4 Tachwedd 2019

 

Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyngor wedi ei ariannu i gefnogi busnesau er mwyn bod yn fwy hyblyg ac er mwyn gallu addasu i newid. Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws Cymru i gyd-fynd â hyn.
Bydd y digwyddiadau yn cynnwys sgwrs gan Jeremy Moody, CAAV (Central Association of Agricultural Valuers) fydd yn cyflwyno gwybodaeth hanfodol ar gynllunio busnes a rheoli newid, pwysigrwydd o ddadansoddi cyflwr cyfredol y busnes a sut i ystyried cyfleoedd yn y dyfodol. 
Bu Jeremy Moody yn ysgrifennydd ac yn gynghorydd i CAAV ers 1995. Bu ynghlwm a’r gwaith a wnaed ar Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995, sawl cam o ddiwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin / Cyffredinol a bellach y broses Brexit.   Mae’n delio â bob math o faterion sy’n rhan o waith y CAAV ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys tenantiaeth amaethyddol a materion sy’n ymwneud â materion meddiannu tir, treth, prisio a thelathrebu, gan gysylltu gyda’r llywodraeth ar bob lefel ac ysgrifennu’n eang ar bolisi ac arferion. Mae o’n aelod Cynulliad o Grŵp Ewropeaidd y Cymdeithasau Priswyr (TEGoVA) ac yn Is-Gadeirydd ar y Bwrdd Safonau Prisio Ewropeaidd.
Bydd Jeremy yn amlinellu sut y gall busnesau amaethyddol a’r diwydiant cyfam reoli’r newidiadau sydd o’n blaenau. 

Bydd Sion Evans, Cyswllt Ffermio, hefyd yn drafod manteision meincnodi perfformiad eich busnes ac yn darpau gwybodaeth am rhaglen meincnodi Cyswllt Ffermio; Mesur i Reoli. 

Bydd mynychu’r digwyddiadau yma hefyd yn caniatau i’ch busnes gael mynediad at gyngor technegol wedi’i ariannu gan gynghorwyr Cyswllt Ffermio. Gall busnesau cael cyllid hyd at 80% ar gyfer cyngor technegol ar sail un-i-un a chyngor wedi’u ariannu’n llawn ar sail grwp. 
Mae’n rhaid i’r unigolyn sy’n mynychu fod wedi cofrestru fel partner busnes gyda Cyswllt Ffermio a Thaliadau Gwledig Cymru Llywodraeth Cymru
Cyn mynychu digwyddiad, rhaid sicrhau bod y busnes a’r unigolion wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio.  Byddwn yn croesgyfeirio cyn y gellir cymeradwyo cais ar gyfer cyngor technegol er mwyn cadarnhau eich bod wedi mynychu digwyddiad penodol.
Bydd eich swyddog datblygu lleol yn gallu darparu cefnogaeth ac arweiniad parhaus i chi yn ôl yr angen. Gallant hefyd eich cynorthwyo i adnabod gofynion busnes ychwanegol a’ch cyfeirio at wasanaethau eraill Cyswllt Ffermio.
Mae’r digwyddiad hwn am ddim ond mae’n hanfodol eich bod yn archebu lle. 
 

Mae lleoliadau a dyddiadau’r digwyddiadau fel a ganlyn:


07/11/2019    19:30 – 21:30    Glasdir, Plas yn Dre,, Llanrwst, Conwy, LL26 0DF
12/11/2019    19:30 – 21:30    Hafod a Hendre, Maes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd, Llanfair-ym-Muallt, Powys, LD2 3SY

 

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
 


Related Newyddion a Digwyddiadau

Coeden a dyfir ar fferm Rhwydwaith Coed Nadolig Cyswllt Ffermio yn cyflenwi Rhif 10
19 Tachwedd 2024 Mae gan fusnes o Bowys sy'n aelod o rwydwaith o
Estyn allan i’r genhedlaeth iau – Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn targedu’r ifanc mewn ymgais i wneud ffermydd Cymru yn fwy diogel
18 Tachwedd 2024 Nid yw bob amser yn hawdd dweud wrth ffermwr
Gwella’r gallu i wrthsefyll y newid yn yr hinsawdd drwy gyrsiau Cyswllt Ffermio
13 Tachwedd 2024 Gall hyfforddiant a sgiliau newydd helpu