o ddigwyddiadau trosglwyddo gwybodaeth a fydd yn cael eu darparu drwy rwydwaith arddangos newydd Cyswllt Ffermio pan fyddan nhw ar y gweill y gwanwyn yma.

Mae 12 o safleoedd traws sector ar hyd a lled Cymru yn barod i rannu arfer gorau ac arddangos arloesedd gydag eraill a allai weithredu’r syniadau newydd yma yn eu busnesau eu hunain er mwyn cynyddu effeithlonrwydd a phroffidioldeb. 

Yn ôl Eirwen Williams, pennaeth rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio, bydd y rhwydwaith arddangos newydd yn cynnwys wyth safle arloesi yn sefydliadau amaeth-addysg Cymru, a fydd yn treialu ac arddangos amrywiaeth eang o brosiectau i gynnig rhagor o wybodaeth a chymorth i ddatblygiad busnes ac uchelgeisiau’r diwydiant.

Bydd prosiectau a threialon a gynhelir ar y ffermydd yn seiliedig ar ganfyddiadau ymchwil o Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth Cyswllt Ffermio, menter newydd rhwng Cyswllt Ffermio ac IBERS, Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig byd-enwog Prifysgol Aberystwyth. Nod y Ganolfan yw darparu cyswllt lefel uchel rhwng yr ymchwil sydd ar gael a’r rhai sy’n cynnig cyngor neu’n gweithio mewn diwydiannau ar y tir yng Nghymru.

“Bydd ein rhaglen newydd o ddigwyddiadau, prosiectau a threialon yn sicrhau bod pob busnes amaethyddol yn gallu gweld drostynt eu hunain y technolegau a’r dulliau newydd o reoli busnesau. Bydd y ffocws ar ddod o hyd i ffyrdd newydd a gwell o weithio a fydd yn arwain at gynyddu effeithlonrwydd a phroffidioldeb, ” meddai Mrs. Williams.
 

Mae gwybodaeth gefndirol am bob un o safle nawr ar gael ar dudalen Safleoedd Arddangos ein gwefan:

  • Fferm Great Tre-Rhew, Llanvetherine, Y Fenni NP7 8RA – fferm bîff, defaid a garddwriaeth
  • Newton Farm, Scethrog, Aberhonddu LD3 7YG – fferm bîff a defaid
  • Aberbranddu, Cwrt y Cadno, Pumsaint, Llanwrda SA19 8YE – fferm bîff a defaid
  • Moor Farm, Walwyns Castle, Hwlffordd SA62 3EE – fferm laeth
  • Tyreglwys Farm, Gypsy Lane, Llangennech, Llanelli SA14 8YD – fferm laeth
  • Rhiwgriafol, Talywern, Machynlleth SY20 8NY – fferm ddefaid
  • Tynyberth, Abbey-Cwm-Hir, Llandrindod LD1 6PU – fferm ddefaid organig
  • Llysun, Llanerfyl, Y Trallwng SY21 0EL – fferm bîff a defaid
  • Plas, Llandegfan, Ynys Môn LL59 5SB – fferm bîff a defaid
  • Cae Haidd Ucha, Nebo, Llanrwst LL26 0TF – fferm bîff a defaid
  • Marian Mawr, Dyserth, Rhyl LL18 6HT – fferm laeth
  • Orsedd Fawr, Pencaenewydd, Pwllheli LL53 6RD – fferm bîff a defaid organig

Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o