john sarah yeomans 0
Y ffermwyr defaid John a Sarah Yeomans, Fferm Llwyn y Brain ger y Drenewydd, yw Ffermwyr Defaid y Flwyddyn 2018 yng Ngwobrau’r Farmers Weekly; llwyddodd y milfeddyg Oliver Hodgkinson, sy’n bartner yn Trefaldwyn Vets, i ennill dyfarniad Cynghorydd Fferm y Flwyddyn, a’r enillydd ieuengaf oedd Jacob Anthony, 25 oed, o Fferm Cwm Risga, Pen-y-Bont ar Ogwr a gafodd ei enwi’n Ffermwr Ifanc y Flwyddyn.  

Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio ar ran Llywodraeth Cymru, oedd un o’r cyntaf i gynnig ei llongyfarchiadau cynhesaf.

“Rydym yn falch tu hwnt bod gan bob un o’r enillwyr categori yma gysylltiadau agos a hirsefydlog gyda Chyswllt Ffermio.

“Mae hyn yn golygu nid yn unig eu bod yn perfformio ar y lefelau uchaf bosib yn eu busnesau a’u meysydd gwaith eu hunain, ond eu bod hefyd yn dod ag arbenigedd a gwybodaeth i’r diwydiant ehangach yng Nghymru drwy eu cysylltiad â Chyswllt Ffermio.”

Dywedodd beirniaid y gwobrau bod John a Sarah yn esiamplau gwych o’r hyn y mae’n bosib ei gyflawni ar fferm fynydd gymysg yng Nghymru, gan ddweud bod y cwpwl yn benderfynol o orchfygu’r cyfnodau heriol y mae pob ffermwr yn eu hwynebu drwy wneud eu busnes yn fwy gwydn. Ochr yn ochr â’u penderfynoldeb i ddod trwyddi, soniodd y beirniaid am eu hymrwymiad a’u hymroddiad rhagorol i gefnogi eu cymuned ffermio leol a byd amaeth Cymru’n gyffredinol.

Mae John wedi cyflawni ysgoloriaeth Nuffield sy’n hyrwyddo’r angen am ddulliau gwahanol o raddio eidion ac oen ac mae’n fentor cymeradwy i Gyswllt Ffermio, sy’n golygu ei fod yn rhoi arweiniad wedi’i ariannu, ar y fferm, i ffermwyr eraill. Mae hefyd wedi teithio i Iwerddon a’r Ffindir yn ddiweddar drwy gyfrwng y rhaglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio ar ymweliad canfod ffeithiau lle bu’n archwilio sut y gallai ffermwyr wella’r defnydd a wnânt o laswellt o fewn cyfnodau tyfu byrrach. Mae ef a Sarah hefyd yn cynnal safle ffocws sy’n rhan o rwydwaith arddangos Cyswllt Ffermio. Mae Sarah, oedd yn rheolwr rhanbarthol yn y gorffennol i Cyswllt Ffermio yng Nghanolbarth Cymru, yn chwarae rôl hanfodol yn eu busnes ond, ar yr un pryd, yn cynnal grŵp hyfforddi a thrafod ffermio yn lleol.

oli hodgkinson 1
Y milfeddyg fferm Oliver (Oli) Hodgkinson yw Cynghorydd Fferm y Flwyddyn 2018 Farmers Weekly. Ers iddo ymuno â milfeddygfa annibynnol Trefaldwyn Vets yn 2009 fel partner, mae Oliver wedi rhoi’r pwyslais pennaf ar symud o ymdrin â phroblemau ar frys gyda meddyginiaeth, i lunio cynlluniau iechyd rhagweithiol i’w gleientiaid, sef 200 o ffermydd bîff, defaid a llaeth. Ac mae’n ymddangos ei fod yn ennill y frwydr, a gall ei gleientiaid John a Sarah Yeomans dystio i hynny!

Mae gan Oliver berthynas waith agos gyda Chyswllt Ffermio, mae’n cynnal prosiectau a digwyddiadau sy’n ymwneud ag iechyd anifeiliaid ac mae hefyd wedi bod yn gynrychiolydd ar Grŵp Llywio Milfeddygaeth Gogledd Cymru. Mae’n llwyddo i weithio ar ei fferm ei hun a rhedeg milfeddygfa gymysg brysur hefyd. Mae’n gweithio gyda Gwaredu BVD (rhaglen waredu BVD yng Nghymru) ac mae wedi bod yn aelod o fwrdd sector llaeth y Tractor Coch, Cymdeithas Milfeddygon Gwartheg Prydain a BVD Free England.

Dywedodd y beirniaid fod cleientiaid yn ystyried cynghorwyr fferm da yn gost angenrheidiol am eu bod yn datrys problemau pan fyddent yn codi. Yn wir mae’r cynghorwyr gorau’n neidio o fod yn gost i fod yn allweddol mewn dod ag elw i’r busnesau y maent yn eu cynghori, gan ddefnyddio eu gwybodaeth eang i ganfod y mannau lle gellir gostwng costau, gwella iechyd a manteisio’n llawn ar y cynlluniau a’r grantiau sydd ar gael.

“Dydy’r rhai gorau ddim yn bodloni ar helpu eu cleientiaid eu hunain yn unig, maent eisiau gweld y diwydiant amaeth cyfan yn dod yn fwy proffidiol a diogel, ac o ran Oliver, mae eisiau gweld safonau uwch o ran llesiant hefyd.”

Y ffermwr pumed genhedlaeth Jacob Anthony, sy’n ffermio ar fferm y teulu yng Nghwm Risca yn Nhondu, gerllaw Pen-y-Bont ar Ogwr, yw Ffermwr y Flwyddyn 2018 Farmers Weekly.

Mae Jacob wedi llwyddo i droedio’r llwybr anodd o weithio ar fferm y teulu drwy fod yn ddigon dewr i wneud newidiadau ar sail y meddylfryd “os nad yw wedi torri, gadewch e fod”. Ar ôl cwblhau diploma amaeth dair blynedd yng Ngholeg Hartpury, penderfynodd ddychwelyd i Gwm Risca, gan wrthod yr antur y mae’r rhan fwyaf yn mynd arni i lawr i hemisffer y de, a rhoddwyd y cyfrifoldeb llwyr arno am y fenter ddefaid.

jacob3 1
Gyda’i frwdfrydedd eithriadol ynglŷn â chynnydd a gadael y fferm yn well nag ydoedd ar y dechrau, mae Jacob wedi cymryd pob cyfle i wella ei wybodaeth, diweddaru ei systemau rheoli a sefydlogi ei lif arian. Mae’n dweud bod rhywfaint o’i hyder a’i uchelgais yn deillio o’i brofiad ar raglen datblygiad personol flaenllaw Cyswllt Ffermio, yr Academi Amaeth yn 2014 a hefyd y ffaith ei fod yn aelod o grŵp trafod defaid Cyswllt Ffermio.

Mae Jacob yn gofalu am ddiadell o 1,000 o famogiaid bridio Lleyn a Texel croes a 300 o wartheg, yn cynnwys 110 o wartheg sugno Du Cymreig a Limousin/Charolais croes, a 10 o wartheg pedigri Du Cymreig. Ers dychwelyd i fferm y teulu, mae wedi gwneud nifer o newidiadau er mwyn gwneud y fferm yn fwy effeithlon a gostwng costau prynu i mewn, gan gynnwys symud cyfnod yr wyna o fis Chwefror i fis Mawrth/Ebrill, tynnu dwysfwydydd o ddiet y ddiadell a gostwng yr oedran diddyfnu i 12 wythnos. Mae hefyd wedi defnyddio grant Llywodraeth Cymru i brynu system trin defaid, sydd wedi ei gwneud hi’n haws rheoli’r praidd. Trwy brofi samplau gwaed a thail yn rheolaidd, cadw llygad ar faint o bwysau byw y mae’r anifeiliaid yn ei ennill bob dydd ac ymgynghori’n rheolaidd â phobl broffesiynol, gall Jacob drin problemau penodol yn ei ddefaid, osgoi sefyllfa lle mae cyffuriau’n mynd yn aneffeithiol am ei fod yn eu gorddefnyddio a gwella iechyd ei ddiadell. Mewn datganiad canmoladwy iawn, dywedodd un o feirniaid annibynnol y gwobrwyon,

“Mae Jacob wedi creu ac wedi chwilio am gyfleoedd i hyfforddi a datblygu ei sgiliau personol a thechnegol, ac yna eu defnyddio’n hynod o effeithiol ar ei fferm gartref. Mae brwdfrydedd mawr Jacob ynglŷn â chymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ffermio’n rhagorol – mae’n rhywun i edrych allan amdano.”

Am wybodaeth fanwl am holl enillwyr gwobrau categori Farmers Weekly eleni, yn cynnwys y rheiny y soniwyd amdanynt uchod, ewch i www.fwi.co.uk/events/awards  


Related Newyddion a Digwyddiadau

Arbrawf tyfu cnau yn edrych ar hyfywedd cynhyrchu cnau Ffrengig yng Nghymru
08 Mai 2024 Mae cwpwl o Sir Gâr yn arbrofi gyda thyfu cnau ar eu
Bydd modiwlau newydd Cyswllt Ffermio yn helpu ffermwyr i drosglwyddo i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
30 Ebrill 2024 Mae Cyswllt Ffermio wedi lansio set newydd o
Arbrawf llaeth yn edrych ar iechyd lloi ar fferm laeth yn Sir Benfro
25 Ebrill 2024 Mae fferm laeth yn Sir Benfro sy’n lloia yn y