16 Ebrill 2021

 

Lansiwyd adnodd ar-lein newydd yng Nghymru i helpu ffermwyr i leihau allyriadau amonia.

Mae'r Adnodd Aer Glân newydd, sydd ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio, yn rhoi cyngor ymarferol ar y camau y gall ffermwyr eu cymryd i leihau allyriadau.

Mae colli amonia i'r aer yn golygu y collir nitrogen ar gyfer twf planhigion, felly trwy wella ansawdd yr aer gall busnesau ffermio elwa’n sylweddol, meddai Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sy'n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru.

"Mae gwneud newidiadau realistig i arferion ffermio yn gallu bod yn dda i'r amgylchedd ac i fusnesau,'' meddai.  

Mae’r adnodd yn cynnwys:

  • Dulliau o storio a chwalu slyri a thail
  • Awgrymiadau ar wasgaru gwrtaith
  • Newidiadau i ddeiet da byw
  • Ystyriaethau yn ymwneud â siediau

Ansawdd aer gwael yw un o'r risgiau mwyaf i'r amgylchedd ac i iechyd y cyhoedd yng Nghymru.

Datblygwyd yr adnodd mewn ymateb i ymrwymiad yng Nghynllun Aer Glân Cymru Llywodraeth Cymru i roi'r cyngor diweddaraf i ffermwyr ar sut y gallan nhw leihau allyriadau amonia.

Mae rhai ffermwyr eisoes wedi cymryd y cam cyntaf i leihau allyriadau amonia gyda chymorth Cyswllt Ffermio.

Ar Fferm Wern, safle arddangos Cyswllt Ffermio ger y Trallwng, mae ychwanegu bacteria nad yw’n heintus i amgylchedd yr ieir mewn fferm wyau maes yn lleihau lefelau amonia.

Mae straeniau diniwed o facteria a geir o’r pridd yn disodli’r bacteria niweidiol mewn tail er mwyn atal yr asid wrig rhag cael ei droi’n amonia.

Gosodwyd synwyryddion drwy’r sied fel rhan o brosiect Cyswllt Ffermio i fesur amonia a lefelau carbon deuocsid yn ogystal â thymheredd a lleithder; mae'r rhain yn achosi i’r systemau anweddu weithio’n awtomatig gan chwistrellu bacteria nad yw’n heintus ar adegau penodol a phan mae’r data a gesglir yn dangos cynnydd.

Dengys y canlyniadau hyd yma ostyngiad o 50% ar lefelau amonia blaenorol.

Mae cynhyrchwr wyau maes arall, Llyr  Jones, hefyd wedi cael cymorth gan Cyswllt Ffermio yn ei ymgais i leihau'r lefelau amonia sy'n gysylltiedig â chynlluniau ehangu ar ei ddaliad ger Corwen.

Yn ystod astudiaeth a ariannwyd gan Raglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio, dysgodd Mr Jones sut y gall mathau o adar sy’n defnyddio porthiant yn effeithlon leihau'r amonia a gynhyrchir.

Gall mân newidiadau o ran arferion ffermio bob dydd, fel glanhau’r siediau ieir bob dydd yn  hytrach na dwywaith yr wythnos, helpu ffermwyr i leihau llygredd aer hefyd, meddai Mr  Jones.  

Mae ffermwyr yn cael eu hannog i ddefnyddio'r Adnodd Aer Glân i  gymryd camau tuag at ddyfodol gwyrddach.

Mae'r adnodd ar gael yma.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu