05 Tachwedd 2024

Er gwaethaf prisiau ŵyn cryf, mae costau cynhyrchu cynyddol yn bygwth elw ffermydd. Mae Cyswllt Ffermio yn camu i’r adwy i helpu ffermwyr defaid Cymru gyda chyfres o ddigwyddiadau rhyngweithiol ym mis Tachwedd a fydd yn canolbwyntio ar Sgorio Cyflwr Corff (BCS) Mamogiaid a’i effaith ar berfformiad y ddiadell yn yr hirdymor.

"Gall pwysau ariannol diweddar a rheoliadau amgylcheddol erydu maint yr elw yn gyflym,” meddai Menna Williams o Cyswllt Ffermio. "Mae sgorio cyflwr y corff yn arf syml, cost-effeithiol y gall ffermwyr ei ddefnyddio i wella iechyd a chynhyrchiant mamogiaid, gan arwain at ddiadell fwy cynaliadwy a phroffidiol."

Bydd Nerys Wright, ymgynghorydd defaid gyda bron 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant amaeth, yn ymuno â Cyswllt Ffermio. Mae Nerys yn pwysleisio pwysigrwydd BCS.

"Mae deall BCS yn galluogi ffermwyr i wella iechyd a pherfformiad mamogiaid, gan arwain at well pwysau ŵyn wrth ddiddyfnu a hirhoedledd mamogiaid."

Bydd y digwyddiadau’n archwilio canfyddiadau astudiaeth PhD bedair blynedd Nerys a ariannwyd gan AHDB; ymchwiliodd yr astudiaeth i’r berthynas rhwng BCS mamogiaid a gwahanol fetrigau perfformiad, gan gynnwys pwysau ŵyn wrth ddiddyfnu a chynhyrchiant mamogiaid.

Bydd Pwyntiau Trafod Allweddol yn cynnwys effaith BCS ar Berfformiad Diadelloedd, meistroli Graddfa 5 Pwynt BCS, a Thargedau BCS Drwy gydol y Flwyddyn: BCS mamogiaid o hwrdda i sganio ac ŵyna i ddiddyfnu.

Bydd ffermwyr hefyd yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn sesiynau rhyngweithiol a fydd yn cynnig cyfle dysgu ymarferol iddynt; yn y sesiynau hyn, byddant yn cael asesu sgôr cyflwr y mamogiaid eu hunain a gofyn cwestiynau.

"Trwy gymryd rhan mewn sesiwn ryngweithiol ac adnewyddu eich dull sgorio BCS, byddwch yn ennill sgiliau ymarferol i’w cymhwyso’n uniongyrchol ar eich fferm chi, " meddai Nerys.

Cynhelir y digwyddiadau ledled Cymru ym mis Tachwedd 2024:•    

  • Dydd Mawrth, 19 Tachwedd (19:30-21:00): Mart Ffermwyr Rhuthun, Parc Glastir, Rhuthun, LL15 1PB

  • Dydd Mercher, 20 Tachwedd (11:30-13:00): Fferm Blaencennen, Gwynfe, Llangadog, SA19 9RT (Cyfle asesu BCS ymarferol ar y fferm)

  • Dydd Mercher, 20 Tachwedd (19:30-21:00): Clwb Golff Maesteg Golf, Mt Pleasant, Heol Castell-nedd, Maesteg CF34 9PR
     

I gael rhagor o wybodaeth neu i neilltuo eich lle, cysylltwch â Menna Williams ar menna.williams@mentera.cymru
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Treial i gynyddu gweithgarwch microbaidd yn y pridd ar fferm yng Nghymru yn dangos canlyniadau cadarnhaol
10 Mehefin 2025 Mae cynnwys echdyniad compost yn y rhaglen
Geneteg ar ochr y Fam: Datgloi'r Incwm Ychwanegol yn High Country Romneys
Mae Rhaglen Geneteg Defaid Cymru Cyswllt Ffermio yn cynnig
Datgloi Potensial y Ddiadell: Mae Cyswllt Ffermio yn ychwanegu gweithdy defaid newydd at y rhaglen hyfforddi
04 Mehefin 2025 Mae Cyswllt Ffermio bellach yn cynnig gweithdy