09 Gorffennaf 2025

Gall technoleg chwyldroi’r ffordd y mae ffermwyr yn gweithio gan wneud pob math o wahanol ffermydd yn fwy effeithlon. Ond yn ôl astudiaeth a gynhaliwyd ar sawl fferm laeth, gall rhai ffermwyr yng Nghymru, o wella’u harferion presennol, wneud yr un arbedion heb orfod buddsoddi mewn technoleg.

Mewn cyfres o ddigwyddiadau a gynhaliwyd gan raglen Cyswllt Ffermio ar ffermydd ledled Cymru yn ddiweddar, tynnwyd hefyd sylw at y ffaith y bydd y gwell perfformiad a gaiff ei addo gan dechnoleg amaethyddol yn wahanol i bob fferm.

O systemau llaeth a bîff i ddefaid a dofednod, mae Cyswllt Ffermio wedi bod yn gweithio gyda ffermydd i dreialu technoleg ac asesu ei gwerth mewn gwahanol systemau.

Mae’r gwaith ymchwil hwn, ynghyd ag astudiaeth gan y corff ymchwil o Iwerddon, Teagasc, wedi dangos sut gall technoleg gynnig atebion gwerthfawr i rai ffermydd, ond gall eraill gynhyrchu’r un canlyniadau heb orfod gwario ar dechnoleg.

Wrth siarad â ffermwyr yn nigwyddiadau Cyswllt Ffermio, dywedodd Conor Hogan, Rheolwr Rhaglen ‘People in Dairy’ gyda Teagasc, fod sefyllfa pob fferm yn wahanol, ond gall gwell effeithlonrwydd yn aml ddod o wneud llawer o fân welliannau, yn hytrach nag un newid mawr.

“Gall y pethau lleiaf wneud gwahaniaeth mawr, fel strwythur y diwrnod neu sut caiff parlwr godro ei staffio, gyda’r rhain i gyd yn arbed amser,” meddai.

“Bydd gan dechnoleg ran fawr i’w chwarae ym myd amaeth yn y dyfodol ac, i lawer o ffermwyr, bydd yn helpu i leihau’r llwyth gwaith a’i hwyluso, ond fe ddylen nhw yn gyntaf ystyried pa fân addasiadau y gallen nhw eu gwneud ar y fferm i’w gwneud yn fwy effeithlon.”

1.    Ailstrwythuro’r diwrnod gwaith

Roedd astudiaeth Teagasc yn cynnwys 90 o ffermydd llaeth ac fe ddangosodd wahaniaethau mawr yng nghymarebau’r nifer yr oriau a weithir am bob buwch – ar un pen i’r raddfa roedd fferm, ar gyfartaledd, yn gweithio 23.8 awr am bob buwch y flwyddyn, ac ar y pen arall roedd un yn gweithio 38.9 awr.

Mae’r bwlch hwnnw’n cyfateb i 2,000 awr y flwyddyn, sydd, wrth ystyried cyfradd fesul awr o £15 i weithiwr, yn werth £34,000.

“Roedd y rhain yn ffermydd tebyg o ran maint, math o dir a strwythur; yr unig wahaniaeth oedd eu mewnbwn o ran amser, ac mae hyn yn dangos bod y mewnbwn hwn yn effeithio’n fawr ar yr elw net,” meddai Conor.

Roedd y ffermwyr oedd yn gweithio’r lleiaf o oriau yn trefnu eu diwrnod gyda dilyniant penodol o dasgau, ond i’r lleill roedd yn y diwrnod yn fwy tameidiog ac anhrefnus, gyda hyn yn arwain at ddiwrnod gwaith hirach.

Yn ôl Conor, mae hyn yn dangos y buddion go iawn y gellid eu hennill o ran mwy o elw i’r fferm a gwell ansawdd bywyd i’r ffermwr a’i staff, pe bai tasgau’n cael eu gwneud mewn ffordd strwythuredig.

2.    Symleiddio’r broses odro

Gall godro fod y dasg sy’n gofyn am y nifer uchaf o oriau’r dydd ar fferm laeth, felly gall cyflwyno newidiadau yma wneud gwahaniaeth mawr.

Dywed Conor y dylai’r gofyniad llafur mewn system lloia bloc o ganol y cyfnod lloia, gyda pharlwr 24–26 uned a chyda’r system gywir, fod yn gyraeddadwy gydag un gweithredwr, gan arwain at gryn arbedion o ran cost.

Gall technoleg tynnu clystyrau’n awtomatig (ACR) hwyluso hyn, yn ogystal â llif da o fuchod yn dod i mewn i’r parlwr fel nad oes angen i’r gweithredwr adael yn ystod godro; gellir cyflawni hyn trwy ddefnyddio gatiau allanfa awtomatig a chyfleuster i’w gweithredu o unrhyw le yn y parlwr.

