Offer Monitro Bîff Richie              

Mae’r Uned Fonitro Bîff yn offer trin gwartheg sy’n cynnwys cafn dŵr, clorian a darllenydd EID.

Enillodd yr uned Dlws Dr Alban Davies Sioe Frenhinol Cymru 2017 sy’n adnabod y teclyn, peiriant neu ddyfais sy’n fwyaf tebygol o fod o fudd i ffermwyr Cymru.

richie
Mae wedi’i dargedu tuag at unedau pesgi bîff dan do fel teclyn i fonitro cynnydd pwysau byw dyddiol (DLWG) anifail unigol ac at ddefnydd grŵp (hyd at 50 o wartheg fesul uned). Pan fo’r rhyngrwyd ar gael, gellir paru’r darllenydd EID a’r glorian er mwyn hysbysu’r ffermwr ar dabled neu ffôn gan ddefnyddio’r gronfa data ar y cwmwl. Mae sawl mantais i hyn gan gynnwys defnyddio llai o lafur, llai o amser a straen wrth drin anifeiliaid, cofnodi DLWG ar amser a chynyddu gallu’r fferm i feincnodi.

Mae Richie yn chwilio am gyfle i ddatblygu’r cynnyrch hwn ymhellach i gynnwys camera 3-D  er mwyn canfod cyfansoddiad carcas ar y fferm, gan alluogi ffermwyr i gael mwy o reolaeth dros fonitro eu hanifeiliaid bîff. Gellir hefyd rhannu’r wybodaeth hon gyda lladd-dai er mwyn gwella’r broses o drosglwyddo data a chyfansoddiad, yn ogystal â rhanddeiliaid eraill megis maethegwyr, cynghorwyr, a milfeddygon.

Bydd gwartheg yn addasu eu hymddygiad i fod yn gyfforddus yn y gawell gaeedig i gael mynediad at ddŵr. Rwy’n credu bod modd datblygu’r cynnyrch hwn i gynnwys drws cefn i ddal anifail bîff, o bosibl trwy system awtomatig drwy’r darllenydd EID. Gellir cynnwys drws ochr i gynnig mynediad rhwydd i’r ffermwr, h.y. trin achos unigol o gloffni.

Mae’r gallu i fonitro faint o ddŵr sy’n cael ei yfed yn rhoi cyfle i ffermwyr ddarparu mwynau ac elfennau hybrin a allai fod yn anghyson i anifeiliaid unigol mewn grŵp sy’n cael eu bwydo ar ddiet sy’n gallu gwella iechyd yr anifail yn gyffredinol.

Roeddwn hefyd yn gallu gweld mantais ar gyfer cynhyrchwyr bîff ar raddfa fawr, ond mae mynediad i’r we yn rhwystr i nifer o ffermwyr, mae technoleg yn datblygu’n sydyn, a gallaf weld y bydd hyn ar gael yn y dyfodol. Fodd bynnag, gellir datblygu system i ffermwyr allu lawr lwytho’r data heb y gronfa ddata yn y cwmwl.

Mae astudiaethau wedi dangos mai pori cymysg yw’r system orau i gynnal a gwella storfeydd carbon ar ucheldir gan fod gwartheg yn pori heb ddethol. Mae gwneuthurwyr polisi amgylcheddol yn mynd i fod yn canolbwyntio mwy ar storio carbon, sydd wedi gwneud i mi feddwl y gellir cynyddu niferoedd gwartheg bridio yn yr ucheldir i ddarparu ‘cnewyllyn’ ar gyfer epil anifeiliaid bîff i’w pesgi oddi ar yr ucheldir, yn enwedig pan nad yw buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy yn opsiwn. Gallai hynny leihau niferoedd mamogiaid bridio gan fod disgwyl i’r diwydiant cig oen gael marchnad fwy cyfnewidiol na bîff. Roeddwn i’n gweld Uned Monitro Bîff Richie yn gyfle i fusnesau ffermio’r ucheldir leihau llafur teuluol a allai gael ei fuddsoddi mewn mentrau neu brosiectau arallgyfeirio eraill.

Unwaith eto, mae’n bosibl y byddai modd datblygu’r cynnyrch ymhellach i’w gludo’n rhwyddach gan ddibynnu ar y system bori a ddefnyddir a gellir ei gysylltu’n rhwyddach â chyflenwad dŵr.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites