Manteisiodd Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, ar ei hymweliad â’r sioe laeth yng Nghaerfyrddin heddiw, i lansio ‘Datblygu eich Busnes’, cam cyntaf rhaglen trosglwyddo gwybodaeth ac arloesi newydd Cyswllt Ffermio.
 
Bydd y rhaglen newydd yn rhoi cymorth i fusnesau ffermio a choedwigaeth yng Nghymru, gan sicrhau eu bod yn cael y cyfle i foderneiddio, datblygu a goroesi yn yr hyn sydd bellach yn farchnad fyd-eang. 
 
Meddai Rebecca Evans
 
“Mae ein ffermwyr gorau un eisoes wedi ymrwymo i ddysgu gydol oes a chyfnewid gwybodaeth, ac maent yn agored i syniadau newydd arloesol a ffyrdd mwy effeithiol o weithio.  Rwyf am i bob ffermwr yng Nghymru ddilyn eu hesiampl. 
 
“Er bod nifer y ffermwyr a gofrestrodd ar gyfer Cyswllt Ffermio yn y gorffennol yn galonogol – mae ymhell dros 115,000 wedi elwa ers 2007 – mae angen i lawer mwy o fusnesau ddefnyddio gwasanaethau Cyswllt Ffemio yn y dyfodol, i sicrhau bod yr weledigaeth bositif yr wyf yn ei rhannu gyda sawl un yn y diwydiant yn cael ei gwireddu.   
 
“Rwyf am i bob ffermwr sylweddoli bod y datblygiad personol, a datblygiad eu busnes drwy Cyswllt Ffermio, pan gaiff ei ddefnyddio’n ddoeth, yn fuddsoddiad sylweddol yn eu busnes.  
 
“Fy ngweledigaeth yw gweld busnesau fferm modern, proffesiynol a phroffidiol o fewn diwydiant cryf a hyderus.  Diwydiant sy’n gallu cystadlu ledled Ewrop a thu hwnt.  
 
“Bydd Cyswllt Ffermio yn helpu i gynnig y cymorth sydd ei angen i gyflawni hyn, ond dim ond os bydd ffermwyr a choedwigwyr yn ymuno â ni a chymeryd rhan yn llawn yn yr hyn sydd gan y rhaglen newydd i’w chynnig.”  
 
Mae’r ffyrdd o gymhwyso ar gyfer rhaglen Cyswllt Ffermio wedi ehangu’n sylweddol o dan y rhaglen newydd.  Am ragor o wybodaeth ar yr ystod newydd o wasanaethau, ewch i
http://business.wales.gov.uk/farmingconnect/cy neu ffonio Canolfan Wasanaethu Cyswllt Ffermio.  Mae angen i bawb a gofrestrodd o dan y rhaglen flaenorol ail-gofrestru.


Related Newyddion a Digwyddiadau

Cymorth i Dyfwyr a Ffermwyr yng Ngŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad
13 Mai 2024 Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad ar Faes Sioe Frenhinol
Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o