rhidian glyn charlie morgan

Gyda mwyafrif yr arwerthiannau mamogiaid bellach wedi cymryd lle, bydd ffermwyr erbyn hyn yn canolbwyntio ar fwydo eu diadell dros y gaeaf.

Mae lleihau pwysau costau dwysfwyd yn ogystal â thaclo cloffni yn strategaethau allweddol sy’n cael eu mabwysiadu ar Fferm Arddangos Cyswllt Ffermio er mwyn gwella rheolaeth dros y gaeaf.

Mewn ymdrech i leihau ei fil dwysfwyd ar gyfer y gaeaf a lleihau’r pwysau ar bori yn y gwanwyn, bydd Rhidian Glyn, o fferm Rhiwgriafol, Talywern, Machynlleth yn gaeafu 250 o famogiaid ar swêj ar ei fferm fynydd 530 erw.

“Y syniad yw na fydd da byw ar y mwyafrif o’r caeau dros y rhan fwyaf o’r gaeaf, felly fe fydda i’n gallu ŵyna ar laswellt o ansawdd uchel yn y gwanwyn,” meddai Rhidian yn ystod digwyddiad agored Cyswllt Ffermio.

Mae swêj yn gnwd traddodiadol ar gyfer y gaeaf gydag egni oddeutu 12ME a 10% protein. Mae’r arbenigwr glaswellt, Charlie Morgan, sy’n gweithio gyda Rhidian ar y prosiect, wedi cyfrifo y bydd y swêj yn cynhyrchu oddeutu wyth tunnell o ddeunydd sych (DM) i bob hectar ac yn darparu dros dri mis o bori.

“Bydd y cnwd hwn yn bwydo’r mamogiaid am oddeutu 5 ceiniog y dydd, ond pan fyddant yn y sied byddant yn costio oddeutu 15c y dydd. Mae arbediad o 10c am bob mamog am 90 diwrnod yn mynd i dyfu’n sydyn,” meddai Mr Morgan. “Rydym yn ceisio lleihau costau trwy fyrhau’r gaeaf cymaint â phosib. Gall tyfu cnydau fel hyn gynyddu capasiti dros y gaeaf, mae’n rhatach ac rydych hefyd yn gwella’r tir.””

Bydd y swêj yn cael eu pori mewn stribedi gan ddefnyddio ffens drydan i sicrhau’r defnydd gorau a bod math mwy meddal yn cael ei ddefnyddio er mwyn diogelu dannedd y mamogiaid. Gan fod swêj yn gallu bod yn isel mewn elfennau hybrin, bydd mwynau hefyd yn cael eu darparu a bydd ardal wrth gefn mewn cae cyfagos ar gyfer y defaid er mwyn eu hatal rhag mynd yn rhy wlyb ac yn rhy fudur ac yn cynnig porfa ychwanegol.

Tasg bwysig arall sy’n dechrau ar fferm Rhiwgriafol yr hydref hwn yw mynd i’r afael â chloffni yn y ddiadell. Mae Rhidian yn gweithio ar brosiect gyda’i filfeddyg lleol, Rhian Davies ynghyd â swyddog technegol Cyswllt Ffermio, Catherine Nakielny i weithredu’r cynllun cloffni 5 pwynt. Mae’r cynllun pum pwynt, a ddatblygwyd rhwng ymchwilwyr a ffermwyr, yn gallu lleihau cloffni i lai na 5% yn ystod y flwyddyn gyntaf. Y pum cam tuag at reoli cloffni yw:

 

  1. Triniaeth: Mae triniaeth gynnar yn helpu i atal cylchred yr haint.
  2. Osgoi: Lleihau cyfle i’r clefyd ymledu rhwng defaid dros y tir.
  3. Brechu: Mae brechu’n cynyddu imiwnedd unigol.
  4. Difa: Mae polisi difa llym yn bwysig yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun er mwyn gwaredu ffynonellau’r clefyd o’r ddiadell.
  5. Cwarantîn: Atal dod â phroblemau i mewn gyda defaid newydd er mwyn diogelu mamogiaid presennol a’r rhai newydd.

 

Dywedodd y milfeddyg, Rhian Davies: “Mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â chloffni oherwydd y colledion cynhyrchu a’r costau sy’n ymwneud â rheolaeth a lles.”

Rhoddodd Rhian gyngor y dylid cyfrifo canran y ddiadell sy’n gloff yn ogystal ag andabod y rheswm pam. Dermatitis Digidol Defeidiog Heintus (CODD) yw’r brif broblem ar fferm Rhiwgriafol, lle bu oddeutu 15% o’r ddiadell yn gloff ar un cyfnod yn ystod yr hydref. Y ddau brif reswm arall dros gloffni yn y ddiadell yw clwy’r traed a sgald, gyda’r cyfnodau mwyaf peryglus o safbwynt cloffni’n digwydd  ddiwedd yr haf cyn y cyfnod hyrdda ac wrth gadw dan do.

Wrth ymdrin â mamogiaid cloff, awgrymodd Rhian y dylid golchi’r traed, brechu’r anifeiliaid sydd wedi’u heintio waethaf a’u cadw ar wahân i’r brif ddiadell. Dylid gadael mamogiaid sydd wedi’u trin am wythnos cyn ailadrodd y driniaeth os ydynt yn dal i fod yn gloff. Yn ystod y drydedd wythnos, mae’n bosib mai dim ond golchi traed fydd angen ar y grŵp, ond os oes rhai’n dal i fod yn gloff, dylid ystyried a yw’r triniaethau cywir yn cael eu defnyddio trwy siarad gyda’ch milfeddyg.

“Os nad ydynt wedi gwella ar ôl tair wythnos, mae’n annhebygol y byddant yn gwella ac yn y dyfodol byddant yn gallu achosi heintiad i weddill y ddiadell, felly yn y tymor hir, gallant gostio mwy i’w cadw nac i’w difa,” meddai Rhian.

Trafodwyd protocolau triniaeth, gan gynnwys osgoi gor-drimio, sy’n gallu arwain at fwy o amser gwella, a gadael anifeiliaid i sefyll ar wyneb caled, sych a glân am 30 munud ar ôl golchi traed. Hefyd, dylid cadw porfeydd a fu’n cynnal defaid wedi’u heintio yn glir am bythefnos cyn ail-gyflwyno anifeiliaid gan ei fod yn gallu storio bacteria.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites