24 Mehefin 2025
Nid oes rhaid i redeg busnes bach fod yn brosiect unigol fel y darganfu grŵp o dyfwyr o Gymru pan wnaethon nhw ddefnyddio menter Cyswllt Ffermio i edrych ar botensial tyfu aeron ysgaw fel ffynhonnell incwm newydd.
Gyda busnesau’n ymwneud â’r tir yng nghefn gwlad gorllewin Cymru, roedd llawer o'r tyfwyr yn y grŵp Agrisgôp yn adnabod ei gilydd cynt ond roeddent yn cydnabod bod angen dull ffurfiol a strwythuredig arnynt i'w helpu i symud ymlaen ar y cyd â chydweithrediad masnachol posibl.
Agrisgôp, sef rhaglen ddatblygu rheolaeth Cyswllt Ffermio, sydd wedi'i hariannu'n llawn, a ddarparodd y ffynhonnell honno. Mae'r fenter hon yn annog ffermwyr cymwys i ddod at ei gilydd i ddatblygu eu busnesau ac i ennill hyder a sgiliau trwy ddysgu gweithredol.
Dan arweiniad Jacqui Banks, arweinydd Agrisgôp, edrychodd y grŵp ar y potensial o ffurfio menter ar y cyd a oedd yn canolbwyntio ar dyfu aeron ysgaw a ffrwythau eraill.
Fel cwmni cydweithredol tyfwyr, gallent gynhyrchu cynnyrch gwerth uchel o dan frand ar y cyd, neu eu cronni i werthu aeron yn gyfanwerthol er mwyn cael y pris gorau posibl.
Daeth y grŵp i’r casgliad y dylai’r ffocws fod ar dyfu a gwerthu aeron yn hytrach na datblygu cynnyrch. “Er bod hyn yn rhywbeth y gallent edrych arno o hyd yn y dyfodol,” meddai Jacqui.
Darparodd Agrisgôp blatfform ar gyfer cyfarfodydd â siaradwyr arbenigol ac ar gyfer ymweliadau â thyfwyr eraill.
Mae rhai aelodau’r grŵp eisoes wedi plannu aeron ysgaw, gan gynnwys y tyfwyr o Sir Benfro Lauren Simpson a Phil Moore.
Ar dir ar fferm Parc y Dderwen, Llangolman, mae'r pâr yn tyfu hadau ar gyfer catalog Real Seeds ac ar gyfer menter gydweithredol tyfwyr, Hwb Hadau Cymru, a garlleg maen nhw'n ei werthu'n lleol.
Ond prif gynheiliaid eu busnes yw gwerthu bresych picl a kimchi, wedi'u cynhyrchu o'u bresych eu hunain a cyflasynnau fel betys a tsili.
Roedden nhw'n gweld gwerth mewn ychwanegu ysgaw i gynhyrchu aeron, i gynhyrchu ffynhonnell incwm arall.
“I ni, y cymhelliant a’r diddordeb o fod yn rhan o Agrisgôp oedd edrych ar sut y gallem ychwanegu ychydig mwy o amrywiaeth at ein tyddyn bach,” eglura Lauren.
Roedd hyn hefyd yn wir i gynhyrchwyr llus masnachol, Josh ac Abi Heyneke, sy'n ffermio 10 erw o dir ger Hebron.
Maent bellach wedi dechrau lluosogi ysgaw gyda'r bwriad o ychwanegu aeron ysgaw at eu hamrywiaeth o gynnyrch y maent yn ei werthu yn y dyfodol.
Roedd y pâr yn ganolog i ffurfio'r grŵp gan eu bod wedi bod yn ystyried dod â'r amrywiaeth honno i'w busnes ers peth amser.
Dywed Josh fod clywed gan arbenigwyr a chael gwell dealltwriaeth o'r farchnad bresennol ar gyfer aeron ysgaw wedi bod yn werthfawr iawn.
“Rydym yn cyfuno llawer o bethau eraill ar hyn o bryd ond rydym bellach yn llawer mwy gwybodus pan fyddwn yn barod i symud i’r cyfeiriad hwnnw,’’ meddai.
Rhoddodd ymweliadau a alluogwyd gan Agrisgôp fewnwelediad pwysig i sut mae tyfwyr ysgaw masnachol eraill yn gweithredu, gan gynnwys ymweliad â Gwlad yr Haf lle gwelodd y grŵp pam mae tocio yn hanfodol.
Gan mai dim ond yn yr ail a'r drydedd flwyddyn y mae ysgaw yn cynhyrchu blodau, mae cadw coed dan reolaeth yn atal aeron rhag dod yn anodd eu cyrraedd ac yn anymarferol ac yn anhyfyw yn fasnachol i'w cynaeafu.
“Roedd gan y tyfwr y gwnaethon ni ymweld ag ef yng Ngwlad yr Haf goed mewn rhesi ac roedd tocio yn eu cadw i gyd ar lefel y gellid eu rheoli mewn ffordd a oedd yn gwneud mwy o synnwyr,’’ meddai Lauren.
Canfu'r grŵp fod yr ymweliad â’r safle hwn a safleoedd eraill yn ddefnyddiol iawn.
Adeiladwyd ymddiriedaeth yn y grŵp ond byddai symud ymlaen fel cwmni cydweithredol yn gofyn am gyfalaf.
“Arian fu’r baich, i brynu coed ac offer prosesu sylfaenol ac efallai talu am amser rhywun i gydlynu pethau fel gwerthiannau,’’ meddai Lauren.
Ond mae'r gwaith gwerthfawr sydd eisoes wedi'i gwblhau yn golygu bod y grŵp yn "barod i fwrw ati" os bydd y cyfle am gyllid yn codi.
Mae rhai tyfwyr wedi plannu ysgaw ar raddfa fach, fel yr 20 sydd gan Lauren a Phil yn y ddaear.
Mae tyfu a lluosogi ysgaw yn arbrawf defnyddiol ar y ffordd i rywbeth mwy o bosibl, eglura Lauren.
“Rydym ni flynyddoedd i ffwrdd o’r broses gynaeafu ond y prif beth yw cael planhigion yn y ddaear. Os gallwn ni i gyd wneud hynny’n anffurfiol wrth gadw llygad am gyllid, pan fydd yr amser yn iawn efallai y bydd popeth yn dod at ei gilydd.
“Gwnaethom lawer o waith o amgylch y strwythurau a’r prosesau y byddem yn eu defnyddio pe bai gennym aelodau eraill a sut y byddem yn gwneud penderfyniadau, mae’r gwaith hwnnw’n wirioneddol bwysig ar gyfer gweithio mewn ffordd gydweithredol, gan osod y sylfeini hynny o’r cychwyn cyntaf. Mae’n teimlo fel ein bod yn barod i fwrw ati os bydd y cyfle’n codi.’’
Mae buddsoddi amser mewn menter arallgyfeirio a all gymryd blynyddoedd i gynhyrchu elw yn her i fusnesau sy'n brysur gyda'u mentrau presennol.
Ond dywed Jacqui bod aelodau'r grŵp yn realistig ynglŷn â'u nodau a'r amserlen hirdymor ar gyfer cyflawni'r rhain.
“Erbyn i’r grŵp Agrisgôp ddod i ben, roeddent yn glir mai plannu coed oedd y blaenoriaeth a byddai cyflawni unrhyw ddatblygiad o ran y cynnyrch yn eithaf pell.”
Capsiwn Delwedd: Grŵp Agrisgôp Aeron Ysgaw ar eu hymweliad â pherllan ysgaw yng Ngwlad yr Haf.