Dyma lle gall technoleg rad fod o fudd mawr – trwy ddefnyddio ‘batt latch’, er enghraifft, i ganiatáu i wartheg ddod i mewn yn gynt ar eu cyflymder eu hunain i gael eu godro.

3.    Bwydo a magu lloi

Magu lloi yw lle gall technoleg gael effaith gadarnhaol fawr iawn ar lafur – dywed Conor y gall ffermwyr ddisgwyl cynnydd o 20% mewn effeithlonrwydd gyda phorthwyr awtomatig.

“Maen nhw’n gadarnhaol iawn o safbwynt llafur ond mae angen ystyried effaith y system; os oes gan fferm system fagu wirioneddol effeithlon, efallai na fydd yr arbedion, o reidrwydd, yn cael eu gweld.

“Mae angen pwyso a mesur hyn fesul fferm.”

Bydd corlannu lloi mewn grwpiau yn hytrach nag ar wahân yn symleiddio’r system, gyda llai o angen am lanhau â llaw, ychwanegodd Conor.

4.    Isadeiledd pori da

O lwybrau a chyfleusterau dŵr yfed i ffensys parhaol, bydd isadeiledd sy’n gysylltiedig â phori yn symleiddio’r system ac yn lleihau unrhyw ofynion o ran llafur.

“Dylai pob fferm bori ganolbwyntio ar ei hisadeiledd yn gyntaf gan fod hyn yn cynnig budd cyflym,” cynghorodd Conor.

5.    Ystyriwch ble gall technoleg gynnig yr elw gorau ar fuddsoddiad (ROI)

Unwaith y bydd fferm wedi rhoi newidiadau ar waith i sicrhau gwell effeithlonrwydd, dylai wedyn ystyried sut gall technoleg sicrhau’r elw gorau ar gost.

Mae llawer o ddata cadarnhaol ar gael ar wahanol arloesedd, meddai Conor. “Fe allan nhw gynnal neu wneud y tasgau cystal ag unrhyw ffermwr.”

Ond ychwanegodd: “Mae cyfrifiadau’r ROI ar arbedion llafur i lawer ohonyn nhw’n llai cadarnhaol ar hyn o bryd.’’

Mae angen ystyried eu heffaith ar gynhyrchiant yn yr hafaliad cost a budd hefyd. “Fe allan nhw fod yn ffordd addas o gynnal perfformiad, ond yn gyffredinol, dydyn ni ddim yn gweld unrhyw gynnydd mawr mewn cynhyrchiant,” meddai Conor.

“O ran technoleg synhwyro gwres, er enghraifft, mae’r dechnoleg cystal â ffermwr da, ond os yw’r ffermwr yn lloia dros chwe wythnos, neu os oes ganddo gyfraddau cenhedlu da iawn, dyw technoleg, fel coleri neu gamfesuryddion (pedometers), ddim yn mynd i wella ar hynny, mae’n debyg.”

Gall cyfrifo buddion ychwanegol y rhain, ar gyfer iechyd y gwartheg er enghraifft, fod yn anodd, ychwanegodd.

“Ond os ydych chi’n atal achos neu ddau o fastitis, yna fe ddaw elw ar fuddsoddiad gymaint â hynny’n gynt ac yn gadarnhaol.”

“Os yw fferm yn gweld canlyniadau cadarnhaol o ran ffrwythlondeb neu’n dod o hyd i fwy o achosion o gloffni neu fastitis, mae ganddi botensial i wneud elw ar fuddsoddiad yn gyflym iawn, a gall hynny ddigwydd yn gyflymach byth os oes cymorth grant ar gael.”

Pwysleisiodd Conor bwysigrwydd sicrhau bod technoleg yn addas ar gyfer y system ffermio, cynllun a maint y fferm, a’i ffordd o reoli.

“Bydd technoleg yn rhoi mwy o fynediad i chi at ddata, ond a yw hynny’n rhywbeth y byddwch chi’n ei ddefnyddio?” gofynnodd i’r ffermwyr.

Ystyriwch pa mor hawdd i’w defnyddio yw’r dechnoleg ac unrhyw hyfforddiant, ac a yw’r cyflenwr yn cynnig cymorth gyda’r rhain.

Edrychwch ar strwythur y costau, p’un a oes yna gostau cyfalaf neu fodel tanysgrifio.

Ystyriwch y gofynion o ran cynnal a chadw hefyd.

Ystyriwch a allwch integreiddio’r dechnoleg ag offer sydd eisoes ar y fferm. “Mae defnyddio coleri synhwyro gwres ar y cyd â giât ddrafftio yn enghraifft berffaith,” meddai Conor.

