25 Tachwedd 2024

Mae aelodau carfan Academi Amaeth Cyswllt Ffermio 2024 wedi cael eu canmol am eu harbenigedd technegol a’u gweledigaeth gyda set o syniadau ar gyfer heriau busnes go iawn a chyflwynwyd gwobr i’r ennillydd yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru heddiw (25 Tachwedd).

Wrth i Academi Amaeth 2024 ddod i ben, roedd cydnabyddiaeth ar faes y sioe yn Llanelwedd i enillydd Her yr Academi Amaeth ac enillydd Gwobr Dewis Aelodau’r Academi Amaeth.

Enillydd gwobr Her Fferm yr Academi Amaeth oedd y rheolwr fferm Emyr Owen, un o’r 12 a oedd yn rhan o Academi Amaeth 2024.

Gosodwyd her i’r grŵp i greu cynllun gweithredu pum mlynedd ar gyfer Moor Farm, fferm laeth ger Treffynnon lle mae Rhys Davies a’i deulu’n cynhyrchu llaeth o fuches Ffrwd gyda 100 o wartheg Holstein Friesian pedigri.

Gweledigaeth Emyr oedd i’r fferm drosglwyddo i fuwch lai gan gynhyrchu llaeth o safon uchel wrth gynyddu nifer y buchod, newid a gredai a fyddai’n defnyddio’r llwyfan pori yn well ac yn lleihau costau porthiant a brynir i mewn.

Un arall o’i argymhellion oedd gosod robotiaid godro ail law yn lle parlwr herringbone 10/20, er mwyn helpu i gyflawni uchelgais Rhys i dreulio mwy o amser gyda’i deulu.

Awgrymodd Emyr, sy'n rheolwr fferm ar Ystâd Rhug yng Nghorwen, hefyd yr opsiwn i addasu ysgubor yn ystafell ddigwyddiadau fechan, i greu ffrwd incwm amgen. Mae Rhys yn dysgu'n rhan-amser a gallai hefyd ddefnyddio’r ysgubor fel canolfan ar gyfer ei ddosbarthiadau ei hun.

Roedd Rhys ar y panel o feirniaid pan gyflwynodd aelodau’r Academi Amaeth eu syniadau yn ystod penwythnos ym Mhlas Pantyderi, ger Boncath, Sir Benfro, yn gynharach y mis hwn.

Hefyd ar y panel roedd y dyn busnes Tom Allison, a oedd ymhlith carfan gyntaf yr Academi Amaeth yn 2012, a Laura Griffiths, Pennaeth y Gangen Cymorth Busnes Amaethyddol, Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Tom, sy’n aelod o fwrdd Mentera, sy’n cyflwyno’r rhaglen Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, bod yr holl gyflwyniadau o safon uchel ac roedd tri yn rhagorol ond roedd cyflwyniad Emyr yn sefyll allan.


“Dangosodd Emyr ddadansoddiad a dealltwriaeth dechnegol dda iawn, roedd wedi nodi cryfderau a gwendidau’r fferm, ac wedi bod yn drylwyr yn ei waith ymchwil, gan hyd yn oed ystyried y grantiau y gallai’r fferm ymgeisio amdanynt,” meddai Tom.

Yn ystod y seremoni yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru, derbyniodd Anna Jones, ffermwr bîff a defaid o Bowys, Wobr Dewis Aelodau’r Academi Amaeth 2024 am ei hymrwymiad cyffredinol i’r rhaglen.

Roedd ei gweledigaeth ar gyfer Moor Farm yn cynnwys cyflwyno ynni solar fel ffrwd incwm amgen.

“Cafodd hwn hefyd ei ymchwilio'n dda iawn ac roedd yn drawiadol iawn,'' meddai Tom.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Bod yn aelod o grŵp trafod yn helpu fferm deuluol i ddefnyddio syniadau newydd
12 Rhagfyr 2024 Mae cynhyrchydd bîff pedigri ar raddfa fach yn
Gwaith samplo Cyswllt Ffermio yn amlygu cyfleoedd i wella iechyd pridd ar ffermydd Cymru
11 Rhagfyr 2024 Mae adroddiad gan Cyswllt Ffermio ar briddoedd
Sut mae anwybyddu clefydau heintus yn gallu arwain at broblemau sylweddol mewn diadelloedd yng Nghymru
29 Tachwedd 2024 Mae ffermwyr defaid yng Nghymru yn cael eu