Byddai mabwysiadu arfer da o ran hwsmonaeth yn golygu na fyddai angen defnyddio gwrthfiotigau, a lle y bo angen, bydd darganfod arwyddion afiechyd yn gynnar yn helpu cynhyrchwyr moch Cymru i symud i ffwrdd o’r arfer o ddefnyddio gwrthfiotigau ‘rhag ofn’, meddai milfeddyg sydd â diddordeb arbennig mewn 

moch.

Trwy gadw llygad ar yr arwyddion yn gynnar, mae'n bosibl gweithredu’n syth, meddai Bob Stevenson, wrth gynhyrchwyr a oedd yn bresennol mewn cyfres o seminarau Cyswllt Ffermio yn Ffair Wanwyn Sioe Frenhinol 2017.

jodie roberts ken stebbings bob stevenson and pat stebbings 2

“Mae craffu cynyddol ar y defnydd o wrthfiotigau, ond, trwy ddysgu sylwi ar arwyddion afiechydon, mae'n bosibl ymyrryd yn gynnar gan gymryd mesurau a rhoi’r triniaethau mwyaf priodol.

“Er enghraifft, mae pesychu a thisian fwy nag arfer yn ddangosyddion cryf fod mochyn yn sâl neu fod ei amgylchedd yn wael.’’

Roedd Mr Stevenson yn annog y cynhyrchwyr i edrych ar ôl eu stoc yn dda. “Edrychwch yn ofalus ar eich moch, darllenwch yr arwyddion i asesu a gweld a yw’r moch yn iach ac yn hapus.’’

Roedd yn argymell cynnal profion afiechyd resbiradol trwy fesurau’n cynnwys cael sampl gwaed neu’r dechneg a ddatblygwyd yn ddiweddar lle gall moch gnoi rhaff er mwyn cael poer i’w ddadansoddi.

Mae sgrinio afiechydon yn gallu bod yn gost effeithiol ac mae'n aml yn llawer rhatach nag y mae cynhyrchwyr yn ei ragweld. Mae'n rhoi cyfle i wneud newidiadau cyn i broblemau godi ac effeithio ar gynhyrchiant.

Gyda chraffu cynyddol ar y defnydd a wneir o wrthfiotigau, mae meddyginiaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn fwyfwy pwysig.

“Pan fo mochyn yn sâl mae angen gwybod beth sy’n achosi hynny. Nid yw’n dderbyniol bellach defnyddio gwrthfiotigau gan obeithio y bydd yn gweithio,” mynnodd Mr Stevenson.

Roedd o blaid gwneud “cymaint ag sydd ei angen a chyn lleied â phosibl”. “Mae'n bwysig peidio ag  amharu ar les moch drwy beidio â rhoi gwrthfiotigau pan fo angen“.

“Yng nghynllun iechyd y moch sydd ar y fferm bydd rhestr o’r gwrthfiotigau cywir i’w rhagnodi ar gyfer yr anifail cywir ar yr adeg gywir a’r ffordd gywir o’i roi.’’

Nid yn unig y mae gan filfeddygon ran bwysig i’w chwarae o ran rhagnodi meddyginiaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ond rhaid i berchnogion moch a’u staff gael hyfforddiant priodol ar brotocolau iechyd.

“Hyfforddwch weithwyr drwy gyrsiau sydd wedi’u hariannu’n rhannol, yn cynnwys y rhai sy’n cael eu cynnig gan raglen Cyswllt Ffermio,’’ argymhellodd Mr Stevenson.

Y safon aur o ran sicrhau iechyd moch yw atal afiechydon rhag cael eu cyflwyno i’r uned.

Roedd Mr Stevenson yn argymell gosod rhwystr – arwydd i’w cadw ar wahân – i atal cerbydau a phobl heb y dillad bioddiogelwch cywir rhag mynd at y moch.

“Dylid mynnu bod gyrwyr lorïau’n gwisgo esgidiau pwrpasol os oes angen iddynt helpu.

“Dylech bob amser ddiheintio a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei ddefnyddio’n gywir a chael offer pwrpasol i symud ffynonellau afiechyd posibl oddi ar wadnau esgidiau.’’

Mae llunio rhestr o gerbydau ‘risg’ o fudd ac mae wastad yn werth gwneud cais i’r lori alw acw gyntaf ar ei rownd yn cludo porthiant.

Mae afiechydon yn cael effaith ar berfformiad moch, felly, bydd gofyn am adroddiad gan y lladd-dy’n rhoi darlun cliriach i gynhyrchwyr o statws iechyd eu moch.

Rhybuddiodd y cynhyrchwyr moch i beidio â chymryd yr agwedd na fydd eu moch yn cael afiechyd. “Mae meddwl na fydd yn digwydd i mi yn gamgymeriad. Pan fyddwch yn llacio eich mesurau, dyna pryd mae problemau’n digwydd.’’

Hwyluswyd gweithdai Cyswllt Ffermio gan Jodie Roberts, Swyddog Technegol Moch a Dofednod Cymru. Dywedodd fod rheoli afiechydon yn brif ffactor o ran cynhyrchiant moch, a’i fod o fudd felly i gynhyrchwyr sicrhau fod ganddynt fesurau bioddiogelwch rhagorol.

“Bydd talu sylw i’r mesurau syml sydd wedi eu hamlinellu yn y gweithdai Cyswllt Ffermio’n atal afiechydon rhag cael eu cyflwyno i unedau, “meddai.

Am wybodaeth bellach am hyfforddiant a gwasanaethau neu ddigwyddiadau eraill gan Cyswllt Ffermio, cysylltwch â’ch swyddog datblygu lleol.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o