20 Tachwedd 2023

 

Bydd ysbrydoli arferion diogel ar ffermydd Cymru yn nod allweddol i Bartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru (WFSP) pan fydd yn cynnal cyfres o weithgareddau ar y cyd â Cyswllt Ffermio yn Ffair Aeaf 2023.

Mae Cyswllt Ffermio, mewn menter ar y cyd â Phartneriaeth Diogelwch Fferm Cymru wedi gwahodd colegau amaethyddol Cymru a hefyd ysgolion uwchradd sy’n cynnig amaethyddiaeth ar eu cwricwlwm i Adeilad Lantra ar faes y sioe yn Llanelwedd i glywed cyflwyniad gan Brian Rees, ffermwr sydd hefyd yn hyfforddwr a mentor iechyd a diogelwch gyda Cyswllt Ffermio.

Bydd Brian yn cyflwyno sgyrsiau am 11am a 2pm ddydd Llun 27 a dydd Mawrth 28 Tachwedd ar iechyd a diogelwch ar y fferm, gan gynnwys gyrru ATV a gweithio ar uchder.

Yn fwy cyffredinol, bydd Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru ar ei stondin arferol yn Neuadd Morgannwg, lle bydd yn cynnal cystadleuaeth ddyddiol gyda chyfle i ennill helmed ATV.

Bydd staff hefyd yn dosbarthu popeth o arwyddion diogelwch ar y fferm ar eu ffurf newydd a llyfryn wedi'i anelu at blant i'r llyfr darllen, Diolch byth am Bob!

Yn y cyfamser, bydd Cyswllt Ffermio ar y balconi uwchben y cylch gwartheg, tra yn Adeilad Lantra, bydd digwyddiad arbennig yn Ystafell 1, ble bydd darparwyr hyfforddiant yn hyrwyddo eu cyrsiau hyfforddiant ac yn ymgysylltu â’r cyhoedd.

Bydd darparwyr yn cynnal arddangosiadau rhyngweithiol - ddydd Llun, tro IBERS, JHS Ltd, PMR Ltd, NPTC a Simply the Best Training Ltd fydd hi a dydd Mawrth, IBERS, Coleg Sir Gâr, mwmac Ltd, Insynch ac Ambiwlans Sant Ioan.

Bydd ATV a gyflenwir gan Smithfield Tractors yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo negeseuon diogelwch wrth ddefnyddio’r cerbydau hyn.

Dywedodd Sarah Lewis, dirprwy gyfarwyddwr Lantra Cymru, y bydd cymorth ar gael i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) a modiwlau e-ddysgu a chymorth ar gyflwyno ceisiadau am gyllid.

Bydd angen i unigolion fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio i ddefnyddio'r gwasanaeth. Bydd angen i ymwelwyr ddod â'u manylion mewngofnodi BOSS gyda nhw i gael cymorth.
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y
Sut mae dod yn ystadegyn damweiniau wedi gwneud ffermwr yn bencampwr iechyd a diogelwch fferm
23 Ebrill 2024 {"preview_thumbnail":"/farmingconnect/sites
Fferm Rhyd Y Gofaint yn treialu defnyddio meillion gwyn i leihau costau gwrtaith a hybu cynhyrchiant
18 Ebrill 2024 Mae Deryl a Frances Jones o fferm Rhyd Y Gofaint