10 Mehefin 2025
Mae cynnwys echdyniad compost yn y rhaglen agronomeg ar fferm laeth yng Nghymru wedi dangos bod yr effaith fuddiol ar weithgarwch microbaidd yn y pridd yn parhau.
Mae Sam Carey yn cynhyrchu llaeth o fuches sy’n lloia yn y gwanwyn ar fferm Mathafarn, Llanwrin, lle mae'n rhoi systemau ar waith i greu busnes ffermio cynaliadwy a phroffidiol, heb fewnbynnau, ar y daliad bîff a defaid gynt.
Fel rhan o'r uchelgais honno, a gyda chymorth ariannol gan Gyllid Arbrofi Cyswllt Ffermio, mae Sam wedi bod yn treialu echdyniad compost newydd, sef cynnyrch ac iddo lawer iawn o facteria, ffyngau, protosoa a nematodau buddiol, sy’n cael ei weithgynhyrchu gan Soil Ecology Laboratory.
Trwy ategu iechyd ac effeithlonrwydd maetholion y pridd, mae'n gobeithio lleihau faint y dibynnir ar wrtaith synthetig yn ei dro.
Gwasgarwyd y 'Goop' ar chwe chae ar gyfraddau a oedd yn amrywio o gyfradd isel o 2 litr/hectar (ha) hyd at uchafswm o 12 litr/ha.
Saith mis yn ddiweddarach, dangosodd dadansoddiad o’r pridd fod gwelliannau microbaidd gan y cynnyrch yn dal i fod yn amlwg.
Roedd caeau wedi'u trin â’r ‘gop’ yn cynnwys mwy o ffyngau, amoebau a nematodau o’i gymharu â chaeau heb eu trin, ac roedd y lefelau hyn wedi'u cynnal yn y cyfnod saith mis hwnnw rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd 2024.
Nododd y dadansoddiad fod ychydig mwy o nitrogen ar gael yn y pridd lle gwasgarwyd y ‘Goop’, a fawr ddim o wahaniaeth o ran lefelau ffosfforws.
O ran potasiwm, yr unig wahaniaeth a nodwyd oedd pan oedd y cynnyrch wedi'i wasgaru ar gyfradd uwch – roedd y lefelau yn y pridd yn uwch nag y rhai yn y llain gyfatebol heb ei thrin.
Mae Kate Waddams, ymchwilydd ym Mhrifysgol Aberystwyth a adolygodd y canlyniadau, yn dweud ei bod hi'n anodd rhoi gwerth ar y manteision a ddatgelwyd yn y dadansoddiad o’r pridd heb fesur ei effaith ar dwf glaswellt neu gnydau ond, ychwanegodd: "Os gall ddisodli rhywfaint o wrtaith nitrogen, gallai’r arbedion nid yn unig fod yn sylweddol ond, gyda gwelliannau yn iechyd y pridd, gallent fod yn hirhoedlog hefyd.''
Bu i’r prosiect hefyd edrych ar sut roedd priddoedd yn ymateb i'r gwahanol gyfraddau gwasgaru, oherwydd po fwyaf y cynnyrch a gaiff ei ddefnyddio, y mwyaf yw'r gost. Yn ystod yr astudiaeth, fe'i gwasgarwyd ar gyfradd o 4 litr/hectar, ar gost o £4/litr, sef £16/ha. Ar gyfradd o 10 litr/ha, roedd y gost yn sylweddol uwch, sef £40/ha.
Yn ôl y canlyniadau, nid oedd unrhyw wahaniaeth o ran lefelau’r amoebau a’r nematodau p’un a oedd y ‘Goop’ yn cael ei wasgaru ar gyfradd uchel neu isel.
"Mae hyn yn awgrymu bod gwasgaru ar gyfradd is yr un mor effeithiol â'r gyfradd uwch," meddai Kate.
Ond ychwanegodd: "Wrth gymharu pob gwasgariad o’r ‘Goop’ â'i reolydd priodol, gwelwyd mwy o werth maetholion a oedd ar gael yn y pridd yn sgil defnyddio cyfraddau gwasgaru uwch.”
I Sam, mae'r canlyniadau wedi bod yn ddigon cadarnhaol iddo fod eisiau parhau ar y llwybr y bu iddo gychwyn arno o ran gwella microbioleg y pridd.
Mae opsiynau y mae'n bwriadu edrych arnynt yn y dyfodol yn cynnwys gwahanol ddulliau gwasgaru, fel brechu hadau wrth ail-hadu.
"Mae gen i ddiddordeb hefyd mewn edrych ar lefelau maetholion y pridd a'u heffeithiau ar ficrobioleg," meddai.
O ran arbrawf Cyswllt Ffermio, mae Sam o’r farn bod llawer i’w ddweud o blaid y cynnyrch, gan ychwanegu: "Mae dulliau gwasgaru yn cael effaith sylweddol ar hyfywedd y cynnyrch, ac mae angen ymchwilio ymhellach i hynny."
Bu iechyd y pridd o ddiddordeb i Sam ers amser maith, ac mae wedi cymryd rhan mewn cwrs ar-lein a gafodd ei redeg gan Dr Elaine Ingham, sy’n arbenigwr a gydnabyddir yn rhyngwladol ar ficrobioleg y pridd.
Gwnaeth y cwrs hwn, meddai, roi goleuni ar sut mai’r pridd yw ased mwyaf ei fferm a pham mae cynnal iechyd y pridd mor bwysig.
Dyna pam y gwnaeth gais ar gyfer y Cyllid Arbrofi ar gyfer yr astudiaeth ar y fferm, i'w helpu i ddeall yn well sut y gellid gwella'r ficrobioleg yn ei bridd.
Menter Cyswllt Ffermio yw’r Cyllid Arbrofi sy'n ariannu unigolion a grwpiau o ffermwyr a thyfwyr i arbrofi gyda syniadau a dod â nhw'n fyw.