Ystyriwch fuddion eraill hefyd, cynghorodd. “Un peth da gyda thechnoleg synhwyro gwres yw’r potensial am gyfnodau hirach ar gyfer ffrwythloni artiffisial, a’r posibilrwydd o dynnu teirw allan o’r system. Meddyliwch am yr effaith y gall hynny ei chael ar eneteg.”

“Gall technoleg synhwyro gwres fod o fudd hefyd os ydych chi’n ystyried defnyddio semen yn ôl ei ryw, neu eisiau ychwanegu mwy o gywirdeb yn y cyfnod ffrwythloni artiffisial.”

Does dim modd anwybyddu manteision amgylcheddol rhai technolegau, chwaith.

Dywed Dr Non Williams, Arbenigwr Carbon Cyswllt Ffermio, fod gan dechnoleg a all helpu ffermydd i ddod yn fwy effeithlon – drwy wella iechyd anifeiliaid a hybu cynhyrchiant – y potensial i leihau’r allyriadau nwyon tŷ gwydr a ryddheir i’r atmosffer am bob litr o laeth neu gilogram o gig a gynhyrchir.

Mae technegau amaethyddiaeth fanwl, fel defnyddio GPS a synwyryddion, yn arwain at y defnydd gorau posibl o adnoddau a gostyngiad mewn gwastraff ar y fferm. Gall hyn arwain at ostyngiadau mewn allyriadau os cynyddir cynhyrchiant o lai o fewnbynnau.

Mae technolegau newydd, fel peiriannau wedi’u pweru gan fiomethan, yn cael eu treialu ar ffermydd hefyd. Ac yn ôl Non, mae modd eu rhedeg ar nwy naturiol y gellir ei gasglu a’i ddal mewn storfeydd slyri a gweithfeydd treulio anaerobig (AD), gan gynnig opsiwn arall yn lle disel sy’n well i’r amgylchedd.

Efallai y bydd gan dechnoleg synhwyro gwres, fel coleri, fanteision eilaidd hefyd, meddai Non.

“Os gall defnyddio coleri arwain at well effeithlonrwydd o ran atgenhedlu, fel adnabod buchod sy’n gofyn tarw yn gywir, ac felly sicrhau gwell ffrwythlondeb ar y fferm, gall hyn arwain at ôl troed carbon llai am bob uned o laeth a gynhyrchir.”

PANEL

Drwy sefydlu system laeth gydag effeithlonrwydd o ran llafur yn rhan ohoni, mae Rhodri Jones yn credu na fydd coleri synhwyro gwres, o bosibl, yn cynnig y buddion yr oedd yn meddwl y bydden nhw’n eu cynnig i ddechrau, oherwydd bod ei system yn syml ac yn isel o ran cost.

Trodd Rhodri a’i wraig Siwan y fferm bîff a defaid a oedd yn eiddo i deulu Siwan, yn fferm laeth, gan odro 197 o wartheg ar 65ha.

Sefydlwyd system lloia yn y gwanwyn a buddsoddwyd mewn isadeiledd pori da, gan gynnwys llwybrau a dŵr.

Ar fferm Penparc yn Llanerfyl, caiff tua 13t o ddeunydd sych o laswellt fesul hectar y flwyddyn ei dyfu ar y platfform pori. Mae’r teulu bellach yn y trydydd tymor o odro, gyda’r fuches groesfrid ar gyfartaledd yn cynhyrchu 5,600 litr am bob buwch y flwyddyn, a hynny o 1.1 tunnell o ddwysfwyd.

Dywedodd Rhodri, a gynhaliodd un o ddigwyddiadau Cyswllt Ffermio, y bu’n ystyried defnyddio coleri i’r buchod i wella effeithlonrwydd ymhellach, ond fe resymodd na fydden nhw’n gwella ar berfformiad da’r fferm ar hyn o bryd o ran ffrwythlondeb. Wedi dweud hynny, mae’n awyddus i ymchwilio i’r buddion, fel y gyfradd uwch o elw ac arbedion o ran llafur y gallai technolegau eraill eu cynnig, fel porthwyr lloi awtomatig, er enghraifft.

“Mae’n bwysig bod yn agored i wahanol dechnolegau a sut gallan nhw ein helpu i symleiddio’r busnes a gwella ein perfformiad,” meddai.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Academi Amaeth 2025 yn dod i ben gydag enillwyr yr her yn derbyn gwobrau
24 Tachwedd 2025 Mae unigolion uchelgeisiol y mae eu dyfodol yn
Pam mae dwysedd porfeydd yn hanfodol ar gyfer tros-hau llwyddiannus
14 Tachwedd 2025 Mae tros-hau porfeydd gyda chymysgedd aml
Dechrau Ffermio: Cyfleoedd ar gyfer lleoliad gwaith ledled Cymru!
13 Tachwedd 2025 Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfleoedd ar gyfer