23 Medi 2024

Richard Wilding, ffermwr defaid ucheldir o Lanandras, oedd enillydd Gwobr Dysgwr y Flwyddyn Cyswllt Ffermio yn y categori 40 oed ac iau yng Ngwobrau Lantra Cymru a gynhaliwyd yn ôl ym mis Ionawr.

Dychwelodd Richard, sy’n ffermio mewn partneriaeth â’i dad, i ffermio defaid yn llawn amser yng nghanol ei 20au ar ôl gweithio i asiantaeth y llywodraeth am chwe blynedd. Dilynwyd hynny gan daith waith 18 mis i ffermydd mawr yn Awstralia a Seland Newydd.

Dychwelodd i Gymru mewn pryd i ddod o hyd i waith yn ystod tymor wyna 2013, a sefydlodd fusnes bugeilio contract yn fuan, a sefydlodd ei ddiadell ei hun ar y fferm deuluol lle mae bellach yn ffermio mewn partneriaeth â’i dad.

Fodd bynnag, oherwydd nad oedd wedi astudio amaethyddiaeth ar ôl yr ysgol, teimlai Richard fod bylchau yn ei set sgiliau ac aeth ati i unioni’r fantol drwy Cyswllt Ffermio.

"Gwnes i gwrs magu a rheoli lloi yn ddiweddar, gan ein bod ni wedi bod yn edrych ar fagu lloi fel menter arallgyfeirio. Rwyf hefyd wedi cwblhau'r cwrs Offer Chwistrellu wedi’i Osod ar Gerbyd. Rydyn ni’n tyfu betys porthiant yma ar y fferm sy'n gnwd dwys i'w dyfu gan ddefnyddio’r offer chwistrellu sawl gwaith o bosibl. Mae gallu gwneud y gwaith chwistrellu fy hun wedi golygu fy mod i’n gallu bod yn llawer mwy cywir o ran amseriad y chwistrellau. Y gobaith yw y bydd byn yn golygu y galla i gynhyrchu cnwd gwell a lleihau porthiant dwysfwyd ychwanegol,” meddai Richard.

Mae Richard yn rhoi’r clod i’r rhaglen Cyswllt Ffermio, sydd wedi ei helpu i ddysgu sgiliau newydd a gwella'r rhai presennol.

Dywedodd y beirniaid yng Ngwobrau Lantra Cymru fod chwant amlwg Richard am ddysgu a’i benderfyniad i ddatblygu sgiliau ychwanegol mewn meysydd megis costau cynhyrchu, rheoli glaswelltir a da byw, cadwraeth, rheoli coetir a charbon, yn dangos ymrwymiad rhagorol i ddatblygiad personol, sy'n golygu ei fod yn enillydd teilwng iawn y wobr Dysgwr y Flwyddyn hon.

Mae taith Richard yn enghraifft o’r cymorth cynhwysfawr sydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio. Yn ogystal â chyrsiau hyfforddiant, mae hefyd wedi defnyddio Dosbarth Meistr Uwch mewn, ‘Meistr ar Wndwn Llysieuol’, a grwpiau trafod Cyswllt Ffermio yn ymdrin â phynciau fel cyngor maeth cyn wyna a thrin data diadelloedd.

Mae Richard hefyd wedi cael budd o’r Gwasanaeth Cynghori, gan dderbyn cyngor arbenigol ar ofal milfeddygol, rheoli da byw, rheoli glaswelltir a chnydau, a chynllunio busnes ar gyfer ei fferm.

Wrth edrych ymlaen, mae Richard yn bwriadu manteisio ar gyrsiau hyfforddiant ychwanegol Cyswllt Ffermio i wneud y gorau o'i weithrediadau fferm.

“Rwy’n meddwl fel ffermwyr yn gyffredinol, ein bod ni’n mynd i orfod gwneud mwy am lai. Felly, gyda hynny mewn golwg i gael mwy allan o'r fferm, mae yna gwpl o gyrsiau agronomeg a chwrs systemau glaswelltir rwy’n gobeithio ymchwilio iddyn nhw fel y galla i gael ychydig mwy allan o'r fferm, a defnyddio'r hyn sydd gen i yma ychydig yn well, gobeithio”.

Mae’r enwebiadau ar gyfer Gwobrau Lantra eleni ar agor ar hyn o bryd ac mae Cyswllt Ffermio yn edrych am unigolion ysbrydoledig sy’n haeddu cydnabyddiaeth am eu hymroddiad parhaus i ddatblygu sgiliau.

Mae’r gwobrau ar agor i holl gleientiaid Dysgu Gydol Oes Cyswllt Ffermio sydd wedi cwblhau hyfforddiant drwy Raglen Cyswllt Ffermio ers mis Ionawr 2017.

Mae dau gategori:

  1. Ar gyfer dysgwyr 40 oed ac iau ar 1 Ionawr 2024

  2. Ar gyfer dysgwyr 40 oed a hŷn ar 1 Ionawr 2024

Cysylltwch â wales@lantra.co.uk am ragor o wybodaeth ar sut i gyflwyno enwebiad, y dyddiad cau yw dydd Gwener 18 Hydref 2024.

Bydd yr enillwyr a’r rhai a ddaeth yn ail yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a swper mawreddog yn The Metrapole Hotel & Spa, Llandrindod Wells ddydd Iau 16 Ionawr 2025.

Am ragor o wybodaeth ynghylch sut y gall Cyswllt Ffermio helpu’ch busnes, ewch i ein gwefan


Related Newyddion a Digwyddiadau

Sgorio Cyflwr y Corff: Rhoi Hwb i Berfformiad y Ddiadell a Phroffidioldeb mewn Cyfnodau Heriol
05 Tachwedd 2024 Er gwaethaf prisiau ŵyn cryf, mae costau
Cynllun gwrthsefyll newid hinsawdd ar gyfer Busnesau Garddwriaeth yng Nghymru
Ydych chi erioed wedi meddwl sut i wella perfformiad eich diadell? Sut gallai’r 2 cilogram o bwysau ychwanegol hwnnw fesul oen effeithio ar eich perfformiad ariannol? Meddyliwch am eneteg.
17 Hydref 2024 Mae Cyswllt Ffermio yn edrych ymlaen at ail-agor y