Mae SCOPS wedi ymuno ag ymchwilwyr o Brifysgol Bryste* unwaith eto i ddarparu rhagolygon o berygl Nematodirus ar gyfer 2017. 

nematodirusoren

Mae ar gael ar wefan SCOPS a bydd yn rhagweld pryd y bydd wyau Nematodirus yn deor mewn ardal, ac felly pryd y bydd perygl o achosion o glefydau. Eleni bydd yn cynnwys gwelliannau i’r model, gan gynnwys diweddariadau dyddiol yn defnyddio data gorsaf dywydd, gan olygu cyngor amserol a lleol ynglŷn â thriniaethau a gweithgareddau rheolaeth drwy gydol y gwanwyn a dechrau’r haf. ‘Mae rhagweld pryd y gall achosion ddigwydd yn dod yn fwy anodd oherwydd amrywiaeth yn nhymheredd y gwanwyn o flwyddyn i flwyddyn’ meddai Hannah Rose sy’n arwain y prosiect ym Mhrifysgol Bryste. ‘Ni all ffermwyr ddibynnu ar amserlen gyffredinol ar gyfer triniaeth i atal clefydau bellach. Ni allwn chwaith ddibynnu ar Gyfrif Wyau Ysgarthol (FEC) gan fod y difrod yn cael ei achosi gan y larfa anaeddfed, felly mae angen system rybuddio gynnar ddibynadwy ar ffermwyr. Rydym wedi bod yn gwella’r rhagolygon ers y dechreuad yn 2013 ac mewn arolwg o ddefnyddwyr gwefan SCOPS y llynedd, dywedodd 60% ohonynt eu bod wedi newid eu dull o reoli Nematodirus o ganlyniad i’r gwasanaeth ac mae dros 90% wedi gwneud rhai newidiadau,’ ychwanegodd Hannah.


* Cyllid Llywodraeth y DU gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnoleg a Biolegol (BBSRC)

Sut mae’n Gweithio?

Mae’r rhagolygon yn manteisio ar ddeoriad y larfa Nematodirus sy’n deor ar yr un pryd yn ddibynnol ar dymheredd. Gan ddefnyddio data tywydd presennol o 140 gorsaf dywydd a ddarperir gan y Swyddfa Dywydd a Dark Sky mae’n gallu rhagweld y dyddiad deor ac am ba hyd fydd y larfa yn parhau i fod yn heintus ar y borfa. Caiff hyn wedyn ei osod dros fap Google rhyngweithiol, gal alluogi ffermwyr i ddewis yr orsaf dywydd agosaf neu’r un sy’n eu cynrychioli orau. Wrth glicio ar eich gorsaf dywydd agosaf, cewch gyngor ynglŷn â sut mae’r perygl arfaethedig yn berthnasol i’ch diadell, a bydd opsiynau rheoli a thrin hefyd ar gael. 

‘Gall Personau sydd wedi’u Cymhwyso’n Briodol (Suitably Qualified Persons SQP) chwarae rhan bwysig iawn yn hyn’, meddai Hannah. ‘Trwy fod yn ymwybodol o’r lefelau risg cyffredinol yn eich ardal a thrwy annog cwsmeriaid unigol i ddefnyddio’r map rhagolygon, gall SQP helpu ffermwyr i ddeall y goblygiadau i’w diadell yn seiliedig ar eu lleoliad a’i hanes o reolaeth’. 

Rhoddir yr uchder uwch lefel y môr ar gyfer pob gorsaf dywydd fel y gellir addasu lefel y risg ar gyfer ffermydd unigol gan ddefnyddio’r rheol gyffredinol y bydd wyau’n deor oddeutu wythnos yn ddiweddarach am bob 100m uwch lefel y môr. Gellir hefyd defnyddio rheolaeth porfa’r gorffennol ac unrhyw hanes o heintiadau Nematodirus i asesu risg, ac mae Hannah yn credu mai dyma le gall SQP ychwanegu gwerth gwirioneddol trwy gynnal perthynas hir dymor gyda chleientiaid. ‘Er nad yw cyfrifiad wyau ysgarthol (FEC) yn ddefnyddiol er mwyn nodi’r angen i drin Nematodirus, maent yn hanfodol ar gyfer dangos i ni lle mae’r heintiadau ar eu mwyaf, gan nodi padogau sy’n debygol o fod mewn perygl yn ystod y tymor nesaf ’ meddai Hannah.

