23 Ebrill 2024

Bum mlynedd ar ôl damwain ar feic cwad a dorrodd benglog Beca Glyn, mae gwisgo helmed ddiogelwch wedi'i rhaglennu i'w hisymwybod, ac yr un mor gyfarwydd iddi â gwisgo gwregys diogelwch car.

Ar y diwrnod tyngedfennol hwnnw ym mis Mawrth 2018, pan gafodd ei thaflu oddi ar feic cwad wrth hel defaid, daeth y ffermwr defaid ifanc yn ystadegyn iechyd a diogelwch.

Er ei bod yn parhau i fyw gyda rhai o ganlyniadau'r ddamwain honno, dywed Beca ei bod yn lwcus.

“Collais fy synnwyr o flas ac arogl, rwy'n dioddef o feigryn ac angen cymryd tabledi i roi egni i mi ond rwy'n ddiolchgar iawn na wnes i daro rhan o'r ymennydd sy'n rheoli madruddyn y cefn neu fy nghof.

“Nid yw’r gallu i flasu ac arogli yn ddim o'i gymharu â'r gallu i gerdded neu gofio.''

Digwyddodd y ddamwain pan oedd Beca yn helpu ei thad i hel y defaid ar fferm y teulu yn Ysbyty Ifan.

Gwyrodd yn sydyn yn rhy gyflym, gan droi’r beic cwad a laniodd ar ei phen a chan nad oedd yn gwisgo helmed, fe darodd ei phen ar y ffordd darmac.

Aethpwyd â Beca i’r ysbyty mewn ambiwlans ac ar ôl naw mis o orffwys, ffisiotherapi ac adsefydlu y bu iddi ddychwelyd i ffermio, gan golli tymor wyna cyfan a rhoi pwysau gwaith ychwanegol ar ei rhieni, Glyn ac Eleri.

A hithau bellach yn 30 oed, mae’r ddamwain honno wedi ei gwneud hi’n hynod ofalus o ran diogelwch ar y fferm, a hefyd lles pawb ar y fferm, gan gynnwys ei thad.

“Roedd gyda mi pan gefais y ddamwain ac mewn sioc, does neb eisiau gweld un o'u plant yn anymwybodol ac wedi'i anafu,'' meddai Beca.

“Rydym bellach yn fwy ymwybodol o weithio ar uchder, trin gwartheg, yr holl dasgau hynny ar y fferm. Fydda i ddim yn helpu gyda thasg nawr os nad ydw i'n meddwl ei bod hi'n ddiogel, felly mae'n rhaid i Dad wrando arna i, fel arall, mae'n gwybod na fydd yn cael unrhyw help!''

Mae'n debyg taw mân anafiadau fyddai Beca wedi’u goddef pe bai’n gwisgo helmed, credai.

“Rydym yn dysgu o'n camgymeriadau ac rydw i'n gwybod y byddwn i fwy na thebyg ond wedi brifo fy ngwddf a chael rhywfaint o gleisiau.''

Dychwelodd ei gallu i flasu ac arogli'r haf diwethaf, ond yn anffodus, dros dro oedd hynny. “Mae wedi dod yn ôl unwaith, efallai y daw eto,'' meddylia.

Fel Llysgennad Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, mae Beca eisiau cyflwyno’r neges ddiogelwch ar draws y diwydiant amaeth.

“Doeddwn i ddim yn rhywun a oedd yn ddi-hid ar y fferm nac yn gyrru cyn y ddamwain felly os gall ddigwydd i rywun fel fi, gall ddigwydd i unrhyw un.''
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu