02 Gorfennaf 2025
Mae prisiau ynni cynyddol a sut maent yn effeithio ar gostau cynhyrchu ar ffermydd llaeth Cymru wedi atgyfnerthu pa mor werthfawr yw buddsoddi mewn archwiliad ynni.
Mae archwiliad yn nodi lle gellir gwneud arbedion - mewn rhai systemau, gall hyn olygu arbed sawl mil o bunnoedd y flwyddyn.
Yn ystod cyfres o ddigwyddiadau a gynhaliwyd ar ffermydd yn ddiweddar gan Cyswllt Ffermio a fu’n canolbwyntio ar gostau ynni a’r defnydd ohono ar ffermydd, esboniodd peiriannydd prosiect NFU Energy, Jonathan Sandercock, i ffermwyr sut roedd archwiliadau yn gweithio a ble y gallent wneud enillion.
Mae archwiliad ynni yn dechrau gydag ymweliad â fferm, ac yna ceir adroddiad sy'n cynnig atebion ynglŷn â sut y gall y fferm honno arbed ynni.
Gallai hyn gynnwys moderneiddio systemau dwys eu hynni, neu fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy a defnyddio'r ynni a gynhyrchir ar adegau pan fydd y galw ar ei fwyaf.
Un o'r camgymeriadau mwyaf cyffredin a ganfyddir yn ystod archwiliad yw cymhwyso technoleg yn anghywir – er enghraifft, defnyddio'r math anghywir o wahanydd slyri i gynhyrchu deunydd gorwedd 'gwyrdd' ar gyfer ciwbiclau gwartheg.
"Roedd un ffermwr yr ymwelwyd ag ef yn defnyddio gwasg rholer a oedd yn cynhyrchu deunydd gyda chynnwys deunydd sych o 20%, ond er mwyn cynhyrchu deunydd gorwedd gwyrdd, roedd angen gwasg sgriw a fyddai'n cynyddu hyn i 40%. O ganlyniad, roedd y deunydd gorwedd yr oedd yn ei gynhyrchu yn rhy wlyb, a dyna pam nad oedd y system yn gweithio iddo," esboniodd Jonathan.
"Nid oedd y system yn addas i'w diben, ac roedd yn costio llawer o ynni i redeg, a hynny heb wneud elw go iawn."
Mae archwiliad fel arfer yn costio £1,500 - £2,000, a dim ond mewn systemau sydd â defnydd uchel o ynni y mae'n synhwyrol yn ariannol, ychwanegodd.
"Mae'r defnydd o ynni ar fferm ddefaid yn wahanol iawn i’r defnydd ar fferm laeth - efallai y bydd fferm ddefaid ond yn gwario £2,000 y flwyddyn ar ynni, felly ni fydd archwiliad yn werth da am arian, ond os yw fferm laeth yn talu £40,000 y flwyddyn, ac mae archwiliad yn nodi arbedion o 10%, yna byddai hynny'n lleihau’r gwariant £4,000 y flwyddyn.''
Y tri defnyddiwr mwyaf o ynni ar fferm laeth yw'r systemau gwresogi dŵr ac oeri llaeth a'r pwmp gwagio.
Mewn systemau hŷn, bydd pwmp yn rhedeg ar ei gyflymder uchaf pan nad oes angen y swyddogaeth honno, sy'n golygu bod ynni yn cael ei ddefnyddio'n ddiangen.
Dywedodd Jonathan y gall modiwleiddio cyflymder pwmp gyda rheolydd cyflymder amrywiol leihau'r defnydd o ynni hyd at 50%.
Hefyd, bydd pwmp llaeth cyflymder amrywiol yn creu llif arafach a mwy cyson o laeth cynnes trwy beiriant rhagoeri plât, gan ei amlygu i ddŵr oer am gyfnod hirach, a gwneud y mwyaf o gyfnewid gwres.
Dywedodd Jonathan fod hyn yn fwy effeithiol na phroses stop a chychwyn gyda switsh fflôt, ac roedd yn lleihau’r llwyth ar y system reweiddio.
Mae adfer gwres yn system syml arall y dylai mwy o ffermydd llaeth ei defnyddio, argymhellodd.
Mae hyn yn gweithio trwy ailddefnyddio'r gwres sydd fel arfer yn cael ei wastraffu gan y system reweiddio; yn hytrach na gadael i'r gwres hwnnw ddianc i'r awyr, mae'n ei ailgyfeirio i wresogi dŵr, gan leihau’r ynni sydd ei angen ar gyfer golchi 40-50%.
Mae mwy o ffermydd yn buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy gan ei fod yn cynnig atebion da i leihau costau, gyda phaneli solar ffotofoltäig (PV) yn opsiwn cost-effeithiol ar gyfer ffermydd llaeth.
"Mae'r argyfwng ynni yn y pum mlynedd diwethaf wedi agor llygaid ffermwyr i ba mor agored ydyn nhw i amrywiadau sydyn mewn prisiau, a’r ffaith nad y ffermwyr sydd â rheolaeth dros eu costau pan fyddant yn dibynnu ar brynu'r ynni hwnnw i mewn," meddai Jonathan.
Gall paneli solar fel arfer leihau costau ynni ar fferm laeth 30-50%, a bydd yr arbedion hynny'n darparu cyfnod ad-dalu o bum i saith mlynedd.
Fodd bynnag, gan fod godro yn aml yn cael ei wneud ar adegau o'r dydd pan nad oes llawer o heulwen, dywedodd Jonathan fod angen addasu systemau i wneud y defnydd gorau ohono, trwy wresogyddion dŵr a systemau cynhyrchu iâ, er enghraifft.
Trwy osod y rhain gyda chapasiti ar gyfer dau gyfnod godro, gellir manteisio ar y defnydd o ynni solar ymhellach.
Hefyd, bydd lleihau tymheredd y llaeth cyn iddo fynd i mewn i'r tanc swmp trwy osod peiriant rhagoeri yn golygu bod cywasgwyr rheweiddio yn defnyddio llai o drydan.
Mae bod yn fwy effeithlon o ran ynni hefyd yn cyd-fynd ag effeithlonrwydd amgylcheddol, gan fod cynhyrchu ynni ar y fferm yn lleihau’r ddibyniaeth ar danwydd ffosil, meddai swyddog arbenigol carbon Cyswllt Ffermio, Dr Non Williams.
Gall helpu ffermydd i leihau eu hôl troed carbon trwy ddefnyddio'r ynni a gynhyrchir.
Mae gan opsiynau ynni adnewyddadwy, fel safleoedd treulio anaerobig, fanteision eilaidd hefyd.
"Os yw gweddillion treuliad sy'n llawn maetholion yn cael eu cynhyrchu ynghyd â'r ynni adnewyddadwy, gellir ei ddefnyddio ar dir fferm ac o bosibl leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n gysylltiedig â mewnbynnau a brynwyd oherwydd bod llai o ofynion gwrtaith," meddai Non.
Gall y gweddillion treuliad hefyd gynorthwyo wrth gylchredeg maetholion, helpu i adeiladu deunydd organig pridd, ac o ganlyniad, lefelau carbon organig.
"Gyda llawer o opsiynau o ran ynni adnewyddadwy a thechnoleg, mae yna lawer o 'petai a petasai’, ond os ydyn nhw'n ategu system, gallant gael llawer o fanteision," ychwanegodd Non.
Fodd bynnag, ni ellir defnyddio ynni adnewyddadwy bob amser fel rhan o'r cyfrifiadau ynghylch gostyngiadau allyriadau carbon fferm ei hun.
"Os yw ffermwyr yn allforio, hynny yw, gwerthu'r ynni maen nhw'n ei gynhyrchu o ynni adnewyddadwy, mae'r budd carbon hwn yn cael ei neilltuo i'r sector ynni oherwydd y ffordd y rhoddir cyfrif am garbon yn Rhestr Nwyon Tŷ Gwydr y DU yn genedlaethol," esboniodd Non.