Gwelodd Ffermwyr a oedd yn defnyddio’r gwasanaeth yn 2016 wellhad sylweddol mewn iechyd wyn yn ogystal a llai o farwolaethau, llai o achosion o diarrhoea yn ogystal a gwell cyfradd twf dyddiol a chyflwr corf yn eu wyn.

Dywedodd un ffermwr a wnaeth ddefnydd o’r rhagolygon yn 2016: “ Mae’r map rhyngweithiol yn cynnig hyder i ni symud yr wyn er mwyn i ni osgoi peryg o Nematodirus”. A dywedodd ffarmwr arall : “ Mae gennyf fwy o hyder fy mod yn trîn yr wyn pan mae nhw’n gwnynebu risg uchel bellach”.

Rhowch adborth i ni os gwelwch yn dda!

Mae tîm Bryste hefyd yn gofyn i ffermwyr, SQPs, Milfeddygon, cynghorwyr a labordai dadansoddol i gyflwyno adroddiadau ynglŷn ag achosion o nematodirus neu adroddiadau o wyau mewn cyfrifiadau wyau ysgarthol er mwyn gallu mapio’n ddienw law yn llaw â’r rhagolygon. Bydd hyn yn cynorthwyo defnyddwyr i ddehongli’r rhagolygon risg ac yn cynorthwyo gyda datblygiad yn y dyfodol trwy ddarparu data ychwanegol er mwyn profi’r hyn sy’n cael ei ragweld. Cyflwynwch adroddiadau’n cynnwys hanner cyntaf cod post y daliad sydd wedi’i effeithio ynghyd â manylion (e.e. cyfrif wyau ysgarthol mewn grŵp o wŷn 10 wythnos oed, 500 epg Nematodirus) i hannah.rose@bristol.ac.uk

Ffeithiau ynglŷn â Nematodirus

Mae Nematodirosis yn cael ei achosi gan y llyngyren Nematodirus battus. Gall fod yn angheuol ac mae’n effeithio ar wŷn ifanc, fel arfer rhwng 6-12 wythnos oed.

Bydd wyau’n cael eu gadael ar borfeydd gan wŷn o’r flwyddyn ddiwethaf, ac yn deor gyda’i gilydd yn y gwanwyn, wedi’u sbarduno gan gyfnod o oeri dros y gaeaf gyda chyfnod rhwng 11.5°C a 17°C i ddilyn hynny.

Mae’r risg ar ei uchaf pan fyddwn yn cael cyfnod oer, gyda chynnydd mewn tymheredd i ddilyn.

Mae wŷn ifanc yn llyncu niferoedd uchel o’r larfa wrth bori, sy’n niweidio eu perfedd gan arwain at ddolur rhydd du (ysgoth du) a marwolaeth.

Dylai ffermwyr osgoi rhoi wŷn ifanc ar badogau a all fod wedi’u heintio gan wyau Nematodirus yn ystod y tymor pori blaenorol, yn enwedig os cafodd y padogau eu pori gan famogiaid gydag wŷn ifanc

Dylid trin wŷn ifanc er mwyn atal Nematodirus trwy gydol y cyfnod pan fo rhagolygon risg uchel. Gall fod angen mwy nag un driniaeth bob tair wythnos gan ddibynnu ar yr amrediad oedran o fewn y grŵp ac os yw’r rhagolygon risg uchel yn parhau am gyfnod hirach.

Anthelmintigau yn y dosbarth 1-BZ (gwyn) yw’r triniaethau o ddewis ar gyfer Nematodirus battus. Er bod ymwrthiant eang i driniaeth llyngyr gwyn ymysg rhywogaethau llyngyr eraill, mae Nematodirus battus yn dal i fod yn agored ar y rhan fwyaf o ffermydd a gellir ei ddefnyddio hyd yn oed ar ffermydd sydd â phroblemau ymwrthiant gyda llyngyr eraill. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ni fod yn wyliadwrus ac adrodd ar achosion posib o Nematodirus battus sy’n ymwrthod â BZ: mae’r achosion cyntaf o’r fath wedi cael eu hadrodd yn ddiweddar yn y DU.

Gallwch ddilyn triniaethau gyda phrawf drensh (prawf lleihad cyfrif wyau ysgarthol) er mwyn profi am wyau Nematodirus sy’n dangos nad yw’r driniaeth yn gweithio os oes wyau’n bresennol. 

Am fwy o fanylion, ewch i www.scops.org.uk


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites